Skip to content

Ymweliadau grŵp ac ymweliadau ysgol i Erddig

School children looking up in the Great Hall at Knole, Kent
Criw o blant ysgol yn mwynhau eu hymweliad | © National Trust/Ciaran McCrickard

Mae Erddig yn gartref, gardd ac ystâd 1,200 erw boblogaidd sy'n llawn straeon am deulu a'u gweision. Mae digon i ddal sylw grwpiau o bob oed gydag ystod o bynciau, o hanes cymdeithasol i arddio a theithiau cerdded parcdir.

Ymweliadau hunan-dywys

Yn Erddig rydym ni’n cynnig ymweliadau grŵp hunan-dywys fel eich bod chi’n rheoli eich taith eich hun. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth i'ch helpu chi i gynllunio eich diwrnod ac mae digon o staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gael drwy gydol eich taith i ateb unrhyw gwestiynau sy'n codi.

Cadw lle ar gyfer grwpiau addysgol

O bartïon ysgol i glybiau gwyliau, sgowtiaid, geids a chlybiau ieuenctid, mae Erddig yn ddiwrnod gwych i unrhyw grŵp addysgol gyda digon o le i chwarae, archwilio a darganfod. Mae llawer o gysylltiadau â'r pynciau mae disgyblion a myfyrwyr yn eu hastudio i ddod ag ystyr i'w dysgu.

I drefnu eich ymweliad:

  1. Yn gyntaf, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon, yna lawrlwythwch ein pecyn gwybodaeth i ysgolion am fwy o wybodaeth yn ymwneud â'ch ymweliad.
  2. Nesaf, llawrlwythwch y ffurflen archebu a’i dychwelyd i erddig@nationaltrust.org.uk. Mae’n rhaid archebu pob ymweliad ar gyfer grwpiau addysgol o leiaf saith diwrnod ymlaen llaw. Mae Erddig yn boblogaidd iawn felly rydym ni’n argymell cadw lle’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
  3. Unwaith y byddwch chi wedi cael cadarnhad yn dilyn cadw lle, mae'n bryd cynllunio'ch ymweliad. Rydym ni wedi llunio’r pecyn gweithgareddau ysgol hwn y gellir ei lawrlwytho sy'n cynnwys gweithgareddau ar gyfer y tu mewn, yr awyr agored, yr ardd a'r parcdir.

Cadw lle i grŵp

Bydd grwpiau a phartïon bysus wrth eu bodd yn darganfod straeon Erddig. Camwch yn ôl mewn amser drwy'r tŷ, gan gymharu bywydau heddiw â bywydau’r gorffennol, darganfyddwch harddwch y gerddi ac archwilio'r bywyd gwyllt rhyfeddol sy'n byw ar ystâd 1,200 erw Erddig. Ac oherwydd bod eich ymweliad yn ymweliad hunan-dywys gallwch dreulio amser ym mhle bynnag sydd o fwyaf o ddiddordeb i chi.

I drefnu eich ymweliad:

  1. Yn gyntaf, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen hon, yna lawrlwythwch ein pecyn gwybodaeth i ysgolion am fwy o wybodaeth yn ymwneud â'ch ymweliad.
  2. Nesaf, llenwch y ffurflen cadw lle a'i dychwelyd i erddig@nationaltrust.org.uk. Rhaid trefnu pob ymweliad grŵp ymlaen llaw. Mae Erddig yn boblogaidd iawn felly rydym ni’n argymell cadw lle’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
  3. Unwaith y byddwch chi wedi cael cadarnhad yn dilyn cadw lle, efallai y byddwch chi eisiau trefnu eich amserlen. Rydym ni wedi nodi'r prif bethau i'w gweld yn ystod eich ymweliad er mwyn i chi ddarganfod beth sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch droi i fyny a gweld beth sy'n denu'r grŵp.
Grŵp o deithwyr yn teithio trwy ardd o flaen tŷ brics coch, yn cael eu harwain gan ddyn â ffolder coch.
Grŵp yn ymweld â gardd Erddig | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Cwestiynau Cyffredin

Amseroedd agor

Mae oriau agor Erddig yn amrywio drwy gydol y flwyddyn. Ewch i'n tudalen hafan i weld yr holl amseroedd agor.

