Skip to content

Ymweld â chefn gwlad Sir Benfro gyda'ch ci

Merlod yn pori er lles cadwraeth ym Mhenrhyn Dewi, Sir Benfro
Merlod yn pori er lles cadwraeth ym Mhenrhyn Dewi, Sir Benfro | © National Trust Images/Emma Ryan

Croesawir cŵn sy'n ymddwyn yn dda yn ein lleoedd gwledig ac arfordirol yn Sir Benfro drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi fynd am dro gyda'ch cyfaill pedair coes yn ystod eich ymweliad. Helpwch i sicrhau bod Sir Benfro'n parhau i fod yn rhywle gall pawb ei mwynhau drwy gadw eich ci dan reolaeth agos, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Ein system raddio pawen

Rydym wedi bod yn ymdrechu i’w gwneud hi’n haws ichi ddysgu pa mor ystyrlon o gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch cyfaill pedair coes gyrraedd. Er mwyn helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio pawen newydd ac wedi rhoi gradd i’n holl leoedd dan ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae ein lleoedd gwledig ac arfordirol yn Sir Benfro wedi’u graddio ag un bawen.

Mae croeso i gŵn yma, ond mae cyfleusterau’n gyfyngedig. Byddant yn gallu ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn yr ardaloedd agored cyfagos. Mae’n debygol y bydd cyfyngiadau tymhorol ar waith. Efallai bydd mynediad gyda’ch ci ar gael mewn ardaloedd penodol yn unig.

Beth sydd angen i mi gofio yn Sir Benfro?

Mae Sir Benfro'n llawn bywyd gwyllt a da byw mewn ardaloedd gwledig. Ar hyd yr arfordir, ac yn rhai o'n lleoedd cefn gwlad, mae gyrroedd o wartheg duon Cymreig a merlod Mynydd Cymreig wedi'u defnyddio ar gyfer pori cadwraethol. Yn ystod eich ymweliad, cadwch lygad allan am unrhyw arwyddion sy'n ymwneud â mynd â chŵn am dro - er enghraifft, p'un a oes angen i'ch ci fod ar dennyn.

Fe'ch cynghorir nad yw llawer o'r llwybr arfordirol wedi'i ffensio, gyda chlogwyni serth.

Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod.

Cŵn o gwmpas bywyd gwyllt a da byw

Dylid cadw cŵn ar dennyn o gwmpas da byw, merlod ac ardaloedd sydd ag adar sy'n nythu, ond os yw gwartheg neu anifeiliaid mawr eraill yn ceisio rhedeg ar ôl eich ci, mae'n fwy diogel ichi ollwng y tennyn nes eich bod yn ddigon pell o'r ardal.

Cyngor ar ddod ar draws morloi

Os byddwch yn dod ar draws naill ai grwpiau o forloi neu forlo bach ar ei ben ei hun, dilynwch y canllawiau canlynol:

  • Os ydych mewn cwch ar y môr arhoswch o leiaf 50m oddi wrth y morlo
  • Ar y tir cadwch eich ci ar dennyn tynn ac arhoswch o leiaf 20 metr oddi wrth forloi ar draethau.
  • Peidiwch fyth â mynd at forlo ar ei ben ei hun, naill ai yn y dŵr neu ar y tir

Cŵn ar yr arfodir a morloi

Mae llawer o’n lleoedd ar yr arfordir yn gartref i forloi sydd fel arfer yn bridio o ddiwedd yr haf hyd at ganol mis Tachwedd. Gellir gweld y rhieni a’u morloi bach yn gorwedd ar y traethau yn Sir Benfro, yn enwedig y traethau graean llai o Ben Strwmbl i lawr i Benrhyn Tyddewi a Phenrhyn Marloes. Yn aml bydd y fam forlo yn gadael ei morlo bach ar ei ben ei hun ar draeth. Nid yw hi wedi troi ei chefn ar ei hepil ac mae’n hollbwysig nad yw cŵn, pobl, cychod na phlant yn tarfu ar forloi bach sydd ar eu pennau eu hunain. Gall cyswllt â bodau dynol neu anifeiliaid eraill arwain at y morlo bach yn cael ei wrthod gan ei fam.

Cŵn yn rhedeg yn Freshwater West, Sir Benfro
Cŵn yn rhedeg yn Freshwater West, Sir Benfro | © National Trust Images/ Hugh Mothersole

Ble gall fy nghi fynd yn Sir Benfro?

Cŵn yn Freshwater West a Fferm Gupton
Mae croeso i gŵn ar Draeth Freshwater West ac yng nghaban syrffio a gwersyllfa fferm Gupton dan reolaeth agos. Ni chaniateir cŵn ar y llwybrau ar dir amaeth fferm Gupton gan fod bywyd gwyllt bregus yno.Trefnwch eich ymweliad â Freshwater West
Cŵn yn Ystâd Southwood
Rydym yn gofyn bod pob ci sy'n ymweld ag Ystâd Southwood yn cael ei gadw ar dennyn byr drwy'r adeg er mwyn lleihau aflonyddwch ar fywyd gwyllt a da byw sy'n byw ar draws miloedd o erwau'r ystâd.Trefnwch eich ymweliad ag Ystâd Southwood
Cerddwr ci ar y llwybr cerdded yn Stad Southwood, Sir Benfro
Cerddwr ci ar y llwybr cerdded yn Stad Southwood, Sir Benfro | © National Trust Images/John Millar

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.

