Skip to content

Ymweliadau grŵp ac ymweliadau ysgolion i Gastell y Waun

A group of elderly visitors smiling at Hidcote in Gloucestershire
Mwynhewch Gastell y Waun gyda grŵp o bobl o'r un anian | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Gan ddechrau tua 1295, Castell y Waun yw'r unig un o gestyll Edward I ar y ffin gyda phobl yn byw ynddo yn barhaus ers ei gwblhau ym 1310. Mae hyn yn golygu bod gan Gastell y Waun hanes unigryw, hir, lliwgar, gyda’r potensial i'ch ymweliad ategu ystod eang o bynciau ac ymweliadau grŵp.

Ymweliadau hunan-dywys

Yng Nghastell y Waun rydym ni’n cynnig ymweliadau grŵp hunan-dywys fel eich bod chi’n rheoli eich taith eich hun. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth i'ch helpu chi i gynllunio eich diwrnod ac mae digon o staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gael drwy gydol eich taith i ateb unrhyw gwestiynau sy'n codi.

Cadw lle ar gyfer grwpiau addysgol

Os hoffech chi ymweld â'r castell neu archwilio'r ystâd o'i amgylch, dyma'r lle perffaith i ddysgu am hanes, o'r cyfnod canoloesol i'r ugeinfed ganrif.

I drefnu eich ymweliad:

  1. Yn gyntaf, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon, yna lawrlwythwch ein pecyn gwybodaeth i ysgolion am fwy o wybodaeth yn ymwneud â'ch ymweliad.
  2. Nesaf, llawrlwythwch y ffurflen archebu a’i dychwelyd i chirkcastle@nationaltrust.org.uk. Rhaid trefnu pob ymweliad grŵp ymlaen llaw. Mae Castell y Waun yn boblogaidd iawn felly rydym ni’n argymell cadw lle’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
  3. Unwaith y byddwch wedi cael cadarnhad yn dilyn eich archeb, mae'n bryd cynllunio'ch ymweliad. Rydym wedi llunio'r Pecyn Adnoddau defnyddiol hwn y gellir ei lawrlwytho sy'n cynnwys gwybodaeth gefndirol a gweithgareddau ar gyfer y castell, yr ardd a'r parcdir.

Cadw lle i grŵp

Bydd grwpiau a phartïon bysus wrth eu bodd yn darganfod gorffennol canoloesol, ystafelloedd gwladol a gerddi arobryn y castell. Yn ogystal, oherwydd bod eich ymweliad yn ymweliad hunan-dywys, gall unigolion dreulio amser ym mha bynnag ardal sydd o fwyaf o ddiddordeb iddyn nhw.

I drefnu eich ymweliad:

1. Yn gyntaf, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon, yna lawrlwythwch ein pecyn gwybodaeth am fwy o wybodaeth yn ymwneud â'ch ymweliad.

2. Nesaf, llenwch y ffurflen archebu a'i dychwelyd i chirkcastle@nationaltrust.org.uk. Rhaid trefnu pob ymweliad grŵp ymlaen llaw. Mae Castell y Waun yn boblogaidd iawn felly rydym ni’n argymell cadw lle’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

3. Unwaith y byddwch wedi cael cadarnhad yn dilyn cadw lle, efallai y byddwch chi eisiau trefnu eich amserlen. Isod rydym wedi nodi'r prif bethau i'w gweld fel y gallwch chi ddarganfod beth sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch alw heibio a gweld beth yw prif ddiddordeb y grŵp. Chi sy'n rheoli eich ymweliad hunan-dywys.

Oedolyn yn helpu plentyn i wisgo dillad canol oesol y tu mewn i Gastell y Waun, Wrecsam, Cymru.
Gwisgo dillad canol oesol yng Nghastell y Waun, Wrecsam | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Cwestiynau Cyffredin

Amseroedd agor

Mae ein castell, gardd, siop ac ystafell de ar agor ar adegau amrywiol drwy gydol y flwyddyn. Ewch i'n tudalen hafan i weld yr holl oriau agor.

