Skip to content

Ein gwaith yn y tŷ yn Erddig

Dyn yn gwisgo sbectol yn sefyll yn darllen wrth ffenestr olau, gyda’r ystafell o’i gwmpas yn dywyllach.
Yn Erddig efallai y bydd angen i chi symud at y ffenestr i ddarllen gwybodaeth | © National Trust Images/Vicki Coombe

Casgliad Erddig o 30,000 o eitemau yw’r ail o ran maint yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae cadw’r dirywiad cyn lleied â phosibl a chadw’r casgliad i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau yn rhan fawr o’n gwaith yn y tŷ, a golau’r haul yw un o’r prif bethau sy’n achosi difrod. Rydym yn gweithio’n galed i fesur a chyfyngu’r difrod gan oleuni, gan ddefnyddio technegau arbenigol – ac addasu mwy na 100 o gysgodlenni.

Pam bod y tŷ yn Erddig yn ymddangos yn dywyll?

Dyna’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn i ni amlaf. Mae’n rhannol am ein bod yn teimlo y byddai golau trydan cyffredinol yn mynd yn groes i benderfyniad y teulu Yorke i beidio rhoi trydan yn y tŷ yr oeddent yn berchen arno hyd 1973.

Ond, yn bwysicach na hynny, mae ein hystafelloedd wedi eu trefnu mewn ffordd sy’n helpu i gadw’r casgliad gan ddal i adael i ymwelwyr gael profiad o’r cartref eclectig hwn.

Weithiau mae’r ystafelloedd yn ymddangos yn dywyllach nag y byddwch chi wedi arfer ei weld gartref, felly efallai y bydd yn rhaid i chi sefyll ychydig yn agosach at y ffenestri i ddarllen gwybodaeth, neu cymrwch amser i adael i’ch llygaid addasu.

Dynes yn gwisgo menig glas yn dystio lamp sy’n hongian o’r nenfwd. Mae’n defnyddio brwsh glanhau a sugnydd llwch.
Rydym wedi cadw’r golau trydan yn Erddig cyn lleied â phosibl yn fwriadol | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Sut gall golau greu difrod i gasgliad hanesyddol?

A ydych wedi sylwi bod ffotograffau sy’n wynebu ffenestr yn eich cartref yn colli eu lliw yn gyflym? Bydd hyn yn digwydd am fod golau yn achosi dirywiad yn y pigmentau yn yr inc ac yna mae’r lliw yn gwanhau.

Mae hyn yn digwydd i’r rhan fwyaf o’r deunyddiau a welir yn Erddig – mae pren yn newid ei liw ac yn mynd yn frau, mae tecstilau yn colli lliw a chwalu ac mae eitemau natur (fel y tacsidermi) yn colli lliw a chwalu. Nid yn unig mae’r difrod yn gynyddol, mae’n ddi-droi’n-ôl.

Lleihau difrod golau yn Erddig

Mae pob un ond un o’r ystafelloedd yn y tŷ wedi cael eu dynodi yn rhai ‘sensitif iawn i olau’ oherwydd eu haddurniadau a’u cynnwys. Felly rhaid i ni gyfyngu faint o olau y maent yn ei gael i lai na 150,000 awr lwcs (dull o fesur golau llachar) y flwyddyn yn y mannau hyn.

Dim ond tua 150 lwcs sydd ar lygad person arferol eu hangen i weld yn dderbyniol. Ni fydd unrhyw beth mwy llachar yn cael fawr o effaith ar ba mor weladwy yw pethau, ond mae’n cael effaith anferth ar wrthrychau bregus, sensitif i olau. Byddai eitemau gwerthfawr yn amsugno mwy o ynni, heb unrhyw fudd i’n hymwelwyr.

Oriau agor byrrach

Y ffordd symlaf o gyfyngu difrod golau yw cadw ystafelloedd mewn tywyllwch llwyr am gyn hired â phosibl, gan gyfyngu oriau ymweld a dim ond agor y cysgodlenni funudau cyn i ymwelwyr ddod i mewn.

