Skip to content
Skip to content

Hanner tymor Hydref | October half term

Mae’r hydref yn amser gwych i ymweld â Phlas Newydd, lle mae digon i ddiddanu teuluoedd beth bynnag fo’r tywydd. **** Autumn is a wonderful time to visit Plas Newydd, where there’s plenty to keep families entertained whatever the weather.

  • Booking not needed
  • Free event (admission applies)

Sblasiwch yn y pyllau mwdlyd, rhedwch ar y gwair a chrensian drwy'r dail euraid wrth i chi ymlwybro draw i Goed y Llaethdy. Pwy a ŵyr - efallai y gwelwch chi wiwer goch ar eich tro. Ewch draw i gael antur yn yr ardal chwarae, gwneud pastai yn y gegin fwd, a pherfformio gyda'r drymiau pren.

Gwnewch amser i ymweld â'r tŷ rhestredig Gradd-I o'r 18eg ganrif. Edrychwch drwy'r ffenestri ac edmygwch liwiau trawiadol yr ardd y tu allan a'r golygfeydd anhygoel o'r Fenai ac Eryri y tu hwnt. Beth am roi pensil ar bapur a gadael i'ch creadigrwydd lifo drwy ysgrifennu cerdd neu greu braslun. Gwnewch eich hun yn gartrefol a dewch o hyd i gornel glud yn yr ystafell Octagon lle dewch o hyd i amrywiaeth o gemau bwrdd i'w mwynhau gyda theulu a ffrindiau.

****

Splash in muddy puddles, run on the grass and crunch through golden leaves as you make your way to Dairy Wood. You never know – a red squirrel might even cross your path along the way. Explore the play area, make a pie in the mud kitchen, and be a performer with the wooden drums. Make time to visit the Grade-I listed 18th century house. Look out of the windows and admire the vibrant colours of the garden outside and the stunning views of the Menai Strait and Eryri (Snowdonia) beyond. Put pencil to paper and get creative by writing a poem or sketching a picture. Make yourself at home and get comfy in The Octagon room where you will find a variety of board games to enjoy with friends and family.

Times

Prices

Event ticket prices

This event is free, but normal admission charges apply for the venue.

Check admission prices

Upcoming events

Arddangosfa Synwyriwm | Synwyriwm exhibition 

‘Synwyriwm’; arddangosfa celfyddydau creadigol a llesiant ym Mhlas Newydd | ‘Synwyriwm’; a creative arts and wellbeing exhibition at Plas Newydd

Event summary

on
19 Sep to 2 Nov 2025
at
10:00 to 16:00
+ 44 other dates or times

Parkrun iau | Junior parkrun 

Os ydych eisiau cyfarfod ffrindiau newydd, neu rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gallai Parkrun Iau fod yr union beth i chi. | Whether you want meet new friends, or want to try something different, Junior Parkrun could be just the thing for you.

Event summary

on
21 Sep 2025 to 26 Dec 2027
at
08:30 to 09:30
+ 118 other dates or times

'Big Draw' ym Mhlas Newydd | 'Big Draw' at Plas Newydd 

Byddwch yn artist ym Mhlas Newydd dros hanner tymor Hydref | Become an artist at Plas Newydd this October half term

Event summary

on
25 Oct to 2 Nov 2025
at
09:30 to 17:00
+ 8 other dates or times

Disgo tawel Nadolig | Christmas silent disco 

Ymgollwch eich hunain yn hwyl yr ŵyl ym Mhlas Newydd gyda disgo tawel Nadolig. | Be immersed in the festive spirit at Plas Newydd with a Christmas silent disco.

Event summary

on
29 Nov to 31 Dec 2025
at
11:00 to 12:00
+ 47 other dates or times