Parcio bysiau

Yng Nghastell y Waun, mae parcio rhad am ddim i fysiau ar y safle sydd wedi'i leoli ger y Swyddfa Docynnau.

Ar ôl cyrraedd, rydym ni’n argymell bod arweinydd y grŵp yn ymweld â'r Swyddfa Docynnau i gofrestru, talu a chasglu tocynnau, mapiau a thalebau. Mae croeso i bartïon bysiau ollwng ymwelwyr wrth fynedfa'r Castell, er mwyn osgoi cerdded i fyny'r bryn serth. Yna mae'n rhaid i fysiau ddychwelyd i barcio yn y maes parcio bysiau.

Prisio a thalu

Rhaid i grŵp gynnwys 15 o bobl o leiaf (gan gynnwys athrawon neu oedolion cysylltiedig) i fod yn gymwys i gael prisiau mynediad cyfradd grŵp. Mae cyfraddau mynediad arferol yn berthnasol i grwpiau o lai na 15 o bobl, mae'r prisiau ar gael ar ein hafan.

Mae grwpiau gydag Aelodaeth Grŵp Addysg yn cael mynediad am ddim.

Mae gyrwyr bysiau yn cael mynediad am ddim ynghyd â thaleb am 1 x te neu goffi am ddim (nid yw'r cynnig hwn yn berthnasol i grwpiau addysgol sydd wedi cadw lle).

Mae aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban yn mwynhau mynediad am ddim.

Bydd aelodau'r grŵp yn derbyn taleb 10% i ffwrdd y gellir ei defnyddio yn y siop yn unig gydag isafswm gwariant o £10 (ac eithrio grwpiau addysgol. Ddim yn berthnasol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Byddwch yn barod i dalu am eich grŵp mewn un trafodiad yn y Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi’n cyrraedd gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, neu arian parod. Nid ydym bellach yn derbyn sieciau. Gellir talu trwy daleb hefyd ond dim ond os oes gan eich cwmni Gytundeb Credyd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn yr achos hwn byddwn yn anfon anfoneb atoch chi. Rhaid i unrhyw Gytundeb Credyd gael ei gymeradwyo a bod yn ei le cyn eich ymweliad.

Hygyrchedd

Mae Castell y Waun yn adeilad hanesyddol ac felly nid yw'n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn. Cliciwch yma i ddarllen ein datganiad mynediad llawn.

Mae gennym ni un cerbyd symudedd trydan Tramper sy'n bosibl ei ddefnyddio i archwilio'r gerddi a'r ystâd. I drefnu hyn, cysylltwch â ni.

Mae llawer o lwybrau hygyrch yn yr ardd ac mae mynediad i gadeiriau olwyn yn bosibl i lawr gwaelod Tŵr Adam, Neuadd y Gwas a'r ystafelloedd te — er bod ychydig o risiau ym mhob achos.

Yn anffodus, nid oes mynediad i gadeiriau olwyn na mynediad heb risiau i du mewn y castell, fodd bynnag, mae ein taith rithwir yn galluogi ymwelwyr i weld yr Ystafelloedd Gwladol, a'r ystafelloedd i fyny ac i lawr y grisiau yn Nhŵr Adam.

Bwyta a siopa

Mae croeso i'ch grŵp ymweld â'n hystafell de yn y cwrt. Bydd pob aelod o’r grŵp yn derbyn taleb 10% i ffwrdd y gellir ei defnyddio yn y siop yn unig gydag isafswm gwariant o £10 (ac eithrio grwpiau addysgol. Ddim yn berthnasol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Trefnu eich ymweliad

Rydym ni’n eich annog i ymweld â Chastell y Waun ymlaen llaw i gynnal eich asesiad risg eich hun. Rhowch wybod i ni wrth ddychwelyd eich ffurflen cadw lle er mwyn i ni allu trefnu mynediad am ddim i'r eiddo ar y diwrnod o'ch dewis chi. Does dim tebyg i weld neu brofi rhywle drosoch chi eich hun i’ch helpu i drefnu ymweliad llwyddiannus.

