Skip to content
Datganiad i'r wasg

Mae Cwpan McLaren yn dychwelyd i Ardd Bodnant am y tro cyntaf ers dros 70 mlynedd

Prif Arddwr Gardd Bodnant, Ned Lomax yn y canol, gyda Graeme Jones, a Laura Jones o'r tîm yr ardd, gyda'r tri chwpan enillodd yn RHS Rosemoor
Prif Arddwr Gardd Bodnant, Ned Lomax yn y canol, gyda Graeme Jones, a Laura Jones o'r tîm yr ardd, gyda'r tri chwpan enillodd yn RHS Rosemoor | © National Trust Bodnant Garden

Nid ydych yn dychwelyd o sioe flodau Rhododendron sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol gyda llond eich dwylo o wobrau a thlysau bob penwythnos, ond ddydd Sadwrn 22 Ebrill fe wnaeth y tîm o Fodnant hynny - gan ddod â Chwpan McLaren, a roddwyd gan deulu’r McLaren yn 1946, adref gyda nhw.

Dychwelodd y Prif Arddwr, Ned Lomax a rhai o’r tîm o Ardd Bodnant, Tal y Cafn, Conwy, o Brif Sioe Rhododendron RHS Rosemoor yn Nyfnaint gyda 3 tlws a chyfanswm o 42 o wobrau eraill. Roedd y tlysau’n cynnwys Cwpan McLaren, Cwpan Her Loder a Chwpan Her Crosfield.

Dyfarnir Cwpan McLaren am y sbrigyn sengl gorau o rywogaeth Rhododendron, dyfernir Cwpan Her Loder am y sbrigyn sengl gorau o Rododendron hybrid a Chwpan her Crosfield am y grŵp o dri sbrigyn gorau o rododendrons hybrid a dyfwyd yng ngardd yr arddangoswr. Y blodau buddugol a gipiodd gwpan McLaren oedd y Rhododendron niveum hardd, blodyn hardd pinc-biws tywyll, sydd dal yn ei flodau am yr wythnosau nesaf yn ardal Bryn Ffwrnais o’r ardd.

Enillwyr y Cwpan McLaren 2023, Rhododendron niveum, o Ardd Bodnant.
Enillwyr y Cwpan McLaren 2023, Rhododendron niveum, o Ardd Bodnant. | © National Trust/Bodnant Garden

Mae Henry McLaren, ail Arglwydd Aberconwy, yn cael clod am greu a chasglu rhododendrons yng Ngardd Bodnant, yn dilyn tair cenhedlaeth o Brif Arddwyr o’r un teulu, Frederick, Charles a Martin Puddle. Henry a’i ddisgynyddion oedd yn gyfrifol am hybrideiddio a magu dros 300 o rododendrons hybrid ym Modnant.

Roedd Henry hefyd yn allweddol yn creu’r sioeau rhododendron, sydd wedi parhau’n flynyddol ers bron i 100 mlynedd. Roedd yn aelod o’r Gymuned Rhododendron yn ystod y 1920au. Cafodd ei ehangu i’r Gymdeithas Rhododendron yn y 1930au cyn iddo ddod yn Grŵp Rhododendron, Camellia a Magnolia y Gymdeithas Arddwriaethol frenhinol, neu’r RHS.

Gyda hanes mor drawiadol, efallai ei fod yn syndod nad yw Gardd Bodnant wedi cystadlu yn y sioe RHS Rosemoor ers dros 30 mlynedd. Newidiodd hynny yn ystod gwanwyn 2022 pan wnaeth Ned Lomax, y Prif Arddwr oedd newydd gael ei benodi - oedd wedi ymuno â’r tîm o Glendurgan yng Nghernyw - a rhai o’r tîm gardd ym Modnant, y daith i lawr i Ddyfnaint.

Y llynedd, roeddem yn falch o’r tîm wrth iddynt gael tair gwobr gyntaf, saith ail, a naw trydydd - ond ni lwyddwyd i ddod â’r Gwpan Mclaren yn ôl i Fodnant. Fodd bynnag, canolbwyntiodd y trafodaethau ymysg y tîm ar gynllunio ar gyfer 2023, ac mae’r canlyniadau’n adrodd cyfrolau gyda chyfanswm eleni o 15 cyntaf, 16 ail a 14 trydydd - yn cynnwys Cwpan McLaren.

Dywedodd Ned Lomax, Prif Arddwr Gardd Bodnant, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru;

“Roedd yn wych cynrychioli’r ardd eto eleni, ac roedd cryn gyffro wrth weld enw eiconig Gardd Bodnant yn ôl ym mhabell y sioe yn RHS Rosemoor. Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a dyfodd, a bigodd ac a baciodd y blodau a aeth i’r arddangosfa - ymdrech tîm go iawn yw’r llwyddiant hwn.”

Dechreuodd paratoadau ychydig o ddyddiau cyn y sioe yn dewis, torri a phacio’r blodau, gyda’r gweithdy ym Modnant yn llawn amrywiaeth helaeth o flodau a phersawr. Ar ôl pacio gofalus, cludwyd y cargo gwerthfawr i lawr i’r de orllewin.

Dechreuwyd y gwaith am 6am y bore wedyn, wrth i bob un blodyn gael ei arddangos yn y fâs gywir, yn y categori cywir a’i gyflwyno’n ofalus i gael ei feirniadu. Wedi ein hamgylchynu gan dimau gardd oedd yn cystadlu, roedd llawer o brysurdeb a chyffro ym mhabell y sioe wrth i’r tîm aros yn amyneddgar am y canlyniadau.

Yn dilyn llwyddiannau eleni, mae’r tîm eisoes yn edrych ymlaen at y digwyddiad y flwyddyn nesaf ac yn gobeithio parhau i adeiladu ar lwyddiannau’r ddwy flynedd ddiwethaf a holl waith caled sawl cenhedlaeth sydd wedi cynorthwyo i gyrraedd y pwynt hwn yn hanes clodfawr yr ardd.

I fwynhau ystod eang o rododendrons yng Ngardd Bodnant, yn cynnwys rhai o’r rhywogaethau buddugol, mae’r ardd ar agor i ymwelwyr bob dydd o 9.30am i 5pm gyda’r mynediad olaf am 4pm. Croesewir cŵn bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul ar dennyn byr. Mae manylion prisiau a mynediad ar gael ar y wefan; www.nationaltrust.org.uk/gardd-bodnant

You might also be interested in

Y Teras Is Rhosod yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru, llun wedi tynnu cynnar yn Fehefin. Tu ôl, mae'r Teras y Gamlas gyda'i phwll a'r Felin Binnau. Planhigion yn cynnwys rhosod a Aliwm.
Erthygl
Erthygl

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.

Rhododendrons pinc yn eu blodau yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy
Erthygl
Erthygl

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant 

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Gardd Bodnant 

Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.