Skip to content

Dilyn y Deryn gyda Branwen yng Nghymru

A photo of Branwen sits above an orange background decorated with black birds
Dilyn y Deryn gyda Branwen 2026 | © Branwen Munn

Gwisgwch eich bŵts a chael gwared ar y llwch oddi ar eich binocwlars, mae’n amser mynd i wylio adar. Ymunwch gyda Branwen Munn drwy gydol y flwyddyn ar draws de-orllewin Cymru wrth i ni archwilio byd adar yng Nghymru.

Gafaelwch yn eich binocwlars ac ymunwch â Branwen Munn am flwyddyn o wylio a chofnodi adar.

Drwy gydol 2026, gyda chymorth yr adarwr brwd, Branwen Munn, byddwn yn cadw ein llygaid (a’n clustiau) ar agor ar gyfer adar yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.

P’un a ydych chi’n adarwr profiadol neu newydd ddechrau arni, mae pob tro y byddwch yn gweld aderyn yn cyfrif. Byddem wrth ein bodd pe baech yn ymuno gyda ni a dweud wrthym am eich profiad o weld ein ffrindiau pluog ar draws y wlad. Bob mis, bydd Branwen hefyd yn tynnu sylw at ‘Aderyn y Mis’ - rhywogaeth arbennig i chi gadw golwg amdano.

Bydd digon o gyfle i ymuno ar y daith, gyda digwyddiadau cyfeillgar, troeon, sgyrsiau a hwyl ar thema adar, lle gallwch gwrdd ag eraill, cyfnewid straeon a dysgu rhywbeth newydd.

Cofnodwch hyn a welsoch yma. a dilynwch Branwen ar Instagram yma.

Ionawr

Lansio Dilyn y ‘Deryn gyda Branwen!

Drwy gydol 2026, gyda chymorth yr adarwr brwd, Branwen Munn, byddwn yn cadw ein llygaid (a’n clustiau) ar agor am adar yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro.

Chwefror

Gwylio adar yn Ninefwr, Sir Gâr

Ymunwch gyda’r adarwr brwd Branwen Munn ar gyfer ein digwyddiad adnabod adar cyntaf yn 2026 yn Ninefwr. Tro ysgafn milltir o hyd drwy Barc Ceirw Dinefwr.

Gallwch hefyd ymuno gyda ni a dim ond ymlacio a gwrando ar yr adar yn ein gofod ‘Gwrando’ sydd wedi’i leoli ger y tŷ.

Mawrth

Gwylio adar yn Llanerchaeron, Ceredigion

Dydd Sadwrn 21 Mawrth, 10am-1pm

Ymunwch gyda’n Ceidwad ystad Claire a’n hadarwr brwd Branwen Munn ar gyfer ein digwyddiad adnabod adar yn Llanerchaeron. Tro ysgafn milltir o hyd drwy ystad Llanerchaeron.

Gallwch hefyd ymuno gyda ni a dim ond ymlacio a gwrando ar yr adar yn ein gofod ‘Gwrando’ sydd wedi’i leoli yn yr ardal eistedd ger y caffi.

Mae’r digwyddiad hwn yn ddigwyddiad am ddim a does dim angen archebu lle ymlaen llaw. Rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser. Gwisgwch esgidiau addas ar eich traed a dillad addas ar gyfer y tywydd os gwelwch yn dda a dewch â snaciau a diodydd gyda chi. Cyfarfod ger yr adeilad ymwelwyr gwyrdd yn y maes parcio am 10am.

Ebrill

Promenâd y Gwanwyn yn Ninefwr, Sir Gâr

Dydd Sul 12 Ebrill, 2-4.30pm

Dathlwch ddyfodiad y gwanwyn ac adar Dinefwr gyda ni!

Cerddwch ochr yn ochr ag adar lliwgar a chymeriadau a cherddorion mewn gwisgoedd anhygoel. Gwisgwch yn un o’n gwisgoedd hyfryd a choronnau o flodau neu wneud un eich hun os oes gennych awydd. Ymunwch i groesawu’r dyddiau wrth iddynt ymestyn a’r tywydd gynhesu.

