Skip to content

Y 5ed Ardalydd a Phlas Newydd

5ed Ardalydd Môn, Henry Cyril Paget, yn tynnu ystum ar gadair mewn gwisg ffansi, gyda helmed adeiniog a gemau.
5ed Ardalydd Môn mewn gwisg ffansi, gyda helmed adeiniog | © National Trust Images/John Wickens (1864-1936)

Etifeddodd Henry Cyril Paget y teitl o'r 5ed Ardalydd Môn ym 1898 gan ei dad. Ailenwodd Blas Newydd, gan ei alw’n ‘Anglesey Castle’, a daeth yn enwog am ei ffordd afradlon o fyw a’i berfformiadau theatraidd. Llwyddodd i greu lle yn llawn llawenydd a chreadigrwydd ar Ynys Môn.

Dod yn 5ed Ardalydd

Ganwyd Henry Cyril Paget yn Llundain ym 1875, ac ef oedd unig fab y 4ydd Ardalydd a Blanche Mary Boyd. Bu farw mam Henry pan oedd yn ddwyflwydd oed. Daeth i Ynys Môn am y tro cyntaf pan oedd yn wyth oed. Ar ôl marwolaeth ei dad ym mis Tachwedd 1898, daeth Henry yn 5ed Ardalydd, gan etifeddu ystadau’r teulu yn Beaudesert yn Swydd Stafford ac ym Mhlas Newydd. Roedd ganddo incwm blynyddol o £110,000 – sef oddeutu £18 miliwn heddiw.

Magwyd Henry yng nghanol cyfoeth mawr, ac yn ystod ei oes fer gwariodd ei incwm ar ddigwyddiadau cymdeithasol afradlon a chasgliad enfawr o eitemau. Amgylchynodd ei hun gyda gemwaith, gwisgoedd a dillad moethus ac arferai ymbleseru mewn technolegau newydd fel ceir modur, offer ffotograffiaeth a goleuadau trydan ar gyfer ei theatr.

5ed Ardalydd Môn gyda chriw o actorion ar lwyfan Plas Newydd
5ed Ardalydd Môn gyda chriw o actorion ar lwyfan Plas Newydd | © National Trust

Herio disgwyliadau

Nid oedd Henry Cyril Paget yn cydymffurfio â disgwyliadau’r gymdeithas o ran yr hyn y dylai uchelwr fod yn ystod ei gyfnod. Yn wahanol i’w dad, a oedd yn mwynhau hela a marchogaeth, amgylchynodd Henry Cyril ei hun â lliwiau llachar ac roedd yn gwirioni ar y theatr ac ar emwaith. Roedd wrth ei fodd yn dawnsio, ac un ddawns enwog o’r fath oedd Dawns y Pili-pala, lle byddai goleuadau amryliw yn cael eu taflunio ar ei wisg sidan wen.

Theatr y ‘Gaiety’ ym Mhlas Newydd

Roedd Henry Cyril wrth ei fodd yn perfformio, ac aeth ati i greu Theatr y ‘Gaiety’ ym Mhlas Newydd – sef theatr â 150 o seddi. Ar y dechrau, arferai berfformio gydag amaturiaid, yn cynnwys cyfeillion, gweision a morwynion, a phobl leol. Ond ym 1901, llwyddodd i berswadio rheolwr theatr proffesiynol a’i gwmni i sefydlu cwmni yn Theatr y ‘Gaiety’ ym Mhlas Newydd.

O’r fan honno, buont yn diddanu cymdogion lleol, masnachwyr, gweision a morwynion, myfyrwyr prifysgol ac ymwelwyr, a hynny’n rhad ac am ddim. Hefyd, buont yn perfformio mewn rhai mannau eraill yn yr ardal, gan roi unrhyw arian i elusennau lleol. O dro i dro, byddai’r 5ed Ardalydd yn rhoi cardiau post i’r gynulleidfa – sef cardiau post â lluniau ohono’n gwisgo’i wisgoedd crand.

Dyfalu a chyffrogarwch

Teithiodd Henry i wahanol theatrau ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop, gan berfformio yn nramâu Oscar Wilde. Ym 1895, cafodd Wilde ei gyhuddo o ‘Anwedduster Difrifol’, ac fe’i carcharwyd. Yn dilyn euogfarn Wilde, penderfynodd llawer o bobl beidio â pherfformio ei ddramâu. Mae’r dyfalu’n awgrymu bod penderfyniad Henry i barhau i berfformio dramâu Wilde yn arwydd nad oedd yn dymuno cydymffurfio â disgwyliadau’r gymdeithas; ond efallai hefyd ei fod wedi parhau i’w perfformio gan fod y rhannau’n berffaith ar ei gyfer. Mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod y rôl yn ‘An Ideal Husband’ yn rôl berffaith o’r fath.

Dros y blynyddoedd, bu cryn ddyfalu ynglŷn â’i fywyd preifat. Ni cheir unrhyw dystiolaeth fod Henry wedi cael perthynas gyda phobl o’r un rhyw. Ym 1898, priododd â’i gyfnither, Lilian Chetwynd, am gyfnod byr; ac er bod Lilian wedi gwneud cais i ddirymu’r briodas ym 1900 oherwydd diffyg cyflawni (sef cais a ganiatawyd), dewisodd y ddau beidio â bwrw ymlaen â’r dirymiad. Ym 1901, cytunodd y ddau i aros yn briod a byw bywydau ar wahân.

