Skip to content

Hanes Gardd Bodnant

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.
Golygfa o’r tŷ o’r Teras Lilis yng Ngardd Bodnant, Conwy | © National Trust Images/John Miller

Yn ei hafan ar gyrion Eryri, ffurfiwyd Gardd Bodnant trwy weledigaeth Fictoraidd un dyn eithriadol, fe’i mireiniwyd gan ei ddisgynyddion a heddiw mae’n cael ei gwerthfawrogi gan y rhai sy’n mwynhau gerddi o bob rhan o’r byd fel hafan arddwriaethol.

Gardd Bodnant yn ystod teyrnasiad Iago'r I

Dengys y cofnodion cynharaf fod Bodnant (sy'n golygu 'annedd ger afon' yn Gymraeg) yn gartref i deulu Lloyd o deyrnasiad James I, gan gael ei drosglwyddo drwy briodas i deulu Forbes yng nghanol yr 1700au. Yn 1792, adeiladodd Cyrnol Forbes blasty Eidalaidd i ddisodli tŷ cynharach a datblygodd y parcdir o amgylch y Neuadd Bodnant newydd, yn arddull gerddi Tirwedd Lloegr.

Ar farwolaeth y Cyrnol Forbes yn 1820 aeth yr ystâd trwy briodas eto i William Hanmer o Barc Bettisfield yn Sir y Fflint. Gwnaeth Hanmer ei welliannau ei hun, gan adeiladu’r Hen Felin bresennol rhwng 1828 ac 1837, ac ymestyn yr ardd o gwmpas y plasty.

Ysgrifennu 150 mlynedd dros lun o'r Teras Lili yng Ngardd Bodnant
Blwyddyn i’w dathlu yn 2024 | © National Trust Images/Paul Harris

Gardd Bodnant – 150 o flynyddoedd


Yn 2024, bydd Gardd Bodnant yn dathlu 150 o flynyddoedd ers iddi gael ei phrynu mewn arwerthiant gan Henry Davis Pochin, diwydiannwr o Oes Fictoria, a’i wraig ym 1874. Eleni hefyd byddwn yn dathlu 75 o flynyddoedd ers i Henry McLaren, 2il Arglwydd Aberconwy, roi Gardd Bodnant yn rhodd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

O fis Mawrth, bydd yr Hen Felin yn y Glyn ar agor i ymwelwyr gamu i mewn iddi i ddysgu rhagor am hanes yr ardd. Bydd gwybodaeth a ffotograffau archif yn cael eu harddangos yn ymwneud â’r 150 o flynyddoedd diwethaf yn hanes yr ardd.

Hanes Gardd Bodnant

Dechrau i ganol yr 1800au

Henry Davis Pochin

Pan brynodd y diwydiannwr Henry Davis Pochin a’i wraig Bodnant mewn arwerthiant yn 1874 roedd gan yr ystâd ardd furiog, coedwig a phlanhigfeydd, ond gweledigaeth fawr Pochin a siapiodd yr ardd yn un adnabyddus ar draws y byd, yr un yr ydym ni yn ei hadnabod heddiw. 

Bwa Tresi Aur

Sicrhaodd Pochin sgiliau'r dylunydd tirwedd Edward Milner i ddatblygu'r ardd lwyni Fictoraidd ffurfiol o amgylch y tŷ, gan gynnwys y Bwa Tresi Aur enwog. Ef hefyd a gerfiodd y llethrau lawr at yr afon, gan blannu'r conifferau o Ogledd America a chreu llwybrau i ffurfio'r glynnoedd rhamantus a'r gerddi dŵr. 

Fel tirfeddiannwr lleol roedd Pochin yr un mor weithgar, yn adeiladu bythynnod ar ystâd Bodnant a gwella arferion amaethyddol.  

Peintiad o Henry Davis Pochin dan y teitl ‘The Chemist’ gan Walter William Ouless o Neuadd Bodnant, Gogledd Cymru. Mae’r peintiad yn darlunio Pochin wrth fwrdd gydag offer cemeg ar ei fwrdd o’i flaen yn edrych fel petai’n hidlo hylif.
Peintiad o Henry Davis Pochin dan y teitl ‘The Chemist’ gan Walter William Ouless | © National Trust Images
Beddrod y teulu yng Ngardd Bodnant, a elwir hefyd yn Y Gerdd

Casgliadau Gardd Bodnant

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Ngardd Bodnant ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Rhododendrons pinc yn eu blodau yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Conwy
Erthygl
Erthygl

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant 

Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.

Ymwelwyr yn sefyll ar bont yn edrych dros ddŵr sy’n rhedeg ger yr Hen Felin yng Ngardd Bodnant, wedi’u hamgylchynu gan lwyni dail gwyrdd a blodau
Erthygl
Erthygl

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.

Two adults and two children sitting down at a table in a cafe eating and drinking
Erthygl
Erthygl

Bwyta yng Ngardd Bodnant 

Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.

A Yorkshire Terrier walking down a path lined with daffodils at Beningbrough Hall, North Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant 

Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.