Skip to content
Datganiad i'r wasg

Un o arddangosfeydd ffotograffiaeth gerddi a phlanhigion gorau'r byd yn cyrraedd Gardd Bodnant

Two people looking at an interpretation board with a large photo of a garden at sunset on it as part of the International Garden Photographer of the Year exhibition at Bodnant Garden
Arddangosfa 'International Garden Photographer of the Year' | © National Trust Images/Iolo Penri

Mae Gardd Bodnant, gardd fyd-enwog Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru sydd wedi'i lleoli yn Nyffryn Conwy, Gogledd Cymru, yn falch o gynnal arddangosfa ‘International Garden Photographer of the Year’ , (Ffotograffydd Gardd Rhyngwladol y Flwyddyn) Arddangosfa 18.

Bydd ymwelwyr â'r ardd yr hydref hwn yn gallu mwynhau detholiad syfrdanol o ffotograffau o ansawdd uchel, ar raddfa fawr sy'n dal harddwch amrywiaeth eang o erddi, tirweddau, fflora, ffawna a ffyngau o bob cwr o'r byd.

Hon fydd arddangosfa gyntaf y gystadleuaeth i gael ei harddangos yng Ngogledd Cymru, ynghyd â fformat a chynnwys dwyieithog. Mae'r arddangosfa'n tynnu sylw at harddwch gerddi a gipiwyd trwy lens ffotograffwyr proffesiynol ac amatur fel ei gilydd, gan gynnig ysbrydoliaeth i arddwyr a selogion ffotograffiaeth.

Fel rhan o'r arddangosfa, bydd cystadleuaeth arbennig, o'r enw ‘Bywyd yng Ngardd Bodnant’, hefyd ar ddangos yn cynnwys detholiad o ffotograffau arobryn o’r flwyddyn gyntaf un o’i chynnal, pob un wedi'i gipio yn yr ardd ym Modnant.

Ymhlith y delweddau buddugol a dynnwyd o Ardd Bodnant ar gyfer y Wobr Arbennig mae un sydd wedi derbyn Canmoliaeth Uchel; ffotograff o rododendron pinc bywiog 'Vanessa', a dynnwyd tra roedd yn llawn blodau. Gyda phetalau syrthiedig yn rhaeadru i lawr y grisiau isod, mae'n denu’r gwyliwr i mewn i feddwl ble gallai'r grisiau eu harwain. Cafodd y ddelwedd hon ei chipio gan un o wirfoddolwyr talentog iawn Gardd Bodnant ei hun, David M. Metcalfe.

Meddai Hamza Mould, Rheolwr Cyffredinol Gardd Bodnant ‘Rydym yn wirioneddol gyffrous i allu cynnal yr arddangosfa yma yn yr ardd. Bob blwyddyn, mae Gardd Bodnant yn croesawu dros 280,000 o ymwelwyr o bob cwr o'r byd, a gobeithiwn y bydd y digwyddiad awyr agored hwn yn darparu rhywbeth gwahanol i ymwelwyr newydd ac ymwelwyr sy'n dychwelyd i'r ardd.’

Dywedodd James McGlinchey, Rheolwr Arddangosfeydd yn IGPOTY: ‘Rydym hefyd wrth ein bodd i fod yn arddangos gyda'n harddangosfa awyr agored yng Ngogledd Cymru wedi'i chyflwyno yn y Gymraeg a'r Saesneg am y tro cyntaf yng Ngardd Bodnant, rydym yn mawr obeithio y bydd ymwelwyr sy'n dychwelyd a rhai newydd yn cael eu hysbrydoli gan y delweddau hardd sydd ar ddangos.’

Mae Gardd Bodnant wedi bod yn ysbrydoliaeth i artistiaid a ffotograffwyr yn lleol ac yn rhyngwladol ers cenedlaethau ac mae'n un o'r gerddi mwyaf poblogaidd ar gyfer ffotograffiaeth ar y blaned. Wedi'i henwi fel un o'r 10 gardd mwyaf ffotograffig yn y byd, dim ond llefydd fel Gardd Monet yn Ffrainc a Jardin Majorelle ym Marrakech sy'n ei guro.

Drwy gydol yr hydref, bydd cyfres o ddigwyddiadau unigryw ar gael hefyd. O deithiau gyda'r Prif Arddwr, sesiynau ffotograffiaeth codiad haul a gweithdai gwneud printiau a phasteli, mae rhywbeth i bawb.

Beth am ymuno â'r artist lleol Paul Pigram ar 14 Hydref i greu eich paentiad pastel eich hun wedi'i ysbrydoli gan yr ardd o dan hyfforddiant arbenigol Paul? Neu os mai ffotograffiaeth yw eich pleser, ymunwch â'r ffotograffydd proffesiynol Paul Harris ar daith gerdded dywys o amgylch gardd yr hydref ar 16 Hydref a chasglu rhai o'i awgrymiadau gorau ar gyfer ffotograffiaeth natur gyda chinio gyda'n gilydd i ddilyn yng Nghaffi'r Pafiliwn.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Gardd Bodnant 

Gardd fyd enwog, yn gartref i Gasgliadau Cenedlaethol a Choed Campus.

ger Bae Colwyn, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o’r Teras Lili a’r pwll o’r tŷ yng Ngardd Bodnant, Conwy

Arddangosfa 'International Garden Photographer of the Year' 

Mwynhewch arddangosiad trawiadol o ddelweddau sydd wedi’u dethol ar gyfer cystadleuaeth Ffotograffydd Gardd Ryngwladol y Flwyddyn, yn yr awyr agored yn yr ardd ym Modnant.

Llygoden mewn cae gwyrdd yn dal blodyn back piws. Un o'r llunia i'r arddangosfa IGPOTY, cystadleuaeth 18

Wales 

Explore fairy-tale castles, glorious gardens and a wild Celtic landscape brimming with myths and legends on your visit to Wales.

View of pink tulips in the Victorian Parterre on a sunny spring day in the garden at Erddig in Wrexham, Wales