Chwilio am olion ein gorffennol ar hyd arfordir Solfach

Ar ben pentir y Gribin, uwchben Harbwr Solfach

Mae chwilota am dreftadaeth a hanes yn hawdd ar hyd arfordir Solfach – mae digonedd o olion y gorffennol yma. Mae aneddiadau Oes yr Haearn yn amlwg ar y pentiroedd ac mae ffosiliau wedi cael eu darganfod yma yn y gorffennol.

Mae’r harbwr ei hun yn llawn straeon. Roedd lleoliad y pentref bach anghysbell hwn ar lan y môr yn golygu y gallai gadw cysylltiad gyda’r byd mawr, cyn i’r hewl gael ei hadeiladu. Ar yr arfordir hefyd cewch hanes llongddrylliadau, a stori am drychineb ddychrynllyd mewn goleudy.

Odynnau calch

Yn harbwr Solfach mae sawl odyn galch; gallwch eu gweld nhw o’r llwybr neu gallwch fynd yn agosach fyth pan fydd y llanw’n isel. Maen nhw dros  200 mlwydd oed ac yn dyddio’n ôl i gyfnod pan oedd calch yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adeiladu, ac fel gwrtaith i felysu’r pridd ar ffermydd. Roedd calchfaen a glo ar gyfer yr odynnau yn cael ei gludo gan cychod â gwaelod fflat ac yna’n cael eu dadlwytho i droliau adeg llanw isel. Byddai’r calchfaen yn cael ei losgi wedyn yn yr odynnau i greu’r calch. 

Caerau Oes yr Haearn

Mae Sir Benfro’n adnabyddus am ei chaerau o Oes yr Haearn; mae tua 50 ohonyn nhw ar hyd yr arfordir. Ry’n ni’n gofalu am bron i hanner ohonyn nhw, yn cynnwys tair caer bentir pwysig  gerllaw Solfach sef y Gribin, Porth y Rhaw a Dinas Fawr.

Cafodd y caeraru eu codi â’u cefnau at y môr er mwyn eu hamddiffyn rhag ymosodiadau o’r tir, ac roedd pobl yn byw ynddyn nhw 2-3000 o flynyddoedd yn ôl. Mae erydiad ar hyd y glannau wedi golygu bod y rhan fwyaf o’r tir yr oedd y cloddiau’n ei amddiffyn wedi diflannu, heblaw am y gaer y Gribin, sy’n cael ei chysgodi gan bentiroedd o bobtu iddi.

Hen felinau

Heibio Porth y Rhaw mae Cwm y Naw Ffynnon; darn serth o dir yw hwn sy’n arwain lawr i’r môr. ‘Slawer dydd roedd dwy felin yma, yn malu ŷd ac yn gwneud lliain. Caewyd y ddwy yn 1915. Allwch chi ffeindio’r sylfeini?

Llongddrylliadau

Mae sawl llongddrylliad wedi digwydd ar hyd y glannau peryglus hyn, ac mae traddodiad o smyglo yma. Nôl yn 1776 fe gollwyd y Phoebe and Peggy, ar ei thaith o Philadelphia i Lerpwl, yn agos at y fynedfa i Harbwr Solfach.

Collwyd pawb oedd ar y llong, a hefyd nifer o gychwyr Solfach a oedd yn ceisio eu hachub. Ond cafodd dillad ac eiddo pob corff a olchwyd i’r lan eu dwyn gan ddihirod lleol.

Goleudy’r ‘Smalls’

Cafodd y goleudy cyntaf ar gyfer y Smalls – rîff beryglus 24 milltir o’r lan – ei adeiladu o bren yn Solfach yn 1776, ac yna cafodd ei lusgo i’w le gan gwch tywys. Yn wreiddiol roedd yna ddau geidwad; Thomas Howell a Thomas Griffith.

Yn 1801, lladdwyd Griffith mewn damwain anffodus. Gan fod Howell yn poeni y byddai’n cael ei gyhuddo o ddynladdiad pe bai’n cael gwared â’r corff yn y môr, adeiladodd arch syml a’i hongian tu allan y goleudy i’w gadw nes byddai cwch nesaf awdurdodau’r goleudy yn cyrraedd.

Ond fe chwalwyd yr arch mewn tywydd drwg a dechreuodd y gwyntoedd hyrddio corff Griffith yn ôl a blaen yn erbyn y ffenest. Dychrynodd Howell yn llwyr, ond rhywsut fe lwyddodd i gadw golau’r goleudy ynghynn nes y daeth cymorth yn y pen draw.

O ganlyniad i’r profiad dychrynllyd a’r effaith gafodd hyn ar iechyd meddwl Howell, newidiwyd y polisi fel bod o leiaf tri o bobl mewn tîm goleudy o hynny ymlaen.