Dilyn y cod cefn gwlad

Parchu pobl eraill

  • Ystyriwch y gymuned leol a phobl eraill sy'n gweithio yn yr awyr agored ac yn mwynhau eu hunain.
  • Parciwch yn ofalus fel bod mynediad i fynedfeydd a thramwyfeydd yn parhau'n glir.
  • Gadewch giatiau ac eiddo fel y cawsoch nhw.
  • Dilynwch lwybrau wedi'u marcio ac arwyddion lleol.
  • Byddwch yn gyfeillgar, dywedwch helô.

Amddiffynnwch yr amgylchedd naturiol

  • Peidiwch â gadael unrhyw ôl o'ch ymweliad, ewch â'ch holl sbwriel gartref gyda chi.
  • Byddwch yn ofalus wrth danio barbeciws a thannau - dylech eu defnyddio mewn ardaloedd dynodedig yn unig.
  • Cadwch gŵn dan reolaeth.

Cysylltwch â ni

Ffôn

Abereiddi: SA62 6DT, Abermawr: SA62 5UX Am ragor o wybodaeth

01646623110
Teulu yn mynd â’u cŵn am dro yn y parc yn Erddig, Wrecsam, Cymru

Dewch o hyd i'r lle nesaf i gerdded eich ci yng Nghymru

Mae digonedd o lefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru. O fynyddoedd a thraethau i erddi a pharciau, darganfyddwch lefydd i gerdded a chrwydro.

Ein partneriaid

Forthglade

We've partnered with natural pet food maker Forthglade so that you and your dog can get even more out of the special places we care for.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda'ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Golygfa o ben clogwyn gyda charreg fawr ar y dde yn edrych i lawr i’r môr islaw
Lle
Lle

Penrhyn Dewi 

A colourful coastline with heaps of history, this pretty peninsula’s been a cultural hotspot for thousands of years. Discover the area’s ancestry, from Celtic life to Wales’ patron saint. | Gyda’i forlin lliwgar a’i hanes cyfoethog, mae’r penrhyn hardd hwn wedi bod yn ganolbwynt diwylliannol ers miloedd o flynyddoedd. Dewch i ddarganfod hanes hynafiaid yr ardal, o fywyd y Celtiaid i nawddsant Cymru.

St David's Peninsula, Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw
Yr olygfa o Benberi ar Benmaen Dewi ym Mae San Ffraid, Sir Benfro, yn edrych tua’r gogledd-ddwyrain tuag at Ben Strwmbl yn y pellter
Lle
Lle

Strumble Head to Cardigan 

Pick up the pace in Pembrokeshire’s walking country; this rugged and remote expanse of towering cliffs and rocky outcrops is punctuated with coastal paths and soaring sea views. | Camwch yn gynt ar lwybrau cefn gwlad Sir Benfro; ymysg yr ehangder garw, anghysbell hwn o glogwyni uchel a cherrig brig, ceir llwybrau arfordirol a golygfeydd di-ben draw ar y môr.

Strumble Head, Pencaer to Cardigan, Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw
Two narrow tidal creeks converge at low tide and reveal mudflats and grassy banks. There's a woodland on the left-hand side of the picture and bare, winter trees overhang the creek.
Lle
Lle

Coedwigoedd Cleddau 

Follow the Cleddau waterway through tranquil, ancient woodland, expansive salt marsh and heritage-rich tidal creeks. Its journey from river to estuary is as peaceful and picturesque as they come. | Dilynwch ddyfrffordd Cleddau drwy goetir hynafol tawel, morfa heli eang a chilfachau llanwol llawn treftadaeth. Mae ei thaith o’r afon i’r aber yn llonydd hyfryd ac yn hynod bictwrésg.

West Williamston: SA68 0TL

Yn hollol agored heddiw
Y gors gyda bancyn glaswelltog uwchben a phedair alarch ifanc yn mwynhau yn y dŵr
Lle
Lle

Traeth a Chors Marloes 

Escape to the Marloes Peninsula, a hidden gem nestled on the very western edge of Pembrokeshire. Stunning seascapes and a wealth of wildlife are waiting to greet you. | Dihangwch i Benrhyn Marloes, trysor cudd ar ymyl gorllewinol Sir Benfro. Bydd morweddau ysblennydd a chyfoeth o fywyd gwyllt yn aros i’ch cyfarch.

Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw
Cliffs and the sea at Abereiddi, Pembrokeshire
Lle
Lle

Abereiddi i Abermawr 

Blue Lagoon, beaches, rocks and ruins; this wild stretch of coastline is where industry and adventure combine. Dive right into the past and see how stone quarries have paved the way for thrill-seekers. | Morlyn glas, traethau, creigiau ac adfeilion; ar hyd yr arfordir gwyllt hwn mae diwydiant ac antur yn cwrdd. Plymiwch yn ddwfn i’r gorffennol i weld sut mae chwareli wedi paratoi’r ffordd ar gyfer rhai sy’n hoff o gyffro.

Yn hollol agored heddiw
Golygfa arfordirol yn edrych tua’r de-orllewin tuag at Fae San Ffraid dros benrhyn cribog Dinas Fawr. Mae Ynys Sgomer i’w gweld yn y môr yn y pellter.
Lle
Lle

Arfordir Solfach 

Solva’s jutting headlands, gentle valleys and sweeping shores all have a tale to tell. From Iron Age settlements and industry to chilling coastal chronicles, there’s lots to uncover. | Mae stori i bob un o bentiroedd ymwthiol, dyffrynnoedd esmwyth a glannau eang Solfach. O aneddiadau a diwydiant yr Oes Haearn i groniclau arfordirol iasol – mae digonedd i’w ddarganfod.

Caerfi to Newgale, Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw