Skip to content

Casgliadau botanegol Gardd Bodnant

Delwedd fanwl o flodau magnolia yn y gwanwyn yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru
Blodau magnolia yng Ngardd Bodnant | © ©National Trust Images/Annapurna Mellor

Mae Gardd Bodnant yn gartref i blanhigion egsotig o babi glas mynyddoedd Himalaia i lwyni tân yr Andes, yn ogystal â phum Casgliad Cenedlaethol - o fagnolia, embothrium, eucryphia, rhododendron forrestii a rhododendron croesryw Bodnant. Ymfalchïa hefyd yng nghasgliad mwyaf Cymru o Bencampwyr Coed y Deyrnas Unedig, sy’n wledd i’r llygad trwy’r flwyddyn.

Golygfa o rododendron o Goed y Ffwrnais, hefo'r tŷ yn y cefndir yng Ngardd Bodnant, Conwy, Gogledd Cymru
Rhododendron yn blodeuo i fyny ar Goed y Ffwrnais’ yng Ngardd Bodnant | © National Trust Images/Rod Kirkpatrick

Casgliadau Cenedlaethol yng Ngardd Bodnant 

Mae Casgliadau Cenedlaethol o fagnolias a rhododendron yng Ngardd Bodnant yn tanio’r ardd â lliw o fis Mawrth hyd Fehefin, llawer ohonynt wedi eu cludo i Fodnant gan gasglwyr planhigion enwog ar droad yr ugeinfed ganrif. 

Rhododendron

Llwyni gwyllt sy’n gynhenid yn Ne-ddwyrain Asia yw rhododendron. Fe’u cyflwynwyd gyntaf i Ardd Bodnant tua throad yr 1900au, llawer ohonynt wedi eu tyfu o’r hadau gwreiddiol a gasglwyd gan gasglwyr planhigion gan gynnwys Ernest Wilson a George Forrest yn ystod eu teithiau i ganol Tsieina. 

Noddwyd llawer o’r teithiau botanegol hyn gan berchennog Bodnant, Henry Duncan McLaren (2il Arglwydd Aberconwy) a ddaeth â llifeiriant o blanhigion newydd a chyffrous i’r ardd lle gwnaethant ffynnu yn yr hinsawdd dymherus, y pridd asidig a’r dopograffeg unigryw. Maent wedi tyfu’n rhwydd yma, gan gynhyrchu rhai o’r planhigion mwyaf yn hemisffer y gorllewin. 

Planhigion croesryw Bodnant 

Aeth Henry McLaren a’i brif arddwr, Frederick Puddle, ati i groesi rhai o’r rhododendron o’r 1920au ymlaen. Eu nod oedd creu mathau oedd yn gryno ar gyfer gerddi, eu lliwiau yn fwy cyfoethog ac â thymor hwy yn eu blodau. Maent yn cynnwys Rhododendron ‘Elizabeth’ planhigyn tynn â blodau pinc llachar - yr enwocaf o holl blanhigion croesryw Bodnant ac un a welir heddiw mewn llawer o erddi domestig. 

Statws Casgliad Cenedlaethol

Dyfarnwyd statws Casgliad Cenedlaethol i’r grŵp arbennig hwn yn 2015: Rhododendron Wedi eu Bridio yng Ngardd Bodnant 1927-1983. O’r 300 gwreiddiol o blanhigion croesryw dim ond tua 185 y gwyddys eu bod yn dal i fodoli yn yr ardd, ond mae ein tîm yn yr ardd wrthi’n ceisio adnabod mathau ‘coll’ ac yn meithrin y rhai sydd dan fygythiad i sicrhau dyfodol ein casgliad am flynyddoedd lawer i ddod.

Golygfa o’r Glyn yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru gyda llwybr yn ymestyn ymlaen a nant i’r chwith gyda thyfiant gwyrdd a choed tal
Y Glyn yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru | © National Trust Images/Joe Wainwright

Coed sy’n Bencampwyr

Canfu arolwg diweddar gan y Gofrestr Goed bod yr ardd yn gartref i tua 40 o Goed sy’n Bencampwyr – yr enghreifftiau gorau o’u math – ac 130 o Bencampwyr Coed Cymru.  

