Diwrnodau allan i'r teulu yng Erddig

Neidio i
Diddanu pawb gyda diwrnod llawn hwyl i'r teulu cyfan yn Erddig. Gydag erwau o barcdir, gardd rhewllyd a gweithgareddau tymhorol, mae digon i gadw’ch anturwyr bach yn brysur.
Cynllunio eich ymweliad ar gyfer y teulu
Cymerwch gip ar y wybodaeth yma i’ch help i gynllunio eich ymweliad nesaf ag Erddig:
-
Mae toiledau a chyfleusterau newid babanod wedi’u lleoli yn Iard y Domen. Mae toiledau compostio ychwanegol wedi’u lleoli yn Ffau’r Blaidd, ein hardal chwarae naturiol.
-
Caiff pramiau eu caniatáu ledled llawr gwaelod y tŷ yn unig, sy’n gwbl hygyrch, gyda lloriau carreg gwastad. Gallwch hefyd adael pramiau wrth fynedfa’r tŷ.
-
Sylwer – ni chaniateir cŵn y tu mewn i’r tŷ, yn yr ardd, yn y siop, ym mwyty’r Daflod nac yn Ffau’r Blaidd, sef ardal chwarae naturiol. Yr unig eithriad i’r polisi hwn yw cŵn cymorth cofrestredig.
Calan Gaeaf yn Erddig
17 Hydref - 1 Tachwedd 2026
Hanner tymor fis Hydref eleni, ymunwch â ni yn Erddig i ganfod y traddodiadau, straeon a llên gwerin Calan Gaeaf.
Yn nodi diwedd y cynhaeaf a dechrau’r misoedd tywyllach, mae Calan Gaeaf, ers amser maith, wedi’i gysylltu â straeon am ysbrydion, creaduriaid od a thymhorau newidiol Cymru.
Cewch ddilyn llwybrau, sy’n addas i’r teulu cyfan, drwy’r tŷ a’r ardd, wedi’u hysbrydoli gan lên gwerin Cymru a chwedlau lleol. Ar eich taith, cewch fod yn greadigol gyda chrefftau tymhorol, ymgasglu o amgylch y tân agored i dostio malws melys a mwynhau ystod o weithgareddau hydrefol. Bydd mwy i’w ganfod adeg Calan Gaeaf, gan gynnwys cerfio pwmpen, peintio wynebau a digon o hwyl ymarferol.
Gyda thŷ hanesyddol, gerddi a thirwedd hydrefol liwgar Erddig fel cefndir, mae’n gyfle i chi a’ch plant archwilio traddodiadau Cymru gyda’ch gilydd a chanfod rhai o’r straeon a llên gwerin a gysylltir â’r adeg arbennig hon o’r flwyddyn.

Ffau’r Blaidd
Ni fyddai unrhyw ymweliad teuluol ag Erddig yn gyflawn heb ymweld â Ffau’r Blaidd. Wedi’i hadeiladu gan ddefnyddio adnoddau o’r ystâd yn bennaf, mae’r ardal chwarae naturiol hon yn ymestyn dros bron i ddwy erw o dir chwarae gwyllt. Cewch hedfan yn uchel ar y siglen raff, profi’ch cydbwysedd ar y trawstiau pren a’r cerrig camu, rhoi cynnig ar adeiladu ffau, croesi’r pontydd neu ddringo’n uchel yn y gaer am oriau o hwyl deuluol. Mae yma hefyd feinciau picnic, sy’n ei wneud yn llecyn perffaith i fwynhau byrbryd neu ginio rhwng chwarae.
Pethau i’w gwneud i deuluoedd yn yr ardd
Mwynhewch y llwybr teulu diweddaraf neu ticiwch nifer o’r gweithgareddau 50 o bethau i’w gwneud cyn bod yn 11¾ yn yr ardd. Gallwch yn hawdd wneud Rhif 8 Gweld pysgodyn neu Rif 31 Dewch i adnabod pry ac mae’r ardd yn berffaith ar gyfer Rhif 1 – Dewch i adnabod coeden.
Ymddiheurwn, ond ni chaniateir cŵn yn ein gardd Restredig Gradd 1, ond mae croeso iddynt ar yr ystâd 1,200 erw ac yn yr ardd de hyd at Iard y Domen.
Hwyl i bawb o'r teulu ym mharcdir Erddig
Mwynhewch lwybr sydd wedi ei farcio o gwmpas yr ystâd 1,200 erw neu ticiwch nifer o’n gweithgareddau 50 o bethau i’w gwneud cyn bod yn 11¾ ar yr ystâd. Gallwch wneud Rhif 1 yn hawdd iawn, dod i adnabod coeden neu Rif 5 Sgimio carreg ac mae’r pontydd ar yr afon yn berffaith ar gyfer Rhif 19, chwarae Rasys Priciau.
Yma ac acw ar hyd y llwybrau mae digon o fannau i fwynhau picnic, boed yn y coed, ger yr afon neu mewn cae.
Mae croeso i gŵn sy’n cael eu rheoli’n ofalus ac ar dennyn yn ymyl anifeiliaid, yn arbennig yn y gwanwyn pan fydd ŵyn o gwmpas. Dewch i weld y rhan heb dennyn ger Melin Puleston lle gall eich ci grafu, ffroeni a charlamu’r hyn a fynno’n rhydd.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Bwyta a siopa yn Erddig
Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.

Ymweld â'r ardd Erddig
O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Ymweld ag Erddig efo'ch ci
Mae gan Erddig sgôr o ddwy bawen. Mae Erddig yn cynnig digon o gyfleoedd i rasio, neidio, ffroeni a sblasio i gŵn. Dysgwch am y parth oddi ar dennyn a chyfyngiadau ar fynediad a all effeithio ar eich cynlluniau.
