
Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Eleni yn Nhŷ Tredegar, bydd hud y Nadolig yn fyw i bawb ei fwynhau.
Dadorchuddiwch 500 mlynedd o hanes y Nadolig hwn yn Nhŷ Tredegar, gyda goleuadau godidog, awyrgylch hudolus a thros 80 o goed wedi’u haddurno. Cewch cich tywys drwy genedlaethaur gorffennol, archwilio sut oedd y teulu Morgan yn dathlu'r Nadolig, gan ddysgu sut y treuliasant yr wyl, o wieddoedd y Tuduriaid i draddodiadau Fictoraidd, hyd at y 1950au pan odd ysgol Joseff Sant yma.
I ddechrau tymor y Nadolig, dewch i weld goleuadau disglair yr ardd ac addurniadau cain y plasty o 4 Rhagfyr ymlaen. Pa le gwell na Thŷ Tredegar i godi hwyl yr ŵyl.
4 Rhagfyr, 4pm - 7:30pm (mynediad olaf 7pm)
5 - 8 Rhagfyr, 11am - 3:30pm (mynediad olaf 2:45pm)
Ar Agor yn Hwyr 12 - 23 Rhagfyr, 12pm - 7:30pm (mynediad olaf 7pm)
'Da bo ’Dolig’ 27 - 31 Rhagfyr, 11am - 3:30pm (mynediad olaf 2:45pm)
Ar gau 24, 25 a 26 Rhagfyr
Ewch i’r hafan am ragor o fanylion.
Cliciwch isod i weld manylion ein digwyddiadau Nadolig.

12 a 23 Ragfyr, byddwn ar agor tan 8pm, felly bydd cyfle i bawb fwynhau Nadolig hudolus yn Nhŷ Tredegar. Bydd y Bragdy hefyd ar agor tan 8pm ar y dyddiau agor gyda’r hwyr, felly dewch i fwynhau’r Nadolig dan olau’r lleuad.
Gwisgwch yn gynnes a dewch am dro drwy diroedd rhewllyd Tredegar. Gofalwch rhag llithro, mwynhewch y gerddi ffurfiol, ac ymgollwch eich hun yn nathliadau Nadolig y gorffennol, a fwynhawyd gan y teulu Morgan drwy’r canrifoedd.
Yn y parcdir, mae’r llyn yn rhewi ar yr adeg hon o’r flwyddyn yn aml, ac ar ddiwrnod rhewllyd mae’r llwybrau’n disgleirio gan droi’r ardd a’r parc yn fyd o hud gaeafol i chi ei ddarganfod.


Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Dysgwch fwy am y plasty arbennig hwn a’r Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch ‘mlaen am ragor o wybodaeth am ddarganfod y tŷ hanesyddol hwn.

Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.
