Beibl Prin ar Bererindod 170 milltir: O Ffermdy Gwledig i Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd:
- 04 Medi 2025

O ffermdy distaw o’r 16eg ganrif ger Penmachno i adeilad eiconig y Senedd ym Mae Caerdydd, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn dod ag ‘Y Beibl Cyssegr-lan’ o Dŷ Mawr Wybrnant —man geni’r Esgob William Morgan—i gartref deddfwrfa Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o lansio ‘Gwerth Mewn Gair’ sef arddangosfa o arwyddocâd cenedlaethol a fydd yn cael ei chynnal yn y Senedd rhwng 5 Medi a 30 Hydref, sy’n dathlu iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.
Yn ganolog i’r arddangosfa yw’r cyfle unigryw i weld copi prin o Feibl 1588, ‘Y Beibl Cyssegr-lan,’ cyfieithiad arloesol gan yr Esgob William Morgan, sydd fel arfer ar ddangos yn Nhŷ Mawr Wybrnant, Conwy. Dyma’r cyfieithiad cyflawn cyntaf o’r ysgrythurau i’r Gymraeg ac felly yn drysor diwylliannol a charreg sylfaen yn hanes goroesiad yr iaith Gymraeg.
Mae’r arddangosfa’n dwyn sylw at Dŷ Mawr Wybrnant, man geni’r Esgob William Morgan, gan amlygu ei etifeddiaeth ddofn ynghyd â’r tirweddau a fu’n ysbrydoliaeth i’w waith.
Dywedodd Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Eryri, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
"Mae’r iaith Gymraeg yn symbol pwerus o’n hunaniaeth genedlaethol a’n treftadaeth ddiwylliannol, ac roedd cyfieithiad William Morgan yn drobwynt hanesyddol—nid yn unig o ran diogelu’r iaith, ond o ran gosod sylfeini ar gyfer hunaniaeth wleidyddol a diwylliannol Cymru. Mae ei ddylanwad yn atseinio drwy’r oesoedd ac wedi chwarae rhan bwysig yn y daith tuag at sefydlu Senedd Cymru.”
“Mae arddangos y Beibl hwn yn y Senedd yn foment arwyddocaol o bwys cenedlaethol. Mae hefyd yn cynnig cyfle unigryw i rannu stori Tŷ Mawr Wybrnant ac i dynnu sylw at y garreg filltir hon yn hanes diwylliannol Cymru gyda chynulleidfaoedd na allai ymweld yn gorfforol neu sydd heb glywed am ei hanes.”
Ynghyd â’r Beibl o 1588, mae’r arddangosfa’n cynnwys casgliad o Feiblau a roddwyd o bob cwr o’r byd, pob un â’i stori ei hun am ffydd, iaith a balchder cenedlaethol. Fe fydd y Beibl cyntaf a sbardunodd y mudiad, sef ‘La Sankta Biblio,’ a ysgrifennwyd yn Esperanto ac a roddwyd yn 1981, hefyd yn rhan o’r arddangosfa yn y Senedd. [1]
Ychwanegodd Trystan:
“Mae Tŷ Mawr Wybrnant bellach yn noddfa i ysgrythurau o bob cwr o’r byd, gyda chasgliad cynyddol o bron i 300 o Feiblau mewn mwy na 100 o ieithoedd. Mae’r ffermdy bychan hwn o’r 16eg ganrif yn parhau i ysbrydoli ymwelwyr gyda’i harwyddocâd hanesyddol a’r cysylltiad dwfn y mae’n ei feithrin.”
“Yn dilyn taith gyfnewid ysgol gydag Ysgol Dolwyddelan yn 2006, rhoddodd grŵp o blant o Wlad y Basg Feibl yn eu hiaith frodorol i’r casgliad. Wedi’u hysbrydoli gan stori’r archif unigryw hon, mynegodd y plant eu dymuniad i weld eu hiaith leiafrifol hynafol—y Fasgeg—yn cael ei chynrychioli, yn union fel y Gymraeg.”
Bydd y Beibl Basgeg, ‘Elizen arteko biblia’, i’w weld yn y Senedd ynghyd ag ‘Ibhayibheli Elingcwele’ yn yr iaith iZulu [2] a ‘Orin Dafidi’ a ysgrifennwyd yn yr iaith Iorwba [3].
Meddai Trystan ymhellach:
“Rydym yn ddiolchgar i’r Senedd ac i Janet Finch-Saunders AS am y cyfle i gynnal yr arddangosfa, a fydd yn galluogi mwy o bobl i ddysgu am y casgliad ac i gael mynediad ato.”
Ychwanegodd Janet Finch-Saunders, Aelod Seneddol dros Aberconwy a noddwr yr arddangosfa:
“Mae wedi bod yn fraint cefnogi gweledigaeth ysbrydoledig Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ddod â’r Beibl Cyssegr-lan i’r Senedd.
“Dylai’r testun crefyddol nodedig hwn gael ei ddathlu, yn gwbl briodol, wrth galon ddeddfwriaethol Cymru lle mae ei ddylanwad yn parhau hyd heddiw.
“Roedd gwaith yr Esgob William Morgan yn cynnwys safoni’r Gymraeg, ac o ganlyniad mae ei ddylanwad wedi bod yn enfawr.
“Mae llawer dros y canrifoedd yn haeddu clod am barhad yr iaith, gan gynnwys yr Esgob Morgan. Rwy’n hyderus y bydd y gweithgareddau y bwriedir eu cynnal yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’i gyfraniad a phwysigrwydd Beibl 1588”.
Bydd ‘Not Lost in Translation / Gwerth mewn Gair’ yn cael ei arddangos yn y Senedd ym Mae Caerdydd rhwng 5 Medi a 30 Hydref 2025.
Mae mynediad i'r Senedd am ddim ac mae ar agor 9am-4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 10.30am-4.30pm ar ddydd Sadwrn a gwyliau banc. Mynediad olaf am 4pm; https://senedd.cymru/ymweld-a-ni/arddangosfeydd/gwerth-mewn-gair/

Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn datgelu gwelliannau cyffrous er mwyn cyfoethogi profiad ymwelwyr i Dŷ Mawr Wybrnant, Conwy
National Trust Cymru have showcased exciting new additions at Tŷ Mawr Wybrnant aimed at enhancing the overall visitor experience at the historic site.

Tŷ Mawr Wybrnant
Man geni’r Esgob William Morgan.

Cymru
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.
