Plas Newydd yn arddangos gwisgoedd Madfabulous
- Cyhoeddwyd:
- 15 Mai 2026

Pleser i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yw cyhoeddi y bydd ystafell arddangos newydd yn agor ym Mhlas Newydd, Ynys Môn yn ystod mis Mai, gan osod ffilm, ffasiwn a hanes ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn ailgyflwyno’r ymwelwyr i un o gyn-breswylwyr mwyaf rhyfeddol y tŷ, sef ‘Ardalydd y Ddawns’.
Bydd ‘Gwisgo’n Ffansi’, a fydd yn agor ddydd Gwener 15 Mai, yn arddangos pump o wisgoedd trawiadol a ddefnyddiwyd yn y ffilm Madfabulous – sef ffilm a ysbrydolwyd gan fywyd Henry Cyril Paget, 5ed Ardalydd Môn. Trefnwyd i’r arddangosfa gyd-ddigwydd â rhyddhau’r ffilm ar 5 Mehefin, a bydd yn cynnig cyfle prin a gwerthfawr i archwilio’r hanes sydd wrth wraidd un o bersonoliaethau mwyaf nodedig ei gyfnod.
Ffilmiwyd Madfabulous yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd yn ystod mis Medi 2024. Ffilmiwyd golygfeydd allanol ar draws y lawntiau, y tŷ a’r Fenai, yn ogystal â’r lanfa, y terasau a’r lawnt groce. Ffilmiwyd golygfeydd mewnol yn y Cyntedd Gothig a’r Neuadd Gothig, a hefyd mewn lleoliadau eraill yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys Castell a Gardd Penrhyn.
Medd Taya Drake, Rheolwr Profiad Ymwelwyr ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Pleser yw cael bod yn rhan o’r ffilm newydd Madfabulous. Nid cartref cyndadol Henry Cyril Paget yn unig mo Plas Newydd – roedd yn rhywle lle gallai fod yn driw iddo’i hun ac archwilio’i hunaniaeth, a daeth yn ffigwr cofiadwy yn y gymuned leol. Mae croesawu Madfabulous i’w gyn-gartref, fel lleoliad ffilmio a rŵan trwy gyfrwng yr arddangosfa hon, yn arwyddocaol iawn i ni.”
Erbyn heddiw, ychydig iawn o waddol y 5ed Ardalydd sydd wedi goroesi ym Mhlas Newydd. Gwerthwyd ei eiddo yng Ngwerthiannau Môn yn nechrau’r ugeinfed ganrif a chafodd y tŷ ei ailfodelu’n ddiweddarach.
Yn ôl Taya:
“Mae arddangos gwisgoedd Madfabulous yn cynnig cyfle arall inni dynnu sylw at ei fywyd anhygoel. Allwn ni ddim dibynnu ar ystafelloedd wedi’u dodrefnu neu wrthrychau gwreiddiol, ond mae’r gwisgoedd hyn yn ein helpu i archwilio’i hunaniaeth, ei greadigrwydd a’i bresenoldeb mewn ffordd sy’n teimlo’n fyw, yn feiddgar ac yn berthnasol i ymwelwyr.”
“O na bai modd i Henry Cyril Paget – y dyn a lwyfannodd berfformiadau afradlon ar gyfer cynulleidfaoedd ym Mhlas Newydd – allu gweld ei waddol heddiw a gweld ei fywyd yn cael ei gyfleu ar y sgrin fawr ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y byd. Mae ei stori wedi hen danio’r dychymyg, ac mae Madfabulous yn cynnig yr hyn a ddisgrifir fel ‘ailddehongliad rhyfeddol’ o’i fywyd.”
Callum Scott Howells sy’n chwarae rhan Henry Cyril Paget yn y ffilm, ochr yn ochr â Rupert Everett a Ruby Stokes, gan ddwyn ynghyd actorion uchel eu bri i adrodd stori’n llawn cyfaredd, gwrthryfel a hunanfynegiant. Bu Celyn Jones, y cyfarwyddwyr a aned yn Ynys Môn, a’r sgriptiwr Lisa Baker yn hollbwysig o ran llywio naws nodedig y ffilm, gan blethu lleoliadau a thirweddau’n dynn yn y naratif.
Medd Celyn Jones, Cyfarwyddwr Madfabulous:
“Byddai wedi bod yn amhosibl adrodd ei stori heb wisgoedd. Roedd delwedd Henry mor bwysig iddo. Roedd y ffyrdd yr arferai eu defnyddio ei fynegi ei hun ac ymhél â’r byd o’i gwmpas wedi’u hymwreiddio yn y modd y dymunai gael ei weld, ac mae ei ddelwedd a’i steil yn dal i fod yn elfennau parhaus a phwysig o’i waddol. Ni chafodd y gwisgoedd mo’u llogi na’u prynu – yn hytrach, cawsant eu gwneud; a chawsant eu gwneud yn bwrpasol ar gyfer cael eu gwisgo a’u defnyddio i symud a dawnsio, er mwyn cynnig lefel o ddilysrwydd. Mae Francisco yn athrylith ac mae wedi creu campweithiau mor hardd a beiddgar. Rydw i wrth fy modd bod Plas Newydd yn bwriadu arddangos y gwisgoedd yn eu priod le ac yn eu holl ogoniant! Fel hogyn o Fôn, mae cyfarwyddo’r ffilm hon, a’i gweld yn ennyn cymaint o sylw a chanmoliaeth, yn un o anrhydeddau mwyaf fy ngyrfa. Diolch.”
