Bywyd bonheddwyr Sioraidd yn Nhŷ Crwn y Cymin

Tŷ Crwn y Cymin

Mae Tŷ Crwn y Cymin yn adeilad anarferol, unigryw. Er ei fod yn fach o ran maint, mae'n sefyll yn osgeiddig uwchben Trefynwy, De Cymru, ac yn cynnig golygfeydd godidog tua'r gorwel.

Bywyd bonheddwyr Sioraidd

Mae adeilad bach rhestredig Gradd II* y Tŷ Crwn, gyda'i ddyluniad cylchol, castellaidd, yn edrych fel rhywbeth allan o stori tylwyth teg neu barc chwarae. Yn wir, dyna'r oedd y Cymin un tro - lle chwarae'r bonedd lleol.

Tua diwedd y 18fed ganrif, roedd grŵp o wŷr bonheddig yn cwrdd mewn llecynnau tlws lleol i fwynhau picnic. Yn ôl pob sôn, awgrymwyd y Cymin gan un o'r gwŷr ym 1793, a bu mor boblogaidd nes iddynt ddychwelyd yno bob wythnos wedi hynny.

Ond rhoddodd glaw Cymru ddiwedd ar y fath fwynhau mewn dim o dro. Penderfynodd y grŵp oresgyn yr her hon drwy godi arian i adeiladu tŷ gwledda lle gallant fwynhau eu picnic boed law neu hindda.

Gosod y sylfeini

Gosodwyd y garreg gyntaf ar 1 Mai 1794 a chwblhawyd y Tŷ Crwn ym 1796.
Roedd y Tŷ Crwn yn adeilad deulawr â dim ond un ystafell ar bob llawr - cegin ar y llawr gwaelod a'r 'ystafell wledda' uwch ei phen.

Amrywiodd ffawd y Tŷ Crwn, ynghyd â gweddill y Cymin, dros y 100 mlynedd nesaf, ac ym 1902 fe'i prynwyd am £300 drwy gefnogaeth gyhoeddus a'i rhoi i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lle arbennig - i bawb, am byth

Heddiw mae'r Tŷ Crwn yn lle i ymlacio a mwynhau heddwch yr oes a fu, darganfod hanes y rhai a greodd y llecyn hudol ac unigryw hwn, a mwynhau golygfeydd gogoneddus yn ymestyn ymhell tua'r Bannau Brycheiniog a Bryniau Malvern.