Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gydag 80 erw i’w archwilio gyda’ch ci ac o erddi ffurfiol i ddolydd a choedwigoedd mwy gwyllt, mae taith gerdded at ddant pawb yng Ngardd Bodnant. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd Iau i ddydd Sul, o 1 Ebrill tan ddiwedd mis Medi a bob dydd o fis Hydref i ddiwedd mis Mawrth.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Ardd Bodnant sgôr o un bawen.
Mae croeso i gŵn yma, ond mae’r cyfleusterau’n gyfyngedig. Gallant ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored gerllaw, yn dibynnu ar y tymor. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.
Mae croeso i gŵn bob dydd yn yr hydref a’r gaeaf, o'r 1 Hydref tan ddiwedd mis Mawrth, a thrwy’r dydd bob dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul yn ystod y gwanwyn a’r haf, o 1 Ebrill tan ddiwedd mis Medi. Sylwer, ni chaniateir cŵn yn yr ardd ar Ddyddiau Llun Gŵyl y Banc rhwng Ebrill a Medi.
Er bod y rhan fwyaf o’n hymwelwyr â chŵn yn dilyn ein polisi tennyn byr ac yn codi ar ôl eu ffrindiau pedair coes, yn anffodus, mae achlysuron o hyd pan fydd cŵn yn cael eu gollwng oddi ar dennyn neu’n crwydro ymhellach ar dennyn y gellir ei ymestyn. Byddwn yn gofyn i unrhyw ymwelydd sydd â chi nad yw ar dennyn byr ei roi ar dennyn byr cyn mynd i mewn i'r ardd, gan gynnwys yr Hen Barc a'r coetir.
Mae gennym ni denynnau byr ar gael, gofynnwch i'r tîm yn y Dderbynfa Ymwelwyr os oes angen un arnoch chi. Helpwch ni i gadw Bodnant yn addas i gŵn yn y dyfodol drwy ddilyn y rheol hon bob amser a dod â digon o fagiau cŵn i godi unrhyw wastraff. Mae biniau baw cŵn o amgylch yr ardd.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Cymerwch gip ar lefydd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru sydd gerllaw hefyd. Gyda chestyll, arfordir a chefn gwlad i’w harchwilio, mae cyfleoedd fyrdd am droeon gwych yn ar garreg ein drws.
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
Mwynhewch luniaeth yn ystafelloedd te Gardd Bodnant drwy gydol y flwyddyn neu o'r ciosg ar lan yr afon yn y Glyn.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.