Ar gyfartaledd mae ymwelwyr yn aros gyda ni am 2.5 awr i archwilio'r tŷ a'r gerddi. Rydym ni’n argymell eich bod chi’n trefnu treulio o leiaf awr yn ymweld â'r tŷ.

Efallai y bydd ymweld â'r ardd hefyd yn cymryd awr, ond os oes gennych chi ddiddordeb penodol gall gymryd mwy o amser. Mae'r gerddi ar eu gorau o fis Mawrth i fis Hydref.

Mewn tywydd garw, efallai y byddwn ni’n cau'r eiddo am resymau diogelwch a byddwn yn cysylltu â'ch grŵp cyn gynted â phosibl os bydd hyn yn effeithio ar eich ymweliad.

Sylwer, nid oes gennym ni unrhyw leoedd dan do ar gael yng Nghastell y Waun i storio bagiau neu i gael cinio ynddyn nhw.

Grŵp o blant gydag oedolion, yn dysgu sut i adnabod coed yn y gaeaf yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru.
Dysgu sut i adnabod coed yn y gaeaf yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru | © National Trust Images/Paul Harris

Pethau i’w gweld a’u gwneud

Tŵr Adam

Rydym yn argymell eich bod yn dechrau eich ymweliad ger y Tŵr Adam canoloesol, yr ardal o’r castell sydd â’r nodweddion mwyaf gwreiddiol i’w gweld, ynghyd â’i ddwnsiynau dwy lefel, garderobes canoloesol (toiledau) a thyllau llofruddio.

Ystafelloedd swyddogol

Mae’r Ystafelloedd Swyddogol yn adrodd hanes y castell o 1595 ymlaen, pan ddaeth Castell y Waun yn gartref i’r teulu Myddelton. Dewch o hyd i ystafelloedd crand gyda pheintiadau, dodrefn, a symbolau o gyfoeth mawr. Mae ein tîm o dywyswyr ystafelloedd wrth law i ateb eich cwestiynau ac adrodd chwedlau am arwyr Rhyfel Cartref Lloegr, Adfywiad Gothig Pugin a nawdd yr Arglwydd Howard de Walden i Gelf Gymreig.

Gerddi tawel

Mae gerddi o fri Castell y Waun yn fendigedig i’w hymweld yn eu rhinwedd eu hunain: gyda llwyni a choed prin, borderi blodau, gardd rosynnau, golygfeydd godidog, a llwybrau troellog. Mae’r gerddi’n llawn bwrlwm a lliw drwy gydol y flwyddyn, o’r carpedi eirlysiau hardd ar ddechrau’r gwanwyn i liwiau hydrefol hudolus ar ddiwedd y flwyddyn.

Wyneb y dwyrain a’r tocwaith yw yng Nghastell y Waun, Wrecsam, Cymru

Darganfyddwch fwy yng Nghastell y Waun

Dysgwch pryd mae Castell y Waun ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yng Nghastell y Waun 

Rhyddhewch eich synhwyrau ac adnewyddu eich ysbryd trwy grwydro’n hamddenol ymysg arogleuon a lliwiau tymhorol y llwyni a blodau prin yn yr ardd bum erw a hanner hyfryd hon.

Ymwelwyr yn mynd â’u ci am dro yn y parcdir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld ag ystâd Castell y Waun 

Ewch am dro o gwmpas parcdir 480 erw rhyfeddol Castell y Waun, a darganfod tirwedd sy’n gweithio ac yn llawn o goed hynafol, blodau gwyllt, adar a phryfed.

A selection of Easter decorations including felted animals and floral mugs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell y Waun 

Dewch i ymweld â’n ystafell de a mwynhau cacennau cartref sy’n cael eu pobi’n ddyddiol, gan ddefnyddio’r cynhwysion mwyaf ffres. Neu ewch i’r siop anrhegion sy’n llawn o ddanteithion cartref a chofroddion.