Skip to content

Bwyta a siopa yn Ninefwr

A loaf cake on a plate with chocolate and orange on top
Goddards chocolate orange drizzle cake | © National Trust Images/William Shaw

Ymlaciwch yn yr caffi a mwynhau dewis o fwydydd poeth ac oer, snacs, bwyd pôb a hufen iâ. A darganfyddwch y siop lyfrau ail-law lle gallwch ddod o hyd i ambell drysor.

Y caffi yn Ninefwr

Mwynhewch ddiodydd, hufen iâ, danteithion melys, brechdanau, snacs sawrus, pasteiod poeth a rholiau selsig.

Mae’r coffi masnach deg yn dod o darddle moesol ac yn cael ei gymysgu’n arbennig ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Os byddai’n well gennych eistedd yn yr awyr iach, ymlaciwch yn yr iard o flaen Tŷ Newton (dim ond rhai bwydydd a diodydd sydd ar gael o’r twll-yn-y-wal yma). Yn ystod misoedd yr haf, fe allech weld ceirw yn y parc a Gwartheg Parc Gwyn yn y cae blaen.

Bwydlen plant

Ar gyfer boliau bach, rydym yn cynnig bocs bwyd plant sy’n cynnwys brechdan, diod a snacs. Mae’r bocsys (y gellir eu hailgylchu) hefyd yn cynnwys gweithgareddau i gadw’r rhai bach yn brysur.

Rydym wedi ennill Gwobr Efydd Food for Life Served Here gyda Chymdeithas y Pridd.

Cymerwch olwg ar oriau agor y caffi.

Caffi yn Ninefwr
Caffi yn Ninefwr | © National Trust Images / Aled Llywelyn

Gwybodaeth am alergenau

Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.

Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.

Cadarnhewch cyn eich ymweliad

Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

Llyfrau clawr papur ar silff yn y siop lyfrau ail-law yn Ystâd Shugborough, Swydd Stafford
Mae yna ddewis enfawr o lyfrau ail-law i bori drwyddynt | © National Trust Images/David Goacher

Y siop lyfrau ail-law yn Ninefwr

Dewiswch drysor ail-law o gasgliad amrywiol yn y siop lyfrau yn Nhŷ Newton. Mae rhywbeth i bawb yma.

Mae pob ceiniog yn mynd tuag at waith cadwraeth ar draws yr ystâd.

Diolch

Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.

Y fynedfa flaen a’r dreif yn Nhŷ Newton, Dinefwr

Darganfyddwch fwy yn Ninefwr

Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Soil Association

The Soil Association is a charitable organisation that works to transform the way we eat, farm, and care for our natural world.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

View house Dinefwr Carmarthenshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Golygfa o uchder o’r parc yn Ninefwr, Sir Gâr
Erthygl
Erthygl

Hanes Dinefwr 

Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.

Rhywun yn sleisio mewn i gacen Victoria sponge

Llefydd i fwyta a siopa yng Nghymru 

Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.