Skip to content
Mae’r dŵr yn araf daro traeth llawn cerrig mân Abermaw, Gwynedd, gyda thref Abermaw yn y cefndir a chlogwyni eithinog Dinas Oleu tu hwnt.
Dinas Oleu o draeth Abermaw | © National Trust Images/Joe Cornish
Wales

Taith Dinas Oleu, Abermaw

Aiff y daith gylchol hon â chi o ganol tref Abermaw trwy strydoedd serth troellog yr hen dref ac i ben y bryn eithinog a elwir yn Ddinas Oleu. Wrth i chi ddringo datgelir golygfeydd dramatig o aber Afon Mawddach a Bae Ceredigion – yn ymestyn tuag at Benrhyn Llŷn. Mae’r daith yn llawn hanes, gan gynnwys y darn cyntaf o dir a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1895.

Cyfanswm y camau: 8

Cyfanswm y camau: 8

Man cychwyn

Gorsaf drên Abermaw, LL42 1LS

Cam 1

Ewch ar hyd Ffordd yr Orsaf gyferbyn â mynedfa’r orsaf i Sgwâr Talbot.

Cam 2

Trowch i’r dde i lawr y brif stryd ac ar ôl rhyw 100 llath fe welwch arwydd brown yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y dde yn dangos y ffordd i fyny at Ddinas Oleu. Croeswch y ffordd a throi i fyny stryd gul (Ffordd Dinas Oleu). Cerddwch i fyny’r rhiw, gan gadw i’r dde ar y troad cyntaf, gan ddilyn y saethau bach gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth bob cyffordd nes y cyrhaeddwch chi olygfan yn edrych dros y dref.

Cam 3

Dilynwch y llwybr serth heibio arwydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ewch yn syth i fyny’r rhiw, gan anwybyddu’r llwybr i’r dde wrth y fforch gyntaf. Mae’r llwybr yn culhau ac mae disgyniad serth i’r chwith, felly byddwch yn ofalus. Ychydig yn nes ymlaen byddwch yn cyrraedd ‘y lolfa awyr agored’ sydd wedi ei chloddio i’r graig ar y dde i chi.

Cam 4

Ewch ymlaen ar i fyny gan ddilyn y llwybr igam-ogam a chymryd y fforch i’r chwith lle mae’r llwybr yn rhannu nesaf. Ar ôl ychydig byddwch yn dod at risiau sy’n mynd yn serth ar i lawr am ychydig ac yna mae’r llwybr yn rhannu eto dan goed. Cymrwch y troad tynn i’r dde a dilyn y llwybr serth i fyny’r bryn eto nes dewch chi at faen coffa canmlwyddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y copa.

Cam 5

O’r maen coffa ewch ymlaen ar hyd y llwybr y daethoch i fyny arno. Bydd y llwybr yn gwastatau i gychwyn ac yna’n mynd i lawr yn serth. Cadwch i’r chwith yn y fforch, gan ddal i fynd ar i lawr nes y dewch chi at risiau, ar y gwaelod trowch i’r chwith trwy’r giât. Ewch ymlaen am ryw 100 llath gan ddilyn wal ar y dde nes y dewch chi at giât gyda’r arwydd ‘Bedd y Ffrancwr yn Unig’. Ewch trwy’r giât a dilyn y llwybr am ychydig, gan fynd trwy giât arall nes y gwelwch chi’r bedd yn union o’ch blaen.

Cam 6

Ewch yn ôl at y giât gyntaf y daethoch trwyddi a’r tro hwn dilynwch y llwybr ar i lawr, yn serth, nes y cyrhaeddwch chi’r olygfan gyntaf y daethoch ati (Gweler Cam 2 uchod). Yn awr dilynwch y lôn i’r chwith o’r llwybr y gwnaethoch ei ddringo. Bydd hwn yn eich arwain heibio Ty’n Ffynnon lle bu Fanny Talbot yn byw hyd ei marwolaeth yn 1917. Sylwer ar y plac coffa llechen yn y wal heibio ei thŷ.

Cam 7

Yn awr fe welwch nifer o lwybrau a lonydd cul, serth yn mynd i lawr trwy fythynnod blith draphlith hen dref Abermaw. Gallwch ddilyn nifer o lwybrau ond os daliwch chi i gadw i’r chwith byddwch yn mynd heibio’r amlycaf o fythynnod Ruskin.

Cam 8

Daliwch i fynd i lawr trwy’r llwybrau cul nes cyrhaeddwch chi’r Ffordd Fawr trwy’r dref. Trowch i’r dde ar hyd y stryd a cherdded yn ôl i Sgwâr Talbot a’r fynedfa i’r orsaf lle cychwynnodd y daith.

Man gorffen

Gorsaf drên Abermaw, LL42 1LS

Map llwybr

Map taith Dinas Oleu, Abermaw, Cymru
Map taith Dinas Oleu, Abermaw | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa o Raeadr Ddu gyda chenlli gwyn dros gerrig tywyll, gyda choed gwyrdd o’i gwmpas.
Llwybr
Llwybr

Taith Rhaeadr Ddu a Choed Ganllwyd 

Dilynwch y daith gylchol hon o’r Ganllwyd, trwy goed derw ac ar hyd Afon Gamlan, sy’n eich arwain at raeadr ddramatig Rhaeadr Ddu.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2 (km: 3.2)
Llun o Afon Camlan, sy’n llifo’n gyflym trwy goed trwchus yn Nolmelynllyn, Gwynedd, Cymru. Mae ei glannau wedi eu gorchuddio â mwswgl a glaswellt.
Llwybr
Llwybr

Taith Ystâd Dolmelynllyn 

Dewch i weld y Rhaeadr Ddu fyrlymus ac adfeilion trawiadol gwaith aur Cefn Coch ar daith Ystâd Dolmelynllyn yn Ne Eryri.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 4 (km: 6.4)
Teulu ifanc a ci yn cerdded o amgylch llyn llonydd gyda choed yr hydref yn cael eu hadlewyrchu yn y llyn
Llwybr
Llwybr

Taith y Llyn Addurnol, Dolmelynllyn 

Mwynhewch daith addas i gadeiriau olwyn a wnaiff i chi ymlacio o gwmpas y llyn a adferwyd yn Nolmelynllyn, sy’n wych i wylio bywyd gwyllt.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 0.6 (km: 0.96)

Cysylltwch

Dolmelynllyn car park, Ganllwyd, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2TF

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winters day.

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Golygfa o’r coed ar Ystâd Dolmelynllyn, Gwynedd. Nifer o goed gyda changhennau cadarn, sy’n plethu i’w gilydd ac mae nifer o gerrig ar lawr y coetir wedi eu gorchuddio â mwsogl gwyrdd llachar a chen.
Erthygl
Erthygl

Crwydro De Eryri 

Crwydrwch drwy dirwedd garw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Edrychwch yn ofalus o dan eich traed i chwilio am ffosiliau a chen prin ar draws y rhostir.

Edrych i lawr tuag at Abermaw, Gwynedd, o olygfan uchel ar glogwyni Dinas Oleu, sydd wedi eu gorchuddio mewn eithin brown a melyn a mwsogl.
Erthygl
Erthygl

Ein dechreuadau yn Ninas Oleu 

Dinas Oleu oedd y darn cyntaf o dir y byddem ni yn ei ddiogelu i bawb, am byth. Dysgwch pam bod Mrs Fanny Talbot wedi rhoi’r tir hwn i’w ddiogelu.

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.