Digwyddiad am ddim, does dim angen archebu lle, ond rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser.

Ymgasglwch am 1.45pm yn yr Iard Dderw os gwelwch yn dda

Gwrandewch ar y Gwanwyn

Dydd Sul 12 Ebrill, 3pm-4.30pm

Wedi holl gyffro’r Promenâd, gwrandewch a myfyriwch ar y gwanwyn a chân yr adar sydd o’ch cwmpas i gyd. Defnyddiwch ap neu ddim ond gwrando, ymlacio a rhannu’r foment. Cadwch lygad am y gofod ‘Gwrando’ ar flaen y tŷ.

Mai

Gwylio adar yn Ynys Dinas, Sir Benfro

Dydd Sadwrn, 23 Mai, 10am-3pm

Ymunwch gyda’r adarwr Branwen Munn am dro adara yn Ynys Dinas.

Gyda ffocws ar adar y môr, megis llursod, gwylogod ac adar drycin, bydd y tro llawn yn dro wedi’i raddio o 3 i 4 milltir dros dir garw gan gynnwys llethrau serth.

Dewch am y diwrnod cyfan neu galwch draw am awr neu ddwy.

Gwisgwch esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd os gwelwch yn dda a dewch â snaciau a diodydd gyda chi.

Cyfarfod ym maes parcio traeth Pwllgwaelod. SA42 0SE, what3words@fuse.sands.legal. Mae’r maes parcio’n fach a gall lenwi’n gyflym, felly cofiwch rannu car os yn bosib. Digwyddiad am ddim, does dim angen archebu lle, ond rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser.

Mehefin

Gwylio adar Ganolfan Gwlypdir Llanelli, Sir Gâr

Dydd Sadwrn, 13 Mehefin, 10am-3pm

£6 y person, mae archebu lle’n hanfodol; https://www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/whats-on/events/bird-spotting-with-branwen-at-wwt-llanelli-wetland-centre

Gyda ffocws ar adar moryd a chors megis adar hirgoes fel y Crëyr Mawr Gwyn, Llydanbig a’r Pibydd Gwyrdd ac adar dŵr megis yr Wyach Leiaf, yr Hwyaden Hudo a’r Hwyaden Bengoch, mae’n bosib y byddwch hefyd yn gweld adar megis Glas y Dorlan, y Gïach, Llinosod a Theloriaid. Mae’r llwybrau o amgylch y safle yn wastad gan mwyaf. Mae yna ddwy allt, ond gyda dewisiadau amgen ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn heb gymorth.

Dewch am y diwrnod cyfan neu galwch draw am awr neu ddwy. Gwisgwch esgidiau addas ar eich traed a dillad addas ar gyfer y tywydd os gwelwch yn dda. Gallwch ymweld â’r caffi neu ddod â bwyd a diod gyda chi.

Cyfarfod ym maes parcio Canolfan Gwlypdir Llanelli, Llwynhendy, Llanelli, Sir Gâr, SA14 9SH. Mwy o wybodaeth am gyfeiriadau a mynediad: Sut i gyrraedd Canolfan Gwlypdir Llanelli - cliciwch yma.

Pris arbennig o £6 y person, mae’n rhaid archebu, a nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser.

Gorffennaf

Sgwrs: Dilyn y 'Deryn gyda Branwen | Birding with Branwen

2pm – 3pm

Ein hadarwr brwd, Branwen Munn, yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’n blwyddyn fawr o ddigwyddiadau adara yng ngorllewin Cymru 2026.

Mae angerdd Branwen dros fyd adar yn heintus! Fel DJ, cynhyrchydd cerddoriaeth/cyfansoddwr a pheiriannwr cymysgu yn ei bywyd gwaith, mae ei diddordeb amser hamdden fel adarwr yn cyd-fynd gyda’i bywyd proffesiynol.

Ymunwch gyda Branwen er mwyn clywed am ei bywyd fel adarwr a rhai o’i chyfarfyddiadau hudolus gydag adar.

