
Darganfyddwch fwy yng Ngardd Bodnant
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae’r baned ganol bore, y cinio, neu’r te prynhawn yn rhan mor bwysig o unrhyw ymweliad â Gardd Bodnant.
Mae bwydlen o brydau ysgafn poeth ac oer, cinio, cacennau, pasteiod a diodydd ar gael o'r Pafiliwn ac ystafelloedd te Magnolia. Mae byrbrydau a diodydd yn cael eu gweini o Giosg y Glyn yn ystod penwythnosau'r gaeaf hefyd, a llefydd i eistedd tu allan ar gael.
Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.
Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.
Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.
Mae'r tîm arlwyo gwobrwyedig bob amser yn brysur yn coginio danteithion tymhorol i'ch temtio, o fwydlenni misol sy'n newid yn barhaus i ddigwyddiadau coginio arbennig. Waeth beth fo'r tymor, gyda phryd poeth, byrbrydau cyflym a dewis da o frechdanau a danteithion melys ar gael, mae yna rywbeth ar gael i fodloni'ch bol bob amser.
Ar gael o ddydd Iau tan ddydd Sul bob wythnos o 12pm tan 2.30pm rhwng 7 Rhagfyr a 23 Rhagfyr (Rhaid archebu ymlaen llaw.)
Dros gyfnod yr wŷl, beth am i chi gymryd seibiant o brysurdeb y stryd fawr i fwynhau cinio Nadolig dau gwrs gyda'r holl drimins, yn Ystafell De'r Pafiliwn yng Ngardd Bodnant?
Mae’r cinio'n costio £24.50 y pen ac yn cynnwys naill ai ginio twrci traddodiadol neu ginio Nadolig fegan, pwdin Nadolig gyda saws brandi neu bwdin taffi, mins pei a choffi i orffen. Mae opsiwn heb glwten ar gael hefyd. Mae prydau llai o’r un fwydlen ar gael i blant am £16.30 y pen. Rhaid archebu ymlaen llaw.
Nodwch nad yw Ystafell De'r Pafiliwn o fewn yr ardd, a gallwch ddod i'r digwyddiad hwn heb ymweld â’r ardd. Pe dymunwch ymweld â’r ardd, bydd y ffioedd mynediad arferol yn daladwy, a bydd mynediad am ddim ar gyfer aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Archebwch yma
Dysgwch pryd mae Gardd Bodnant ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae croeso i gŵn ar dennyn byr (tennyn na ellir ei ymestyn) bob dydd o 1 Hydref i 31 Mawrth. Gydag 80 erw i’w harchwilio, mae taith gerdded at ddant pawb. Darganfyddwch fwy am ddod eich ci i Ardd Bodnant yma.
Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.
Dewch i ddarganfod y llu o blanhigion a choed egsotig a phrin yng Ngardd Bodnant, gan gynnwys pum Casgliad Cenedlaethol, ynghyd â chasgliad mwyaf Cymru o Goed sy’n Bencampwyr yn y Deyrnas Unedig.
Dysgwch sut y gwnaeth ‘annedd ger y nant’ wrth droed mynyddoedd Eryri droi yn hafan arddwriaethol fyd-eang diolch i genedlaethau o’r teulu McLaren a phen-garddwyr Puddle.