Skip to content

Hanes bywyd y gweision a’r morynion yn Erddig

Bwrdd pren gyda chlychau efydd. Maent wedi eu labelu ‘White Room’, ‘West Room’, ‘Drawing Room’ a ‘Front Hall’.
Clychau efydd y gweision a’r morynion yn Erddig | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Roedd bywydau gweision a morynion yn Erddig yn anarferol mewn un ffordd, gan eu bod yn cael eu clodfori mewn traddodiad rhyfeddol gan y teulu Yorke. Ond roedden nhw’n dal i wneud yr un dyletswyddau trwm ac oriau hir ag a ddisgwylid gan yr holl staff ar ystadau yn y wlad. Dysgwch am ddiwrnod ym mywydau’r gweision a’r morynion – o fynyddoedd o waith golchi dillad i warchod y llestri arian – a gweld sut y gwnaeth un fynd o flaen ei gwell.

Pam bod gweision a morynion Erddig wedi cael eu cofio mewn portreadau?

Pan gymerodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y gwaith o ofalu am Erddig, roedd yn amlwg bod bywydau cenedlaethau o weision a morynion wedi cael eu clodfori i’r un graddau â rhai eu cyflogwyr.

Mae traddodiad teuluol unigryw’r teulu Yorke o goffau eu staff gyda lluniau a cherddi yn rhoi golwg ar fywyd y gweision a’r morynion – ond nid ydym yn sicr eto pam ei fod wedi dechrau.

Nid oedd y teulu Yorke erioed ymhlith teuluoedd mwyaf cyfoethog cymdeithas ac ni allent dalu’r cyflogau gorau i’w staff, ac eto fe welwn deyrngarwch mawr gan y gweision a’r morynion wrth i genedlaethau o’r un teulu wasanaethu yn Erddig.

Cymerai’r teulu ddiddordeb neilltuol a phersonol ym mywydau eu staff, oedd yn sail i’r cerddi. Efallai bod yr agosatrwydd yma’n gwneud iawn am y cyflogau is nag oedd yn cael eu cynnig ar ystadau cyfagos.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Grŵp o weision a morynion y tu allan i Erddig yn 1912, gyda Philip Yorke II a’i deulu yn y ffenestr | © National Trust

Cynllun cymell o’r 18fed ganrif?

Efallai bod y cerddi a’r portreadau yn cynrychioli ‘cynllun cymell’ o’r 18fed ganrif, lle’r oedd y gweision a’r morynion yn cael eu hanrhegu am eu teyrngarwch a’u gwaith caled trwy gael lle ar y wal a gallai staff eraill weithio tuag at hynny. Ond a ydyn nhw’n syml yn adlewyrchu dymuniad y teulu Yorke i gael eu cofio fel cyflogwyr caredig a gofalgar? Efallai na chawn wybod fyth.

Gweddi Erddig

I lawr y grisiau, yn hongian dan rai o glychau’r staff, mae Gweddi Erddig. Mae’n awgrymu faint o ofn tân oedd gan Philip Yorke I, ond mae hefyd yn awgrymu’r consyrn y byddai’r teulu yn ei ddangos am bawb oedd yn byw a gweithio ar yr ystâd.

‘May Heav’n protect our home from flame,

Or hurt or harm of various name!

And may no evil luck betide to any who therein abide!

As also, who their home have found

On any acre of it’s ground,

Or who from homes beyond it’s gate

Bestow their toil on this estate!’

– P.Y.

Heddiw mae clychau’r staff yn dawel yn Erddig, ond fe fyddent wedi bod yn canu trwy’r dydd i alw’r staff i wneud mwy o waith.

Diwrnod ym mywyd gweision a morynion Erddig

5.30am

Cychwyn cynnar

Morwyn y gegin gefn yw un o’r rhai cyntaf i godi, ymolchi’n sydyn mewn dŵr oer a gwisgo. Yna i lawr i’r gegin oer i lanhau grât haearn y gegin a thanio’r tân. Cael y dŵr i ferwi yw’r flaenoriaeth, fel ei bod yn gallu mynd â phaned o de i’r wraig cadw tŷ a’r gogyddes, a dŵr poeth iddyn nhw gael ymolchi. 

Wedyn mae angen paratoi brecwast – i’r gweision a morynion eraill yn gyntaf sy’n bwyta yn Ystafell y Gweision a’r Morynion, ac yna’r teulu Yorke a’u gwahoddedigion sy’n cael ei weini yn yr Ystafell Fwyta. 

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Grŵp o weision a morynion y tu allan i Erddig yn 1912, gyda Philip Yorke II a’i deulu yn y ffenestr | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Drama yn y llys

Erbyn dechrau’r 20fed ganrif, roedd nifer y staff mewn plastai yn mynd yn llai. Yn Erddig, roedd dyletswyddau’r Gogyddes aeth yn Wraig Cadw Tŷ, Ellen Penketh, erbyn hyn yn cynnwys cadw cyfrifon y tŷ.

Roedd y Mrs Yorke oedd newydd briodi, wrth ei bodd yn diddanu pobl, ond roedd yn ei chael yn anodd ymdopi â rhedeg tŷ o’r fath a rheoli’r cyllid. Pan sylweddolodd bod y cyfrifon yn llanastr, cyhuddodd Ellen o ddwyn oddi ar y teulu.

Ond aeth pethau o chwith pan aeth y teulu Yorke â’r wraig cadw tŷ i’r llys am ddwyn a’r rheithgor yn ei chael yn ddieuog.

Y plasty o’r 18fed ganrif, ar draws y llyn yn Erddig, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Erddig

Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.

Mam yn dal ei phlentyn ac yn pwyntio at arddangosiad o luniau ar waliau cyntedd yn y tŷ yn Erddig, Clwyd.
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yn Erddig 

Yn Erddig y mae’r ail gasgliad mwyaf o eitemau sydd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae angen gofalu am 30,000 o eitemau, sy’n dipyn o her i’n tîm o warchodwyr a gwirfoddolwyr. Mae Erddig hefyd yn amgueddfa ardystiedig.

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

1,200 erw o barcdir yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Crwydro parcdir Erddig 

Dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r parcdir. O afonydd troellog a nodwedd ddŵr o’r 18fed ganrif i’r llethr dramatig yn arwain at Glawdd Wat.

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.