
Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i ystâd Castell y Waun, sy’n 480 erw, ac mae traddodiad hir o gŵn ar yr ystâd, yr holl ffordd yn ôl i’r canol oesoedd pan oedd y teulu yn arfer cadw bleiddgwn dan y bont wrth y fynedfa. Edrychwch ble y gallwch fynd â’ch ci am dro yn ystod eich ymweliad.
Mae Castell y Waun wedi cael sgôr ôl pawen o ddwy bawen. Mae gennym bowlenni dŵr, biniau cŵn a theithiau cerdded cyfeillgar i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â’ch ci i rai ardaloedd, ond nid i bob man. Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser ym mhob rhan o ystâd Castell y Waun.
Darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union lle gallwch chi fynd â’ch ci.
Mae croeso i gŵn yng ngardd Castell y Waun a’r Goedwig Hamddena am gyfnod o brawf yn ystod oriau agor arferol rhwng 1 Medi 2025 a 28 Chwefror 2026.
I’n helpu i ofalu am yr ardd, gofynnwn fod pob ci yn cael ei gadw ar dennyn byr a bod ymwelwyr yn aros ar lwybrau’r ardd ac yn casglu’r baw os bydd angen gwneud hynny. Mae gennym denynnau byrion ar gael - gofynnwch i aelod o’n tîm wrth giat yr ardd os bydd angen i chi fenthyg un. Bydd gofyn i chi adael eich tennyn chi a’i gasglu ar ddiwedd eich tro o amgylch yr ardd.
Helpwch ni i gadw Castell y Waun yn gyfeillgar i gŵn drwy barchu’r rheolau hyn bob amser a dod â digonedd o fagiau cŵn gyda chi er mwyn casglu unrhyw faw. Mae yna finiau gwastraff cŵn ar gael.
Nodwch nad yw cŵn yn cael mynd i mewn i ardd y gegin, ystafelloedd y castell, Tŵr Adam nac ychwaith ardal chwarae’r plant. Mae hyn yn sicrhau bod yr ardaloedd hynny yn cael eu cadw'n lân a diogel i bawb gael eu mwynhau.
Mae tri phrif lwybr wedi eu marcio ar draws ystâd Castell y Waun, felly mae cyfleoedd gwych i gerdded ar unrhyw amser o’r flwyddyn.
Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser ym mhob rhan o ystâd Castell y Waun.
Llwybr cylchol yw’r Llwybr Coetir sy’n mynd trwy goed ac ar draws parcdir a chaeau fydd yn cymryd tua 45-60 munud. Dilynwch y marcwyr glas o Fanc y Stabl.
Mae’r llwybr Hen Golff yn cymryd tua 30-45 munud ac mae’n eich arwain trwy gaeau a pharcdir i’r bryniau tu ôl i’r castell, i gael yr olygfa orau o Gastell y Waun a’i dirwedd. Dilynwch y marcwyr coch o’r maes parcio.
Mae taith Clawdd Offa yn eich arwain ychydig oddi ar ystâd y Waun. Llwybr caniataol yw hwn, sydd ar agor o fis Ebrill i fis Medi. Chwiliwch am rannau o Heneb Restredig Clawdd Offa o’r 8fed ganrif a safle rhan o frwydr Crogen yn 1165, yn ogystal â’r Dderwen Hynafol wrth Adwy’r Meirw. Dilynwch y marcwyr oren.
Mae croeso i gŵn cymorth ddod gyda’u perchennog i unrhyw le yn y gerddi neu’r castell. Cofiwch ofyn i aelod o’r tîm os bydd arnoch angen unrhyw help.
Mae yna finiau gwastraff cŵn ar gael yn y maes parcio, ar hyd y Llwybrau Coetir, ger Gatiau Davies ac yn agos at giat yr ardd. Gofalwch eich bod yn clirio ar ôl eich ci a defnyddio’r biniau sydd ar gael. Gall baw cŵn sy’n cael ei adael mewn bagiau plastig fod yn niweidiol i anifeiliaid eraill.
Mae diod o ddŵr ffres i’ch ci ei fwynhau wrth y Fferm ac i fyny wrth y castell.
Fel rhan o’n gwaith cadwraeth mae anifeiliaid yn pori’r caeau, felly cadwch eich cŵn ar dennyn a dan reolaeth, yn arbennig trwy gaeau o ddefaid. Os byddwch yn croesi cae â gwartheg llawn dwf ynddo, tynnwch y ci oddi ar y tennyn.
Mae croeso cynnes i gŵn cymorth y tu mewn i'r castell a’r caffi. Mae croeso i bob ci arall yn ardal eistedd ychwanegol yr ystafell de ac yn yr ardal eistedd awyr agored yn yr iard. Yma, gallwch ymlacio â’ch ffrindiau blewog wrth fwynhau lluniaeth.
Ni chaniateir cŵn yn yr ardal chwarae. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y llecyn yn cael ei gadw’n lân ac yn ddiogel i bawb gael ei fwynhau.
Beth am rannu unrhyw luniau o'ch diwrnod ar Facebook neu Instagram? Peidiwch ag anghofio tagio ni @chirkcastlent a #ChirkCastleNT
Mae’n bleser cael cyhoeddi ein bod yn cymryd rhan yn rhaglen pasbort cŵn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Dewch â’ch ci a chasglu stampiau gan safleoedd sy’n cymryd rhan ar eich dyddiau hamddena a bydd pob pasbort llawn yn sicrhau trit arbennig gan ein partneriaid yn Forthglade.
Casglwch Basbort Ci o un o’r 133 o safleoedd sy’n cymryd rhan a bob tro y byddwch yn ymweld â safle newydd gyda’ch gilydd rhwng 1 Medi 2025 a 28 Chwefror 2026, cewch gasglu stamp.
Wedi i chi gasglu chwe stamp bydd eich ci yn cael paced o ddanteithion naturiol am ddim. Wedi i chi gasglu 12 stamp o’ch ymweliadau gyda’ch gilydd, caiff eich ci dag am ddim fel archwiliwr ffyddlon, os bydd rhai ar gael o hyd.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.
Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.
Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.
Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.