5ed Ardalydd Môn mewn gwisg ffansi ym Mhlas Newydd
5ed Ardalydd Môn mewn gwisg ffansi ym Mhlas Newydd | © National Trust

Gwerthiannau Mawr Môn (1904-05)

Nid oedd modd i Henry Cyril gynnal ei ffordd o fyw. Anwybyddodd y rhybuddion, ac ym 1904 datganwyd ei fod yn fethdalwr. Gwerthwyd yr holl bethau a oedd yn ei feddiant er mwyn iddo allu talu ei ddyledion. Erbyn mis Mehefin 1904, rhoddwyd ‘Anglesey Castle’ yn nwylo’r arwerthwyr, William Dew a’i Fab. Dechreuodd Gwerthiannau Mawr Môn ar 29 Gorffennaf 1904; nid cartref oedd Plas Newydd mwyach, ond llawr siop.

Daeth pobl draw o bob cwr o’r wlad, naill ai i brynu eitemau neu i gael golwg ar yr hyn a oedd yn digwydd. Gwerthwyd popeth – yn cynnwys dillad yr Ardalydd, ei bum car, ei annwyl gŵn, sosbenni a phadelli, pennau mopiau a bwcedi. Rhoddwyd rhwng 17,000 ac 18,000 o lotiau ar werth.

Collodd nifer o’r gweision a’r morwynion eu cartrefi a’u swyddi, ond aethant i’r gwerthiannau i geisio prynu rhai o’r pethau a oedd ganddynt yn eu hystafelloedd. Yn wir, daeth rhai o gredydwyr yr Ardalydd – sef pobl yr oedd arno lawer o arian iddynt – i’r gwerthiannau i gynnig am eitemau, er mwyn ei gefnogi. Ymddengys fod trigolion yr ardal wedi parhau i fod yn ffyddlon i’r Ardalydd, a’u bod wedi parhau i fod yn hoff iawn ohono.

Gadawodd y 5ed Ardalydd Blas Newydd cyn i’r gwerthiannau gychwyn, ac ni ddychwelydd. Daeth ei wario afradlon i ben, a throdd bywyd theatraidd ei orffennol yn fywyd mwyfwy unig. Ar ôl ei farwolaeth ym mis Mawrth 1905, ac yntau’n 29 oed, trodd ‘Anglesey Castle’ yn ‘Blas Newydd’ drachefn, a dechreuodd ei bresenoldeb bylu. Am flynyddoedd wedyn, gwnaed newidiadau i’r tŷ ac aethpwyd i’r afael â gwaith adeiladu, gan weddnewid ‘Anglesey Castle’ y 5ed Ardalydd bron yn llwyr.

Ffotograffau o’r 5ed Ardalydd

Mae ffotograffau o Henry Cyril Paget wedi goroesi, ond dim ond ychydig ohonynt sydd yng nghasgliad Plas Newydd. Mae’r ffotograffau sydd yn y casgliad yn dangos ei gariad at wisgoedd a pherfformio, gan ein hatgoffa o’i ysbryd nwyfus. Yn 2018, daethpwyd o hyd i ffotograffau o’r 5ed Ardalydd wrth chwilio trwy’r archifau. Credir mai’r ffotograffau hyn yw’r unig luniau o’r Ardalydd yn un o’i ddawnsfeydd gwisg ffansi yng ngardd Plas Newydd.

Y 5ed Ardalydd ar y llwyfan a’r sgrin

Dychwelodd ysbryd Henry Cyril yn 2017 ar gyfer drama gerddorol uchel ei bri a ysgrifennwyd gan Seiriol Davies, awdur a pherfformiwr a anwyd yn Ynys Môn, sef ‘How to win against history’. Fe’i perfformiwyd gerbron cynulleidfaoedd ledled y DU.

Wrth ffilmio ym Mhlas Newydd ym mis Medi 2024, dychwelodd ysbryd y 5ed Ardalydd i Blas Newydd ar ffurf Callum Scott Howells, yr actor o Gymru, ar gyfer y ffilm ‘Madfabulous’. Celyn Jones o Ynys Môn yw’r cyfarwyddwr, a bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau mewn sinemâu drwy’r wlad ar 5 Mehefin 2026. Er bod y ffilm wedi’i hysbrydoli gan fywyd y 5ed Ardalydd, mae’n cynnig ei dehongliad artistig ei hun o hynt a helynt yr Ardalydd. Gellir gweld arddangosfa o bum gwisg a ddefnyddiwyd yn y ffilm y tu mewn i dŷ Plas Newydd o 15 Mai 2026. Enw’r arddangosfa hon yw Gwisgo’n Ffansi | All Dressed Up.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol

Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd

Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

The house at Plas Newydd, Anglesey, on the banks of the Menai Strait with autumn trees in the foreground

Murlun Rex Whistler ym Mhlas Newydd 

Roedd Rex Whistler yn artist ifanc talentog a gomisiynwyd i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlas Newydd a ddaeth yn ffrind i’r teulu.

Ymwelydd aneglur yn y blaendir yn edrych ar furlun Rex Whistler yn Yr Ystafell Fwyta, ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru.

Hanes Plas Newydd 

Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.

Coeden blodau ceirios gyda'r Tŷ yn y cefndir