Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Background
Mae hanes y dyffrynnoedd coediog a gwyllt hyn wedi’i ymwreiddio yng ngorffennol y diwydiant glo a’r modd y câi pren ei ddefnyddio drwy’r oesoedd. Wrth i rywogaethau brodorol gael eu disodli gan goed a dyfai’n gyflym, fel conwydd, cafodd nifer o rywogaethau brodorol ein coetiroedd anhawster i oroesi.
Trwy adfer iechyd y coetiroedd hyn, bydd miloedd o blanhigion, bryoffytau, ffyngau, pryfed, adar a mamaliaid sy’n dibynnu ar goetiroedd yn dod yn rhan o rwydwaith ecolegol gweithredol.
Wrth reoli’r dyfrffyrdd, bydd y coetir yn dal ychwaneg o ddŵr, pridd a maethynnau wrth hidlo’r dŵr sy’n llifo i lawr yr afon, gan esgor ar gynefinoedd iachach ar hyd y ffordd.
Mae gwelliannau mynediad yn cael eu rhoi ar waith trwy’r coetiroedd ac rydym yn ymestyn yr ardaloedd ar gyfer mynediad, gan blannu coetiroedd newydd a diweddaru clwydi, pontydd a llwybrau troed. Rydym eisiau darparu mannau gwych gyda digonedd o fynediad i ddiwallu anghenion pawb, pa un a ydych yn cael blas ar deithiau cerdded hir neu’n hoffi dysgu a mwynhad tawel.