Gwarchod Trysor Cymreig: Plas yn Rhiw yn cychwyn ar waith adfer sylweddol
- Cyhoeddwyd:
- 20 Mawrth 2026

Mae pennod newydd arwyddocaol yn dechrau yn un o'r cartrefi hanesyddol a drysorir fwyaf ym Mhen Llŷn. Yn dilyn cwblhau prosiect ail-doi sylweddol yn 2024, mae ymchwiliadau manwl ym Mhlas yn Rhiw wedi cadarnhau y bydd y cam nesaf o'i adfer yn dechrau'r gwanwyn hwn. Er mwyn galluogi cynnal y gwaith cadwraeth hanfodol hwn yn ddiogel, bydd y tŷ yn aros ynghau drwy gydol tymor 2026.
Mae Plas yn Rhiw wedi bod yng ngofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ers 1952, ar ôl iddo gael ei drosglwyddo i ddwylo dibynadwy'r elusen gan ei breswylwyr olaf - y chwiorydd Keating, Eileen, Lorna a Honora, a aeth i fyw i'r tŷ gyda'u mam weddw ym 1939. Yn wreiddiol wedi'i adeiladu yn y 17eg ganrif, daeth Plas yn Rhiw yn fan a gafodd ei drysori a'i drawsnewid gan y chwiorydd, gan iddynt roi eu holl egni i adennill yr ardd, a oedd ar un adeg wedi tyfu'n wyllt, a llunio'r dirwedd heddychlon a gaifff ei mwynhau gan ymwelwyr heddiw.
Mae'r cam newydd hwn o waith adfer yn dilyn ymlaen o brosiect ail-doi cynhwysfawr yr Ymddiriedolaeth, lle bu arbenigwyr yn adleoli oddeutu 50,000 o wenyn mêl du Cymreig prin yn ddiogel i gychod gwenyn gerllaw fel y gellid cynnal y gwaith atgyweirio. Dyma waith ail-doi llawn cyntaf yr adeilad mewn dros ddwy ganrif, a welodd y llechi gwreiddiol yn cael eu hailddefnyddio lle bo'n bosibl a 4,000 o lechi Cymreig newydd o Chwarel Penrhyn yn cael eu cynnwys er mwyn gwarchod cymeriad hanesyddol y tŷ.
Dywedodd Mary Thomas, Rheolwr Gweithrediadau ym Mhlas y Rhiw:
“Gyda'r to'n dal dŵr, troesom ein sylw at galon y tŷ. Bu arbenigwyr cadwraeth yn cynnal arolygon manwl ac, o gofio bod rhannau o Blas yn Rhiw oddeutu 400 mlwydd oed, nododd yr asesiadau hyn ardaloedd o bydredd sych yn y grisiau, a gafodd eu hatgyweirio fel rhan o brosiect blaenorol yn ystod hydref 2024. Canfuwyd pydredd yn y distiau'n ddiweddar, oedd yn achosi gwendid yn rhai rhannau o'r tŷ. Mae hyn hefyd yn golygu nawr bod gofyn atgyfnerthu'r lloriau. Mae'r ymchwiliadau hyn wedi rhoi cyfle unigryw i ni edrych yn ddyfnach nag erioed o'r blaen i'r adeilad, gan ein helpu i lunio rhaglen uchelgeisiol o atgyweiriadau a fydd yn diogelu Plas yn Rhiw am genedlaethau i ddod.”
Mae'r gwaith y bwriedir ei wneud yn cynnwys atgyfnerthu'r ystafelloedd ar y llawr cyntaf a'r llawr uchaf gyda chynhalbyst dur, gosod distiau newydd i ddisodli'r rhai sydd wedi'u difrodi ac adnewyddu estyll y lloriau. Gyda'r lloriau wedi'u codi, bydd yr eiddo hefyd yn cael uwchraddio ei system drydanol, yn cynnwys y systemau tân a diogelwch.
Yn y cyfamser, bydd casgliadau, yn cynnwys dodrefn, tecstilau a serameg - sydd wedi'u storio'n ofalus yn ystod y cyfnod cau - yn cael eu hasesu a gwaith cadwraeth yn cael ei wneud arnynt lle bo angen yn barod ar gyfer eu dychwelyd i'w harddangos.
Ar ôl ei chwblhau, bydd y rhaglen gyfunol hon o waith strwythurol, cydymffurfiaeth a chadwraeth yn gosod y sylfaen ar gyfer creu profiadau ymwelwyr cyfoethocach a mwy trochol, gan alluogi'r casgliadau i gael eu gwerthfawrogi mewn lleoliad mwy gwreiddiol a real.
Ychwanegodd Mary:
“Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Wolfson am y grant hael o £150,000, sy'n ategu rhan o waddol y chwiorydd Keating, gyda'r prosiect llawn yn costio bron i £400,000. Gyda'i gilydd, mae'r cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n galluogi ni i gynnal yr atgyweiriadau arbenigol gyda'r manylder, yr arbenigedd a'r parch sydd ei angen ar Blas yn Rhiw.”
Er bod y tŷ'n parhau i fod ynghau ar gyfer gwaith adfer, bydd y gerddi, y coetir a'r ystafell de yn dal i groesawu ymwelwyr bob dydd Mercher, Iau, Sadwrn a Sul o 25 Mawrth tan 1 Tachwedd, gan gynnig y tawelwch a'r harddwch naturiol a gafodd eu meithrin mor ofalus gan y chwiorydd Keating.
You might also be interested in
Plas yn Rhiw
Maenordy hyfryd gyda gardd addurniadol a golygfeydd bendigedig.

Gofalu am y gwenyn – wrth drwsio un o dai hanesyddol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, gwarchodwyd 50,000 o breswylwyr anarferol
Am y tro cyntaf ers 200 mlynedd, mae grwnan y gwenyn yn un o dai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngwynedd, Gogledd Cymru wedi tawelu, gan fod gwenyn gwyllt prin a oedd yn byw yn nho’r tŷ wedi cael eu symud i gartref newydd tra bydd gwaith cadwraeth yn cael ei wneud.