Sylwer, rydym ni’n profi prinder staff a gwirfoddolwyr ar hyn o bryd ac felly efallai na fyddwch chi’n gallu cael mynediad i holl loriau'r Tŷ yn ystod eich ymweliad. Diolch i chi am eich dealltwriaeth.

Prisio a thalu

Rhaid i grŵp gynnwys 15 o bobl o leiaf (gan gynnwys athrawon neu oedolion cysylltiedig) i fod yn gymwys i gael prisiau mynediad cyfradd grŵp. Mae cyfraddau mynediad arferol yn berthnasol i grwpiau o lai na 15 o bobl, mae'r prisiau ar gael ar ein hafan.

Mae grwpiau gydag Aelodaeth Grŵp Addysg yn cael mynediad am ddim i Erddig.

Mae gyrwyr bysiau yn cael mynediad am ddim ynghyd â thaleb am 1 x te neu goffi am ddim (nid yw'r cynnig hwn yn berthnasol i grwpiau addysgol sydd wedi cadw lle).

Mae aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban yn mwynhau mynediad am ddim.

Bydd aelodau'r grŵp yn derbyn taleb 10% i ffwrdd y gellir ei defnyddio yn y siop yn unig gydag isafswm gwariant o £10 (ac eithrio grwpiau addysgol. Ddim yn berthnasol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Byddwch yn barod i dalu am eich grŵp mewn un trafodiad yn y Swyddfa Docynnau pan fyddwch chi’n cyrraedd gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd, neu arian parod. Nid ydym bellach yn derbyn sieciau. Gellir talu trwy daleb hefyd ond dim ond os oes gan eich cwmni Gytundeb Credyd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn yr achos hwn byddwn yn anfon anfoneb atoch chi. Rhaid i unrhyw Gytundeb Credyd gael ei gymeradwyo a bod yn ei le cyn eich ymweliad.

Hygyrchedd

Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os hoffai unrhyw un yn eich grŵp ddefnyddio un o'n cadeiriau olwyn.

Mae'r ardd, llawr gwaelod y tŷ, y bwyty a'r siop i gyd yn hygyrch. Yn anffodus nid oes lifftiau yn y tŷ, felly i weld y lloriau uchaf rydym ni’n argymell ein taith rithwir i ymwelwyr sy'n methu defnyddio'r grisiau. Mae'r ffilm rithwir yn cynnwys ardaloedd nad ydynt ar agor i'r cyhoedd a chyfle rhyngweithiol i agor a chau eitemau arbennig o ddodrefn.

Bwyta a siopa

Mae eich grŵp yn rhydd i ddewis o'n bwyty Ystafell Wellt trwyddedig, y parlwr te a’r ardd de y tu allan. Bydd pob aelod o’r grŵp yn derbyn taleb 10% i ffwrdd y gellir ei defnyddio yn y siop yn unig gydag isafswm gwariant o £10 (ac eithrio grwpiau addysgol. Ddim yn berthnasol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).

Trefnu eich ymweliad

Rydym ni’n eich annog i ymweld ag Erddig ymlaen llaw i gynnal eich asesiad risg eich hun. Rhowch wybod i ni wrth ddychwelyd eich ffurflen cadw lle er mwyn i ni allu trefnu mynediad am ddim i'r eiddo ar y diwrnod o'ch dewis chi. Does dim tebyg i weld neu brofi rhywle drosoch chi eich hun i’ch helpu i drefnu ymweliad llwyddiannus.

Ar gyfartaledd mae ymwelwyr yn aros gyda ni am 2.5 awr i archwilio'r tŷ a'r gerddi. Rydym ni’n argymell eich bod chi’n trefnu treulio o leiaf awr yn ymweld â'r tŷ.

Efallai y bydd ymweld â'r ardd hefyd yn cymryd awr, ond os oes gennych chi ddiddordeb penodol gall gymryd mwy o amser. Mae'r gerddi ar eu gorau o fis Mawrth i fis Hydref.