Dyluniwyd y gwisgoedd gan Francisco Rodriguez-Weil, ac mae’r dyluniadau dramatig yn adleisio cariad Henry Cyril Paget at ysblander, perfformio a hunanfynegiant, gan adlewyrchu hefyd ymateb creadigol cyfoes y ffilm i’w fywyd.
Medd Francisco Rodriguez-Weil, Dylunydd Gwisgoedd Madfabulous:
“Roedd Henry Cyril Paget yn rhodd i ddylunydd gwisgoedd – dyn a oedd yn deall yn reddfol bod gwisgoedd yn cyfleu pwy ydych chi, neu o leiaf pwy ydych chi’n mentro bod. Fe’i ganed i fywyd yn llawn braint a gallai fod wedi hwylio trwy fywyd ar seremoni a chonfensiwn. Yn hytrach, gwariodd bob adnodd a oedd yn ei feddiant ar harddwch, perfformio a hunanfynegiant. Mae yna rywbeth emosiynol iawn ynglŷn â hynna. Nid dyn ecsentrig yn unig mohono. Roedd yn deall – yn well na neb o’i gwmpas, efallai – bod bywyd yn berfformiad, a bod modd ei berfformio mewn ffordd ysblennydd.”
Mae’r gwisgoedd sy’n rhan o’r arddangosfa’n cynnwys gwisg enwog Dawns y Pili Pala, a ysbrydolwyd gan ffynonellau hanesyddol, atgynhyrchiad o’i wisg theatr streipïog, a’r wisg ffansi ddu-a-gwyn eiconig. Cafodd y gwisgoedd sy’n weddill eu creu’n arbennig ar gyfer y ffilm – sef siwt binc drawiadol gyda het silc a ffrog borffor brydferth.
Medd Francisco:
“Fe wnaeth ein hymchwil ein tywys yn ddwfn i’r Folies Bergère, llys brenhinol Ffrainc, a pherfformwyr a dynion sioe ei gyfnod. Roedd Ffrainc yn fwy beiddgar, yn fwy theatraidd, yn fwy parod i addurno. Roedd Lloegr yn fwy gochelgar, a châi ei llywodraethu i raddau mwy gan eiddo. Roedd Henry yn byw rhwng y ddau fyd hynny, ac roedd yn rhaid i’r gwisgoedd adlewyrchu’r tensiwn hwnnw. Nid ôl-ystyriaeth oedd eu caffael – roedd yn rhan o’r ymchwil. Mae’r siwt wlân wedi’i gwneud o ffabrig Cymreig. Tasg anodd fu dod o hyd i’r gwlân, oherwydd nid oedd y lliw penodol roeddem ei angen i’w gael ymhlith y gwlân safonol a gâi ei werthu’n fasnachol.”
“Ar gyfer rhai gwisgoedd, fe wnaethom ddefnyddio ffotograffau gwreiddiol a’u gwneud yn fwy wrth raddfa, er mwyn gallu eu hatgynhyrchu’n fanwl gywir. Hefyd, gofynnais i athrawon arbenigol yr Ysgol Gwisgoedd Hanesyddol am gymorth; ac yn sgil eu gwybodaeth am dechnegau adeiladu’r cyfnod, bu modd atgynhyrchu pob sêm, pob silwét a phob cyffyrddiad olaf yn yr un modd ag y byddent wedi cael eu gwneud yng nghyfnod Henry. Roeddwn eisiau i’r gwisgoedd deimlo’n real, oherwydd mae hynny’n helpu i roi dilysrwydd i gymeriadau a allai, fel arall, ymddangos fel pe baent yn perthyn i ryw fyd arall. Yn bwrpasol, gadewais i blygiadau, symudiad naturiol a llif y ffabrig fodoli ar y sgrin. Dylai popeth deimlo’n ddilys.”
Bydd ‘Gwisgo’n Ffansi’ yn agor ddydd Gwener 15 Mai. Cymerwch gipolwg ar y wefan i gynllunio eich ymweliad; www.nationaltrust.org.uk/plas-newydd
Bydd y ffilm Madfabulous yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu ddydd Gwener 5 Mehefin. Archebwch eich tocynnau yma: https://www.madfabulousfilm.co.uk/

Golygfa o'r ystafell yr arddangosfa Gwisgo'n Ffansi ym Mhlas Newydd | © National Trust Images|Paul Harris 
Ffrog borffor, gain wedi creu ar gyfer y ffilm Madfabulous yn cael ei arddangos ym Mhlas Newydd | © National Trust Images|Paul Harris
You might also be interested in
Y 5ed Ardalydd a Phlas Newydd
Darganfyddwch stori hudol y 5ed Ardalydd Môn, Henry Cyril Paget, a oedd wrth ei fodd yn perfformio ac yn dawnsio, cyn nid oedd modd iddo fo gynnal ei ffordd o fyw yn bellach.

Plas Newydd a’r Ardd
Ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd restredig Gradd 1 wedi'i leoli ar lannau’r Fenai.


