
Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Injans stêm diwydiannol sydd yn Amgueddfa Reilffyrdd Castell Penrhyn, rhai ohonynt wedi eu defnyddio yn chwarel y Penrhyn ym Methesda, gerllaw. Mae’r amgueddfa’n awr yn yr hen stablau, oedd yn gartref ar un adeg i tua 36 o geffylau’r ystâd.
Heddiw gallwch weld dewis helaeth o injans, cerbydau, stoc y lein ac offer. Gallwch wylio ffilm i gael darlun da o fywydau blaenorol rhai o’r injans a welwch chi.
The Fire Queen oedd un o’r ddwy injan gyntaf i gael eu defnyddio ar Reilffordd Padarn yn syth ar ôl iddi agor yn 1849. Fe’i disodlwyd yn yr 1880au pan aeth i sied fach garreg yn y chwarel. Prynwyd hi gan un o gynrychiolwyr y Manifold Trust a’i rhoi ar fenthyg i’r amgueddfa gyda cherbyd salŵn yn 1969.
Mae gan Charles, injan tanc cyfrwy, gysylltiadau clos â’r Penrhyn. Roedd Charles yn un o’r injans ‘prif lein’ a ddefnyddiwyd yn Chwarel y Penrhyn. Fe’i hadeiladwyd gan yr Hunslet Engine Co yn 1882, a bu Charles yn gweithio hyd yr 1950au ac fe’i hadferwyd wedyn.
Am fod y bwyler wedi dirywio, cadwyd Charles yn sied yr injans ym Mhorth Penrhyn o tua 1958 ymlaen. Fe’i rhoddwyd ar fenthyciad parhaol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1963 trwy garedigrwydd Chwarel y Penrhyn.
Dyma un o’r cerbydau oedd yn rhedeg ar brif lein y chwarel ym Methesda. Roedd yn eiddo i Drên y Chwarelwyr, sefydliad oedd yn cael ei drefnu a’i ariannu gan y dynion i’w symud i’r chwarel ac ohoni.
Rhedodd y trên a’r cerbyd am y tro olaf ar 9 Chwefror 1953 a gosodwyd y cerbyd ar fenthyciad parhaol i’r Ymddiriedolaeth yn 1963 gan Chwarel y Penrhyn.
Gellir gweld y cerbyd hwn yn awr gyda Charles ac fe’i hadeiladwyd tua 1882, ynghyd â’r brif lein newydd i Chwarel Penrhyn Cyf ac fe’i defnyddiwyd gan Arglwydd Penrhyn a’i asiant ar gyfer teithiau rhwng prif swyddfa’r cwmni ym Mhorth Penrhyn a’r Chwarel ym Methesda.
Defnyddiwyd y car neu gert addurnedig hon i gludo swyddogion ac ymwelwyr o gwmpas tua 50 milltir o draciau oedd unwaith ar hyd Chwareli’r Penrhyn ym Methesda. Credir ei fod yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, a gallai 6 o bobl eistedd ynddo.
Injan dân i’w llusgo gan geffyl, a adeiladwyd gan Merryweather o Lundain. Heb Wasanaeth Tân Cenedlaethol roedd yn rhaid i’r tai bonedd ddarparu eu hoffer a dynion ymladd tân eu hunain. Ar yr injan dân hon mae’r seddi’n wynebu’r ochr i’r criw a sedd ar wahân yn y tu blaen i’r gyrrwr.
Gosodwyd injan stêm dau silindr fertigol tu ôl i’r bwyler i yrru’r pwmp oedd wedi ei raddio er mwyn i ddŵr gael ei gyfeirio at uchder Tŵr Castell Penrhyn.
Injan tanc cyfrwy yw Hugh Napier a adeiladwyd gan yr Hunslet Engine Company Ltd yn Leeds yn 1904 a threuliodd ei hoes waith gyfan yn Chwarel y Penrhyn.
Mae wedi ei hadfer yn llawn gofal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chwmni Rheilffordd Ffestiniog, lle mae’n byw erbyn hyn, gan ddod i’n gweld ni yma yn y Castell ar achlysuron arbennig. Rhoddwyd enw 4ydd Barwn Penrhyn i’r injan.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.