Digwyddiad am ddim, codir tâl mynediad arferol, a rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser. Efallai y byddai gennych chi hefyd ddiddordeb yn.

Diwrnod yr Adar yn Ninefwr, Sir Gâr

Dydd Sadwrn 18 Gorffennaf, 10.30am- 4.30pm

Mae’r cyfan am ein ffrindiau pluog yn Ninefwr heddiw - diwrnod o gerdded, sgyrsiau a chreadigrwydd.

Adar Gorlifdiroedd Dinefwr

10.30am - 12pm

Ymunwch gyda Dai a Stuart o’r Tîm Ystadau yn Ninefwr am dro ar hyd Gorlifdiroedd Tywi yn Ninefwr. Dyma gyflwyniad i fywyd adar ac ecosystemau’r lleoliad arbennig hwn.

Gweithgareddau Gwneud a Chreu yn yr Iard Dderw

11am – 3pm

Pob oed, am ddim, galwch heibio. Wedi’i hysbrydoli gan yr adar gwyllt y gallwch eu clywed o’ch cwmpas chi, dewch i ymuno gyda ni i fwynhau gweithgareddau ar thema adar yn yr Iard Dderw.

Gweithdy crefft: Adar y Mabinogion

12.30pm – 1.30pm

Ymunwch gyda’r arlunydd Ami Marsden i wneud mygydau adar ac adennydd wedi’u hysbrydoli gan yr adar yn chwedlau Cymreig y Mabinogion.

Gweithdy am ddim, codir tâl mynediad arferol, rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser. Mae angen archebu ymlaen llaw.

Awst

Noson Ffilm yr ‘Yo-Yos’ a barbeciw yn Ninefwr, Sir Gâr

Dydd Iau 6 Awst, 5-7pm

Ymunwch â Yo-Yos Dinefwr, grŵp o bobl ifanc sy’n caru natur, ar gyfer noson ar thema adar ar gyfer plant a phobl ifanc 8-18 mlwydd oed.

Mae croeso i bawb sydd rhwng 8 - 18 oed, does dim angen i chi fod yn rhan o’r Yo-Yos i fynychu, edrychwn ymlaen at eich croesawu chi.

Am ddim, mae archebu lle’n hanfodol. Barbeciw llysieuol a fegan.

Medi

Gwylio adar ar Benrhyn Marloes, Sir Benfro

Dydd Sadwrn, 12 Medi, 10am-3pm

Ymunwch gyda’r adarwr Branwen Munn am dro adara ar Benrhyn Marloes yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gyda ffocws ar adar gwlypdir megis adar hirgoes fel y gïach neu adar dŵr fel y chwiwell, corhwyad a’r hwyaden llydanbig. Mae’n bosib y gwelwch chi adar ysglyfaethus megis hebog yr ehedydd, y cudyll bach, hebog llwydlas a boda’r wern yn ogystal â’r frân goesgoch, y telor a’r gwybedog. Bydd y tro llawn yn gymharol anodd. Mae ychydig dros 4 milltir dros dirwedd gymysg a llwybrau anwastad ar ben clogwyni.

Dewch am y dydd, galwch heibio am awr neu dwy neu dim ond ymlacio a gwrando ar yr adar yn ein gofod ‘Gwrando’ sydd wedi’i leoli ym maes parcio Traeth Marloes.

Gwisgwch esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd os gwelwch yn dda a dewch â snaciau a diodydd gyda chi.

Digwyddiad am ddim, does dim angen archebu lle, ond rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser. Cyfarfod ym maes parcio Traeth Marloes SA62 3BH, codir tâl parcio ar gyfer rhai nad ydynt yn aelodau. Am ragor o wybodaeth am gyfeiriadau a mynediad cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Hydref

Diwrnod Adar yn Llanerchaeron, Ceredigion

Dydd Sadwrn, 10 Hydref, 11am-2pm

Diwrnod o deithiau cerdded, sgyrsiau a chreadigrwydd. Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dewch i fwynhau diwrnod o weithgareddau creadigol thema aderyn a myfyrio meddylgar ar y byd naturiol.

