Taith gerdded Aberystwyth i Fynachdy’r Graig

Llwybr cerdded

Bydd y daith gerdded hon yn eich tywys o ysblander glan môr hanesyddol Aberystwyth, ar hyd arfordir hyfryd Bae Ceredigion at hen faenor Mynachdy’r Graig.

Crensiwch ar hyd y cerrig mân ar Draeth Tanybwlch

Mwynhewch y golygfeydd pell o Ynys Aberteifi i Ynys Enlli, i Benrhyn Llŷn ac Eryri. A beth am ddarganfod tref a chastell Aberystwyth ar ddiwedd eich taith?

Mynachdy’r Graig yn yr haf

Map

Map route for Aberystwyth to Mynachdy'r Graig walk

Dechrau:

Pier Aberystwyth, cyf grid: SN581818

1

Dechreuwch y daith o’r Pier yn Aberystwyth.

Darllen mwy

2

Cerddwch tua’r de gyda’r môr ar eich llaw dde, heibio’r castell.

Darllen mwy

3

Cymerwch y troad nesaf ar y chwith ar hyd ffordd Tan-y-Cae (South Road) i briffordd A487 a throwch i’r de dros Afon Rheidol ar Bont Trefechan.

4

O’r fan hon, ewch ar hyd ffordd Pen yr Angor (sef yr 2il ffordd ar y dde). Cerddwch heibio Modurdy Mazda Anthony Motors a thros y bont fechan i draeth storm Tanybwlch.

Darllen mwy

5

Mae maes parcio ar y graean ger y lanfa garreg. Dilynwch lwybr yr arfordir drwy’r giât ar eich llaw chwith ar hyd y llwybr gwastad ar dop y traeth, sy’n arwain yn syth at y ddringfa serth lan i ben Allt-wen.

6

Dilynwch farcwyr llwybr yr arfordir ar hyd y llwybr. Mae mannau o ddiddordeb yn cynnwys Morfa Bychan, un o lawer o faenorau a oedd yn eiddo i fynachod Ystrad Fflur, ger Tregaron. Roedd Rhys Ddu yn byw yma pan frwydrodd Owain Glyndŵr dros annibyniaeth i Gymru yn y 14eg ganrif. Daliwyd Rhys gan y Saeson a’i grogi. Chwiliwch am olion sawl odyn galch ar hyd llwybr yr arfordir. Defnyddiwyd rhain i losgi calchfaen a fewnforiwyd o Dde Cymru. Roedd y calch wedyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu a hefyd yn cael ei chwalu dros y tir i felysu’r pridd a gwella tyfiant.

7

Mae’r llwybr yn mynd i lawr at adfail ffermdy Ffos-las ac at Fynachdy’r Graig sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Darllen mwy

8

Ry’ch chi wedi cyrraedd Mynachdy’r Graig nawr.

Darllen mwy

9

Nawr gallwch ail-ddilyn yr un llwybr nôl i Aberystwyth, neu gerdded i fyny’r trac i’r gilfan ar yr A487, lle gwnaiff y bws (X40, X50 neu 550) aros ar eich dymuniad a’ch cludo nôl i Aberystwyth. Checiwch wefan traveline-cymru am yr amserau.

Diwedd:

Pier Aberystwyth, cyf grid: SN581818

Rydych wedi cyrraedd

Yn dilyn y daith ar ffôn symudol neu dabled? Rhannwch eich profiad.

Taith gerdded Aberystwyth i Fynachdy’r Graig

Tirwedd

Cau

10.5 milltir (16.9km) i Fynachdy’r Graig ac yn ôl i Aberystwyth. Gallwch haneru’r daith drwy ddod nôl ar y bws. Llwybrau cymedrol i arw, gyda rhai rhannau serth.

Croeso i gŵn. Cliriwch ar ôl eich ci a chadwch ef ar dennyn yng nghanol da byw.

Taith gerdded Aberystwyth i Fynachdy’r Graig

Cysylltwch â ni

Cau
Taith gerdded Aberystwyth i Fynachdy’r Graig

Sut i gyrraedd yma

Cau
Cyfeiriad
Pier Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 2AZ
Ar drên

Gorsaf Aberystwyth 0.2 milltir (0.3km).

Ar y ffordd

Mae priffyrdd yr A487 a’r A44 yn mynd mewn a mas o Aberystwyth.

Ar fws

Llwybrau X50, X40 a 550. Gwelwch Traveline-Cymru

Ar feic

National Cycle Network taith 81 (Aberystwyth i Newtown).

Taith gerdded Aberystwyth i Fynachdy’r Graig

Cyfleusterau a mynediad

Cau
  • Cadwch gŵn ar dennyn pan fydd da byw o gwmpas.