Mae stori coed Gardd Bodnant yn mynd yn ôl i’r cyfnod Sioraidd pan gyflwynwyd y coed ffawydd cyntaf - coeden ddigon prin yng Nghymru ar y pryd. Fe’u plannwyd ynghyd â choed derw, masarn a chastanwydd fel rhan o’r gwaith tirlunio cyntaf o gwmpas Neuadd Bodnant yn yr 1700au. 

Cartref i blanhigion egsotig

Daeth y cyfnod nesaf a mwyaf o blannu coed wedyn yn amser Fictoria dan ofal Henry Pochin, a brynodd ystâd Bodnant yn 1874. Datblygodd Pochin y binwyddlan yng ngardd y dyffryn, gan blannu conwydd Americanaidd ac Asiaidd ar hyd glannau afon Hiraethlyn.  

Ffynnodd y coed newydd hyn ar lannau gwlyb glynnoedd Bodnant; wedi eu cysgodi rhag yr elfennau ac yn ymestyn am y golau. Ymhlith rhai o’r Pencampwyr sydd i’w gweld yma mae’r Sequoiadendron giganteum ‘Pendulum’ (Cochwydden Gawraidd) 35m a blannwyd yn 1890 a Sciadopitys verticillata (Pinwydden Ymbarél Japaneaidd). Credir bod y goeden 20m hon yn tarddu o un planhigyn a gyflwynwyd i Brydain gan Thomas Lobb yn 1853.

Cafwyd cyfnod prysur arall o blannu coed ar ddechrau’r 1900au dan oruchwyliaeth merch Pochin, Laura McLaren a’i ŵyr Henry McLaren, a ychwanegodd y coed Asiaidd llydanddail sydd i’w gweld ar draws yr ardd, gan gynnwys magnolias, acers a choed ceirios blodeuol o Tsieina a Japan.   

Casgliad lliwgar

Mae sawl Pencampwr yn y Llennyrch gan gynnwys Sorbus meliosmifolia ac Acer mandshuricum (Masarnen Manshwria) dwy goeden sydd yn brin ym Mhrydain, a dyfwyd o had a gasglwyd gan y casglwr planhigion Ernest Wilson yn y cyfnod Edwardaidd.

Mae ein casgliad yn cynnwys llawer o gonwydd a choed bytholwyrdd, coed sy’n blodeuo yn y gwanwyn a choed eraill y mae eu dail yn goelcerth o liw yn yr hydref, gan gynnig sioe wych ar hyd y flwyddyn.

Cwpl yn mwynhau am dro drwy'r holl blanhigion y gaeaf o'r Ardd Gron

Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant

Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Hanes Gardd Bodnant 

Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.

Tŷ gyda choed hydrefol o’i gwmpas yn cael ei adlewyrchu mewn pwll lilis yn y blaendir.

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant. Mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau planhigion o bob rhan o’r byd.

Visitors pause to admire and photograph the vivid autumn foliage in Bodnant Garden's Acer Glade. Japanese maples display striking shades of green, orange and deep crimson, filling the garden with seasonal colour.

Dod â’ch ci i Ardd Bodnant 

Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn), o ddydd Iau i ddydd Sul o fis Ebrill i fis Medi, a phob dydd o fis Hydref i fis Mawrth. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant.

Dachshund yn gwisgo côt sgwariau porffor, ar dennyn, gyda dail yr hydref ar y glaswellt o’i gwmpas, yng Ngardd Bodnant, Gogledd Cymru

Bwyta a siopa yng Ngardd Bodnant 

Mwynhewch ddanteithion blasus yng nghaffis Gardd Bodnant drwy’r flwyddyn gron neu prynwch blanhigyn, anrheg neu lyfr ail law cyffrous i fynd adref gyda chi.

Someone holding a bowl of soup with bread on the side