Cas arddangos o'r radd flaenaf yn annog sgwrs a chysylltiadau yng Nghastell a Gardd Powis
- Cyhoeddwyd:
- 10 Chwefror 2026

Gall ymwelwyr â Chastell a Gardd Powis o 14 Chwefror gael mynediad nes nag erioed o'r blaen at eitemau o bwys byd-eang.
Diolch i gyllid gan Raglen Gyfalaf Trawsnewid Diwylliannol Llywodraeth Cymru, mae grant o ychydig dros £60,000 wedi galluogi gwrthrychau hanesyddol pwysig i gymryd lle mwy amlwg yn oriel yr amgueddfa.
Mae'r pedwar gwrthrych a ddewiswyd yn cynnwys y Ffinial Pen Teigr o'r 18fed ganrif (ffinial a oedd unwaith yn rhan o orsedd Tipu Sultan), cleddyf Tipu (sy'n gwasanaethu fel arf ac arwyddlun), jwg seramig a darnau gwyddbwyll.
Mae'r arddangosfa newydd hon yn nodi dechrau uchelgais ehangach i gynrychioli casgliad De Asia yr amgueddfa.
Dywedodd Shane Logan, Rheolwr Cyffredinol yng Nghastell a Gardd Powis;
“Rydym yn gyffrous i rannu pennod newydd ar gyfer Casgliad De Asia—un sy'n bwriadu gwneud hi'n haws i bawb archwilio, deall a mwynhau. Dros amser, rydym wedi bod yn gwrando, dysgu a gweithio gydag academyddion, curaduron ac ymchwilwyr i ddatgelu'r haenau niferus o hanes y tu ôl i'r gwrthrychau hyn.
“Mae'r dehongliad wedi'i ddiweddaru hwn a'r cas arddangos newydd yn rhan o'r daith honno. Maent yn agor y drws i sgyrsiau mwy am sut mae celf, pŵer, cyfnewid, dominyddu a gwrthwynebiad wedi llunio perthnasoedd rhwng cenhedloedd. Nid dim ond pethau o'r gorffennol yw'r gwrthrychau hyn—maent yn parhau i ddylanwadu ar sut rydym yn meddwl am hunaniaeth, hanes a'n gilydd heddiw.
“Yn bwysicaf oll, nid ein gwaith ni yn unig yw hyn. Rydym yn cydweithio ag ystod eang o leisiau i wneud yn siŵr bod y straeon rydym yn eu rhannu yn gyfoethocach, yn fwy gonest ac yn fwy cynhwysol. Gobeithiwn y bydd y gofod hwn yn eich annog i oedi, myfyrio, ac efallai hyd yn oed weld hanes o ongl newydd.”
Mae Castell Powis yn gartref i un o gasgliadau celf a gwrthrychau hanesyddol gorau'r byd gyda dros 13,500 o eitemau yn ei gasgliad. Yn y Casgliad De Asiaidd, a ddangosir yn Amgueddfa Clive, mae bron i 700 o arteffactau o Dde a Dwyrain Asia, yn dyddio o tua 1600 i'r 1830au. Cafodd y casgliad pwysig rhyngwladol hwn ei gasglu gan genedlaethau o’r teulu Clive yn ystod gwladychu is-gyfandir India gan y Prydeinwyr a daeth i Gastell Powis ddechrau'r 19eg ganrif.
Dywedodd Qamoos Bukhari, Prif Guradur Prosiect yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol:
“Mae casgliadau Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis ymhlith y rhai mwyaf arwyddocaol, ysbrydoledig ac heriol yn y DU. Mae’r arddangosfa hon yn symud i ffwrdd o ddulliau traddodiadol o gyflwyno celf cyn-fodern, gan gynnig pwyntiau cyfeirio newydd a llu o naratifau sy’n cysylltu â chynlluniau gwaith yn y dyfodol ar gyfer y castell i ailystyried sut mae’r casgliadau hyn yn cael eu cyflwyno. Mae’n cydnabod bod profiadau a disgwyliadau ymwelwyr wedi newid dros amser.
Mae’r guradu yn tynnu ar arddangosfeydd cynharach a dehongliadau cyfoes, yn ogystal â barddoniaeth a gwleidyddiaeth, i ehangu ac ailfframio’r ystyron y mae’r gwrthrychau hyn yn eu cario heddiw. Mae’n tynnu sylw at y siwrneiau y mae’r arteffactau hyn wedi’u gwneud, gan eu defnyddio i archwilio hanesion trefedigaethol Prydain a De Asia a’u cysylltiadau â gwrthwynebiad a chyfnewid byd-eang — grymoedd sydd weithiau’n gallu gorgyffwrdd creadigrwydd, traddodiadau lleol, a’r ymdeimlad o wreiddiau ymhlith artistiaid.”
Mae'r cyllid hefyd yn cefnogi offer digidol newydd i ddarparu cynnwys gweledol a sain newydd yn ogystal â seddi, goleuadau a chefnogaeth gyda dehongliad Cymraeg a Saesneg.
Dywedodd Karen George, Curadur Eiddo:
“Drwy roi ffocws newydd ar y gwrthrychau rhyfeddol hyn, mae'r prosiect yn ceisio annog deialog a chynnig mynediad cyfoethocach at hanesion cymhleth o arwyddocâd diwylliannol.
“Mae treial yr ail-arddangosfa newydd hon yn rhan o'r gwaith cynllunio cynrychiolaeth a phrofiad parhaus sy'n canolbwyntio ar du mewn hanesyddol y castell cyfan. Rydym yn gweithio ar bob cyfle i wneud ein hanesion yn fwy hygyrch ac yn gwahodd ymwelwyr i archwilio themâu cymhleth fel cyfnewid artistig a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae'r prosiect hwn i ail-arddangos y gwrthrychau hyn yn rhoi cyfle inni brofi dull newydd a fydd yn helpu llywio sut rydym yn arddangos y casgliad ehangach yn y dyfodol”.
You might also be interested in
Castell a Gardd Powis
Castell canoloesol yn codi'n ddramatig uwchben yr ardd enwog

Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis
Mae Amgueddfa’r Teulu Clive yn cynnwys mwy na 300 o eitemau o India a’r Dwyrain Pell yn y casgliad preifat mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch ragor am ei hanes.

Ymdrin â’n hanes o wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol
Darllenwch ein hadroddiad ar wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol yn y llefydd a’r casgliadau rydym yn gofalu amdanynt a dysgwch sut rydym yn newid ein ffordd o ymdrin â’r materion hyn.