Digwyddiad am ddim, codir tâl mynediad arferol, a rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser.

Efallai y byddai gennych chi hefyd ddiddordeb yn

Bwydo’r Adar

11am - 2pm

Galwch heibio i wneud afal bwydo adar.

Braslunio gyda’r artist Jo Swannell

11am – 1pm

Ymunwch gyda’r arlunydd murlun Jo Swannell am ddigwyddiad darlunio cyffrous yn seiliedig ar yr adar y gallwch eu canfod ar ystad Llanerchaeron. Cofiwch wisgo dillad addas ar gyfer braslunio yn yr awyr agored.

Taith gerdded Ymwybyddiaeth Ofalgar

1pm – 2pm

Tro ysgafn ar dir Llanerchaeron i ganfod synau a golygfeydd y tymor.

Tachwedd

Y digwyddiad i gael ei gyhoeddi - gwyliwch y gofod.

Rhagfyr

Disgo Thema Adar yn Ninefwr, Sir Gâr

Dydd Sadwrn, 12 Rhagfyr, 6-8pm

Dathlwch ddiweddglo’r prosiect gyda DJ Branwen Munn.

Ar ddiwedd ein blwyddyn ysblennydd o wylio adar yng ngorllewin Cymru, dewch draw i gyfarfod yr adarwr a’r DJ Branwen Munn yn Ninefwr.

Byddwn yn dechrau’r noson drwy ddathlu’r flwyddyn a chyhoeddi’r ystadegau rydych chi wedi bod yn eu casglu dros y misoedd cyn i ni fynd draw i ddawnsio.

Anogir pob math o wisgoedd pluog! Gwisgwch eich mygydau adar gorau, eich bwâu pluog, adar ac addurniadau thema adar ysblenydd.

Fodd bynnag, os nad ydych chi’n un o’r adar Paradwys hynny sy’n hoff o fflachio’i blu, bydd yna hefyd fan tawel lle gallwch sgwrsio am bopeth ynghylch adar a chymharu’r hyn welsoch chi yn gwylio adar

Digwyddiad am ddim, mynediad am ddim i Dŷ Newton, does dim angen archebu ymlaen llaw. Croesewir pawb o bob oed, ond rhaid i blant o dan 12 gael cwmni oedolyn bob amser.

Dinefwr 

Mae Tŷ hanesyddol Newton wedi'i amgylchynu gan Warchodfa Natur Genedlaethol a Pharc Ceirw tirweddol o'r 18fed ganrif.

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o dŷ Newton

Llanerchaeron 

Fila Sioraidd, gain, wedi'i dylunio gan y pensaer, John Nash yn 1790, ynghyd â gardd furiog, llyn iard fferm a thir parc gwyllt. Yn rhyfeddol, nid yw wedi'i haddasu ers dros 200 mlynedd.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn hollol agored heddiw
Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Pen Strwmbwl i Aberteifi 

Camwch yn gynt ar lwybrau cefn gwlad Sir Benfro; ymysg yr ehangder garw, anghysbell hwn o glogwyni uchel a cherrig brig, ceir llwybrau arfordirol a golygfeydd di-ben draw ar y môr.

Strumble Head, Pencaer to Cardigan, Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw
Yr olygfa o Benberi ar Benmaen Dewi ym Mae San Ffraid, Sir Benfro, yn edrych tua’r gogledd-ddwyrain tuag at Ben Strwmbl yn y pellter

Marloes Sands and Mere 

Dihangwch i Benrhyn Marloes, trysor cudd ar ymyl gorllewinol Sir Benfro. Bydd morweddau ysblennydd a chyfoeth o fywyd gwyllt yn aros i’ch cyfarch.

Sir Benfro

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o’r traeth o ben y clogwyn ar Draeth Marloes a Mere, Sir Benfro.

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Spring apple blossom with a lawn and the red stone medieval Powis Castle behind, Welshpool, Wales