Castell Penrhyn a’r fasnach gaethweision draws-Iwerydd

Planhigfa siwgr Denbigh yn Jamaica

Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn. Mae’n hanes o ecsbloetio pobl, gwneud ffortiwn ym mhlanhigfeydd siwgwr Jamaica, a masnach gaethweision draws-Iwerydd.

Yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd Gifford Pennant, a ddeuai’n wreiddiol o Sir y Fflint, brynu tir yn Jamaica a daeth yn berchennog ar un o stadau mwyaf yr ynys – ugain gwaith yn fwy na’r rhai cyffredin. 

Daeth ei fab, Edward (1672-1736), yn Brif Ustus Jamaica; ymhen amser daeth un o feibion Edward, Samuel (1709-50), yn Arglwydd Faer Llundain, ac ychwanegodd mab arall, John (m.1781), hyd yn oed fwy o dir at y stad yn Jamaica trwy briodi’n dda. 

Erbyn yr 1700au, roedd y teulu Pennant wedi dychwelyd i Brydain ac erbyn i Richard Pennant (1739-1808) ddod yn farwn cyntaf Penrhyn, roeddent yn rheoli eu heiddo yn Jamaica trwy lythyr.

Wrth i’r stad dyfu, roedd nifer y caethweision yn cynyddu. Erbyn 1805, roedd Richard Pennant yn berchen ar bron 5000 o ddynion, menywod a phlant.

12 Stori gan Manon Steffan Ros. Ymateb artistig i hanes Penrhyn.
Geiriau wedi’u pwytho ar ffabrig. Dyfyniad o lythyrau Jamaica’r Arglwydd Penrhyn.
12 Stori gan Manon Steffan Ros. Ymateb artistig i hanes Penrhyn.

Nid oedd erioed wedi ymweld â Jamaica na gweld caethwasiaeth ar waith drosto'i hunan ac mae ei lythyrau sy'n rhoi cyfarwyddiadau i reolwyr y stad yn rhoi cipolwg ddychrynllyd i ni ar ei agweddau at fywyd yn y planhigfeydd at at y caethweision yr oedd yn berchen arnynt.  

Yn hytrach na chyfeirio at y caethweision fel pobl, mae’n eu galw yn ‘chattels’, sef y term y byddai’n ei ddefnyddio ar gyfer gwartheg hefyd. Mewn un llythyr mae’r agwedd hon yn glir:

"I do not wish the cattle nor the negroes to be overworked".

Tybed ai o dosturi neu i geisio gwarchod ei asedau y dywedodd hyn?

Pennant a’i welliannau?

Er gwaetha’i gysylltiadau â chaethwasiaeth, roedd yn cael ei alw’n “Richard Pennant the Improver” am ei fod yn buddsoddi ei ffortiwn yn ei stad yn y gogledd. 

Talodd arian o Jamaica am ffyrdd, rheilffyrdd, tai, ysgolion a Chwarel y Penrhyn, a fu ar un adeg yn chwarel lechi fwyaf y byd ac a newidiodd dirwedd y gogledd am byth.

" The memory of his Lordship will long exist in the agriculture of North Wales, in the extensive traffic which has given employment and food to thousands, and in the opening of roads to and through the almost inaccessible mountains."
- Ysgrif goffa i Richard Pennant yn y Gentleman’s Magazine (1808, t. 170)

Pennant the anti-abolitionist

Daeth Pennant yn Aelod Seneddol Petersfield yn 1761 a, chwe blynedd yn ddiweddarach, daeth yn un o ddau Aelod Seneddol Lerpwl, a oedd erbyn hynny’n brif borthladd y fasnach gaethwasiaeth ym Mhrydain. 

Trwy ei deulu a chysylltiadau ym myd busnes a gwleidyddiaeth, daeth Pennant yn rhan o rwydwaith grymus a dylanwadol a oedd o blaid caethwasiaeth ac roedd ganddo gysylltiadau â bron bob un o berchnogion absennol Prydeinig y planhigfeydd.

Daeth Pennant yn gadeirydd y West India Committee, sefydliad o fasnachwyr a pherchnogion planhigfeydd, ac o 1788 ymlaen ef oedd cadeirydd is-bwyllgor arbennig i drefnu gwrthwynebiad i ddiddymu caethwasiaeth.

Roedd ei dactegau’n cynnwys noddi deisebau i’r senedd a chyhoeddi taflenni yn pleidio’r fasnach gaethweision ac yn esbonio’r manteision economaidd.

Defnyddiodd Richard ei safle fel Aelod Seneddol Lerpwl i ddadlau yn Nhŷ’r Cyffredin yn erbyn diddymu’r fasnach gaethweision.

" If they passed the vote of abolition they actually struck at seventy millions of property, they ruined the colonies, and by destroying an essential nursery of seamen, gave up the dominion of the sea at a single glance "
- Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn yn annerch trafodaeth yn y Senedd ar Ddiddymu Caethwasiaeth (1789)

Cofnodir ei anerchiadau seneddol yn Hansard wrth iddo frwydro’n groch yn erbyn y diddymu. Dadleuai Pennant y byddai dileu’r fasnach yn golygu na châi morwyr ifanc gyfle i ymarfer eu crefft ac roedd yn gwadu’n benant bod cludo caethweision o Affrica dros fôr Iwerydd yn greulon.  

Amcangyfrifir bod rhwng 10 a 20% o’r rhai a gludwyd yn marw ar y daith.

Er gwaetha’r gwrthwynebiad, llwyddodd y Senedd, ar 25 Mawrth 1807, i wahardd y fasnach gaethwasiaeth oddi mewn i'r ymerodraeth Brydeinig. Er bod Richard Pennant wedi marw erbyn hynny, gwaharddwyd cludo caethweision i Jamaica ym mis Mawrth 1808.

Rhwng 1833 a 1838, gwaharddwyd caethwasiaeth yn holl drefedigaethau Prydain, ac wrth i waith adeiladu Castell Penrhyn ddod i ben, cafodd teulu Pennant £14,683 17s 2d (tua £1.3 miliwn heddiw) am ryddhau 764 o gaethweision yn Jamaica.