Mewn tywydd garw, efallai y byddwn ni’n cau'r eiddo am resymau diogelwch a byddwn yn cysylltu â'ch grŵp cyn gynted â phosibl os bydd hyn yn effeithio ar eich ymweliad.

Sylwer, nid oes gennym ni unrhyw leoedd dan do ar gael yn Erddig i storio bagiau a chael cinio ynddyn nhw.

Visitors on a group tour leaving the coach at Cragside, Northumberland
Ymwelwyr ar daith bws yn gadael y bws | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Beth sydd i’w weld yn Erddig?

Bywyd go iawn i lawr y grisiau

Ers bron i 200 mlynedd, cafodd gweision Erddig eu cofnodi mewn portreadau, ffotograffau a phenillion. Does dim o’r fath ehangder yn bodoli yn unman arall. Dewch i archwilio ardaloedd byw’r gweision a dewch o hyd i waliau’n llawn peintiadau a ffotograffau o weision a arferai weithio i lawr y grisiau; gan ddathlu eu ffyddlondeb, hyd eu gwasanaeth a’u gwaith caled.

Ystafelloedd arddangos cyfoeth John Meller

Estynnwyd Erddig gan Meller ym 1714, gan greu set o ystafelloedd urddasol yn wynebu’r ardd, a phob un ohonynt yn arwain i mewn i’r nesaf gyda’u drysau wedi’u trefnu mewn llinell syth. Gwnaed bob dodrefnyn gan seiri dodrefn ffasiynol yn Llundain a chawsant eu gorchuddio â’r defnyddiau diweddaraf.

Gerddi ffurfiol a pharcdir

Mae ein gerddi ffurfiol 18fed ganrif rhestredig Gradd I anhygoel yn llawn bwrlwm a lliw drwy gydol y flwyddyn. Mae hyd yn oed mwy i’w archwilio yn y parcdir. Dilynwch un o’n llwybrau cerdded sydd ag arwyddion i ddangos y ffordd a datgelwch y ‘Cwpan a Soser’, nodwedd a rhaeadr unigryw wedi’u tirlunio neu, cerddwch ar hyd Clawdd Wat at adfeilion Castell Mwnt a Beili Normanaidd. Mae Afon Clywedog yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu am systemau afon, grym dŵr a’r bywyd gwyllt sy’n ffynnu ynddo.

Y plasty o’r 18fed ganrif, ar draws y llyn yn Erddig, Cymru

Darganfyddwch fwy yn Erddig

Dysgwch pryd mae Erddig ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun du a gwyn o weision a morynion yn eu gwisg, yn sefyll ar risiau blaen y tŷ mawr. Teulu o rieni a phlant yn edrych arnyn nhw o ffenestr ar y llawr cyntaf.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r tŷ yn Erddig 

Wedi ei achub rhag dadfeilio, mae Erddig yn fath prin ac unigryw o’r plastai sydd wedi goroesi yn orlawn o drysorau. O bortreadau gweision a morynion i ddodrefn cain, dysgwch beth yw’r prif bethau i’w gweld a’u gwneud wrth ymweld â’r tŷ.

Blodau coed ceirios ar ddiwedd y daith gerdded coed yw yn yr ardd yn Erddig
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd Erddig 

O gennin Pedr yn y gwanwyn i 180 o wahanol fathau o afalau yn yr hydref, dysgwch am yr ardd furiog hon o’r 18fed ganrif ai gweithgareddau tymhorol a’r uchafbwyntiau.

Yr ardd parterre o’r 18fed ganrif yn Erddig yng Nghymru ar ddiwrnod heulog ym mis Mai, gyda gwelyau blodau ffurfiol yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Hanes Erddig 

Dysgwch am yr Uchel Sirydd a fu’n byw tu hwnt i’w fodd pan adeiladodd Erddig, y cyfreithiwr cyfoethog o Lundain a fu’n ei ymestyn a’i ailaddurno a 240 mlynedd o deulu Yorke.

Scarves and a handbag hung on coat pegs
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Erddig 

Edrychwch ar y mannau i fwyta a siopa yn Erddig. Mae’r rhan fwyaf yn ein hadeiladau hanesyddol ac mae pob pryniant yn ein helpu i ofalu am Erddig i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.