Skip to content

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun

A selection of Easter decorations including felted animals and floral mugs
Addurnwch ar gyfer y Pasg gydag ategolion y gwanwyn | © National Trust Images/James Dobson

Os ydych yn mwynhau’r gorau o gynnyrch Cymru a Phrydain, neu eich bod yn angerddol am gacennau cartref, mae rhywbeth at bob dant yng Nghastell y Waun. Gydag amrywiaeth o eitemau i’w gweld yn y siop a siop lyfrau ail law, dyma le perffaith i’r rhai sy’n hoff o lyfrau i dreulio amser wrth eu boddau.

Ystafell de

Yn yr Adain Orllewinol, gyda mwy o le yn Nhŵr Distil (Tŵr y Gogledd Orllewin) a’r tu allan yn y Cwrt, mae’r ystafell de mewn man oedd unwaith yn gartref i hen adeilad Tuduraidd i baratoi bwyd i’r Ystafell Giniawa Swyddogol yn y prif gastell. Heddiw gallwch fwynhau amrywiaeth o brydau oer a phoeth o’n bwydlen dymhorol.

Rydym yn prynu cynnyrch lleol a Masnach Deg pryd bynnag y bydd yn bosibl, ac mae ein holl gacennau a danteithion yn cael eu coginio’n ddyddiol gan ein pobydd ni ein hunain. Gyda danteithion sawrus, cacennau blasus, te hufen a hufen iâ lleol, mae rhywbeth i bawb, a rhywbeth newydd i’w flasu bob amser.

Gwybodaeth am alergenau

Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.

Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.

Cadarnhewch cyn eich ymweliad

Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

Ciosg y Fferm

Mae Ciosg y Fferm yn ardal Fferm yr Ystâd, yn agos at y Swyddfa Docynnau, ac mae’n gweini diodydd poeth, hufen iâ a byrbrydau poeth ac oer. Gyda digonedd o leoedd i eistedd tu allan mae’n lle gwych i gael seibiant bach wrth i’r plant fwynhau’r maes chwarae, neu, pam nag ewch chi â diod boeth neu damaid blasus hefo chi wrth i chi grwydro’r ystâd anferth?

Yn dymhorol y mae Ciosg y Fferm ar agor, edrychwch ar yr adran amseroedd agor am fanylion.

Mwynhewch gacennau, sgons a danteithion yn y bwyty yng Nghastell y Waun
Mwynhewch gacennau, sgons a danteithion yn y bwyty yng Nghastell y Waun | © National Trust

Siopa yng Nghastell y Waun

Yn chwilio am anrheg i’r rhywun arbennig yn eich bywyd, neu gofrodd i chi eich hun? Mae ein siop anrhegion ar y Fferm, yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau i’r tŷ, planhigion a nwyddau garddio, cynnyrch glanhau eco, tlysau, llyfrau, teganau a danteithion blasus.

Marchogion a thywysogesau

Fyddai siop anrhegion mewn castell ddim yn gyflawn heb gleddyfau a thariannau i blant, ond os am rywbeth llai traddodiadol, beth am lyfrau, gemau a theganau.

Yr ardd a’r awyr agored

Mae’r nwyddau gardd yn cynnwys popeth sydd arnoch ei angen ar gyfer eich diddordeb mewn garddio, o blanhigion ac offer i addurniadau gardd a llyfrau garddio i’ch ysbrydoli. I’r rhai sydd am fentro i’r awyr agored, cychwynnwch eich taith gyda’n mapiau, llyfrau, dillad ac offer cerdded.

Diolch

Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.

Second-hand bookshop at Stowe, Buckinghamshire
Prynwch lyfr ail law yn ystod eich ymweliad | © National Trust Images/Emily Roe

Y Siop Lyfrau Ail Law

Ar y Fferm hefyd fe welwch chi’r Siop Lyfrau Ail Law sy’n fwy na dim ond lle i gael hyd i lyfr da. Mae’r holl arian a godir yn mynd tuag at brosiectau cadwraeth, gan ein helpu i ofalu am Gastell y Waun am byth, i bawb.

O lyfrau ffuglen a throsedd newydd, i arddio, bywyd gwyllt a ffefrynnau’r plant - mae cannoedd o deitlau’n cael eu diweddaru’n gyson felly dewch i mewn i ddod o hyd i’r llyfr sydd wrth eich bodd a’n helpu i barhau i adrodd hanes rhyfeddol Castell y Waun am flynyddoedd i ddod.

Yn dymuno rhoi rhai o’ch hoff lyfrau?

Rydym yn dibynnu ar roddion i gadw’r stoc i fynd a bydd ein tîm yn falch iawn o dderbyn blychau bach yn y Siop Anrhegion. Os dymunwch chi gyflwyno llawer o lyfrau, cysylltwch ymlaen llaw er mwyn i aelod o’r staff fod wrth law i’ch helpu.

Siop y Cwrt

Mae’r siop dymhorol hefyd yng nghwrt y castell yn hen ‘Ystafell Esgidiau’r’ hen adain ddeheuol. Mae’r siop lai yma yn lle gwych i gael golwg ar rai o’r stoc mwy unigryw a chwareus yr ydym yn eu gwerthu.

Yn dymhorol y mae Siop y Cwrt ar agor, ffoniwch ni am ragor o fanylion.

Wyneb y dwyrain a’r tocwaith yw yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun

Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

Visitors walking in the parkland with their dog at Calke Abbey, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun gyda’ch ci 

Mae gan Gastell y Waun sgôr o ddwy bawen. Rydym wrth ein bodd yn croesawu cŵn i Gastell y Waun. Gall yr ystâd 480 erw fod yn lle gwych i grwydro gyda’ch ci beth bynnag yw’r tywydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ble gallwch chi fynd â’ch ci a ble gallwch chi aros i fwynhau pryd blasus.

Golygfa o Neuadd Cromwell yng Nghastell y Waun, yn dangos y lle tân, bwrdd a chadair.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell y Waun 

Pan gychwynnwyd adeiladu Castell y Waun yn y 13eg ganrif, ni fwriadwyd iddo fod yn gartref teuluol erioed. Yn hytrach roedd yn un o gadarnleoedd canol oesol y Gororau ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd i gadw’r Cymry dan reolaeth Lloegr.