
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gydag 80 acer i’w harchwilio, mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau ychydig o amser tawel gyda’i gilydd yng Ngardd Bodnant. Treuliwch ychydig oriau yn mwynhau’r prydferthwch a’r natur mae gwahanol rannau o’r ardd yn eu cynnig drwy gydol y flwyddyn.
Y Pasg hwn, gallwch grwydro gardd 80 erw Bodnant a dysgu rhagor am bob mathau o wyau - nid y rhai bwytadwy yn unig!
O wyau bychain pryfed bach sydd wedi’u cuddio dan greigiau, i’r wy aderyn mwyaf y gallwch ddarganfod mewn gardd; byddwch yn dysgu rhagor ar hyd y ffordd, gyda digonedd o weithgareddau difyr hefyd.
Mentrwch ar anturiaeth g-WY-ch y Pasg gyda’ch gilydd, a gynhelir o 5 i 27 Ebrill 2025, rhwng 9.30am a 4pm, gyda mynediad olaf ar gyfer y llwybr antur am 3:30pm (mae mynediad olaf i’r ardd am 4.30pm). Cofiwch gasglu eich wy siocled!
Mwynhewch antur y Pasg yng Ngardd brydferth Bodnant, gan ddysgu rhagor am wyau o bob siâp a maint. Dilynwch y llwybr, a dod o hyd i weithgareddau i’r teulu cyfan i gymryd rhan ynddynt. A allwch chi drydar fel cyw? Ceisiwch ddod o hyd i’r nyth a sicrhewch eich bod yn cael eich mam neu’ch tad i ymuno â chi i wiglo fel larfa! Dewch draw i’r Ddrysfa Helyg yn y Pen Pellaf lle mae’r llwybr yn gorffen. Tybed a fyddwch chi’n dod o hyd i'r 10 gweithgaredd sydd wedi’u cuddio ar hyd y ffordd?
Cyn i chi fentro ar eich antur y Pasg, byddwch yn derbyn taflen lwybr a chlustiau cwningen. Cofiwch gasglu eich anrheg ar ddiwedd yr helfa wyau Pasg - cewch ddewis o wy siocled neu *wy siocled rhydd-rhag.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn ymweld y Pasg hwn:
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.
Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau, Gwener, Sadwrn a Sul o 1 Ebrill i ddiwedd mis Medi. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.