Er mwyn cadw at 150,000 o oriau lwcs mewn blwyddyn, dim ond am 1,000 awr y flwyddyn yr ydym yn agor ystafelloedd Erddig.

Rheoli lefel y golau pan fyddwn ar agor

Rydym yn cadw’r golau mwyaf niweidiol allan - golau uwch-fioled - trwy roi ffilm arbennig ar baenau’r ffenestri. Os gwelwch chi donnau ar y gwydr bydd hyn yn aml am fod y ffilm yn dod i ddiwedd ei oes 10-15 mlynedd, yn hytrach na natur wreiddiol y gwydr hanesyddol.

Mae’r tîm cadwraeth yn cael eu cadw’n brysur trwy’r dydd yn addasu’r 100 o gysgodlenni yn Erddig i reoli faint o olau sydd yn yr ystafelloedd. Mae’r cysgodlenni yn atal pelydrau niweidiol yr haul pan fydd yn llachar, ond hefyd mae angen eu codi ar ddyddiau cymylog i ymwelwyr allu gweld a mwynhau’r ystafelloedd.

Tri o blant yn sefyll o flaen ffenestr olau, sydd â chysgodlen lliw hufen wedi ei dynnu hanner ffordd i lawr.
Mae cysgodlenni’n rheoli lefelau’r golau yn y tŷ | © National Trust Images/Oskar Proctor

Mesur lefelau golau

Dosimedrau

Efallai y byddwch yn sylwi ar ddarnau bach o gerdyn gyda deunydd glas o’i fewn trwy’r tŷ. Dosimedrau yw’r rhain a ddefnyddir i fesur y goleuni blynyddol mewn ardaloedd sensitif ac ar eitemau sensitif, fel y cwpwrdd boulle yn y Salŵn.

Ar ddiwedd y flwyddyn rydym yn anfon y dosimedrau i labordy, lle mae’r lliw y bydd y deunydd glas wedi ei golli yn cael ei gymharu â sampl lle mae’r effaith yn hysbys. Bydd hyn yn rhoi mesur manwl i ni o’r golau y maent wedi ei gael, fel ein bod yn gallu adolygu sut yr ydym yn rheoli golau yn yr ardal honno yn ystod blwyddyn gyfan.

Darlleniadau golau eraill

Bydd ein tîm cadwraeth yn cymryd darlleniadau o lefel y golau yn y fan a’r lle yn ddyddiol gan ddefnyddio mesurydd Lwcs digidol, ac rydym yn cynnal ymarferion monitro golau mawr i gasglu data i’w ddadansoddi. Mae hyn i gyd yn ein helpu i lunio cynlluniau ystafelloedd ar sail gwybodaeth, gan ddangos yr ardaloedd sy’n cael mwyaf o olau yng nghyswllt safle’r ffenestri a’r cysgodlenni.

Rydym yn cyfuno’r holl ddata hwn i’n helpu i bennu’r amcangyfrif o oleuni blynyddol ar gyfer ardaloedd sensitif nad ydyn nhw’n cael eu monitro â dosimedr.

Diolch

Gyda’ch cefnogaeth barhaus gallwn barhau gyda’n gwaith cadwraeth hanfodol. Diolch am helpu i ddiogelu’r llefydd arbennig hyn.

Ymwelwyr yn yr ardd yn y gwanwyn yn Erddig, Wrecsam, Cymru

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.

Bwrdd pren gyda chlychau efydd. Maent wedi eu labelu ‘White Room’, ‘West Room’, ‘Drawing Room’ a ‘Front Hall’.
Erthygl
Erthygl

Hanes bywyd y gweision a’r morynion yn Erddig 

Pam bod y teulu Yorke yn coffau eu staff mewn lluniau a cherddi? Dysgwch am ddiwrnod ym mywydau’r gweision a’r morynion a gweld sut y gwnaeth un wraig cadw tŷ orfod mynd o flaen ei gwell.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Mam yn dal ei phlentyn ac yn pwyntio at arddangosiad o luniau ar waliau cyntedd yn y tŷ yn Erddig, Clwyd.
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yn Erddig 

Yn Erddig y mae’r ail gasgliad mwyaf o eitemau sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.