Digon i’w wneud
Mae Porthdinllaen yn le delfrydol i fwynhau diwrnod ar yr arfordir gyda’i olygfeydd mawreddog, dyfroedd cysgodol, traethau braf o dywod, pyllau creigiog difyr, cyfle i wylio’r pysgotwyr lleol wrth eu gwaith a thafarn y Ty Coch gerllaw i ddarparu lluniaeth.
Bywyd gwyllt
Mae llawer o fywyd gwyllt yma hefyd. Ar y clogwyni meddal mae gwenoliaid y glennydd a mulfrain yn nythu. Gwelir yn aml bioden y môr (neu’r ‘saer’ yn lleol) ac adar eraill yr arfordir. Mae’r pentir hefyd yn fan sy’n hoff gan y morloi llwyd lleol ac o dan y dŵr mae un o’r dolydd mwyaf o wellt y gamlas morol, sy’n darparu cynefin ar gyfer llawer gwahanol fath o bysgodyn, yng ngogledd Cymru.
Peidiwch â methu