Skip to content
Prosiect

Ffermio ar Ben y Gogarth

Golygfa o’r dirwedd yn Fferm y Parc, Pen y Gogarth, Gogledd Cymru
Golygfa o’r dirwedd yn Fferm y Parc, Pen y Gogarth | © National Trust Images/Paul Harris

Cafodd Fferm y Parc ei cherfio allan o’r mynydd yn y 1800au a’i hamgylchynu gan wal gerrig. O fewn y wal, mae’r fferm wedi cael ei gwella ar gyfer ffermio modern, ond o’i chwmpas mae rhai o gynefinoedd bywyd gwyllt gorau Cymru. Prynwyd Fferm y Parc gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2015, ochr yn ochr â’r hawliau i bori defaid ar y pentir cyfan. Dysgwch sut rydym yn gweithio y tu hwnt i’n ffiniau i helpu i wella cynefinoedd y parc gwledig cyfan.

Pori er lles cadwraeth ar Ben y Gogarth

Ers miloedd o flynyddoedd, mae bugeiliaid wedi bod yn gofalu am breiddiau o ddefaid brodorol gwydn ar draws Pen y Gogarth. Crëwyd y bywyd gwyllt bendigedig sy’n gwneud y lle hwn yn arbennig gan yr hen ffordd hon o fyw, ynghyd â’r ddaeareg a’r hinsawdd eithafol.

Ond mae ffermio modern wedi arwain at golli’r ddau beth y mae’r bywyd gwyllt yn dibynnu arnynt: y defaid gwydn a’r bugail. O ganlyniad, mae glaswellt bras, eithin pigog a phlanhigion anfrodorol yn bygwth cydbwysedd bregus byd natur.

Gyda’n tenant, Dan Jones, rydym wedi ymuno â thîm Parc Gwledig Cyngor Conwy, PlantLife a sefydliadau cadwraeth eraill i ailgyflwyno preiddiau o ddefaid sy’n cael eu bugeilio’n draddodiadol. Y Parc yw’r injan sy’n galluogi pori er lles cadwraeth ar draws Pen y Gogarth.

Dan Jones, ffermwr tenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Fferm y Parc, gyda phraidd o ddefaid ar Ben y Gogarth, Gogledd Cymru
Dan Jones, ffermwr tenant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Fferm y Parc | © National Trust Images/Paul Harris

Rheoli’r tir er budd y cyhoedd

Mae angen llefydd fel Pen y Gogarth arnom ni. Yn sgil straen bywyd modern, mae’n hanfodol gallu dianc i’r gwyllt a rhoi’r cyfle i fam natur adfer ein cyrff a’n heneidiau.

Cymerwch ran

Os ydych chi’n gerddwr, yn ymwelydd, yn un o gefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn gynghorydd, yn athro, yn arweinydd cymunedol neu’n syml yn caru Pen y Gogarth, rydym yn eich gwahodd i’n helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y Parc. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy: parcfarm@nationaltrust.org.uk

Ymwelwyr yn cerdded ar Ben y Gogarth, Gogledd Cymru, gyda golygfa o’r arfordir
Ymwelwyr yn cerdded ar Ben y Gogarth | © National Trust Images/Paul Harris

Stori Fferm y Parc

25 Mai 2015

Pen y Gogarth: wedi’i achub dros y wlad

Yn 2015 gwnaethon brynu Fferm y Parc yn dilyn pryderon y gallai gael ei throi’n gwrs golff. Drwy brynu’r fferm, gwnaethom hefyd ddiogelu’r pentir ehangach ar Ben y Gogarth. 

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Ein partneriaid

Plantlife

Mae Plantlife yn elusen gadwraeth Brydeinig sy'n gweithio'n genedlaethol a rhyngwladol i achub blodau gwyllt, planhigion a ffyngau sydd dan fygythiad.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Bustach yr Ucheldir ar dirwedd amaeth ym Mryn Bras, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yng Nghymru 

Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.

Llun agos o beradl yr Hydref gyda’r castell yn y cefndir yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Erthygl
Erthygl

Ymweld â dolydd yng Nghymru 

Rydym yn rheoli dolydd yn ofalus ledled Cymru er mwyn eu helpu i ffynnu. Dysgwch ragor am ein gwaith a ble gallwch weld dolydd yng Nghymru.

Llo bach morlo llwyd ar draeth cerigos yn Treginnis, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Natur a bywyd gwyllt i’w gweld yng Nghymru 

Dewch ar antur natur yng Nghymru a darganfod pob math o fywyd gwyllt, o ddyfrgwn enwog Llynnoedd Bosherston yn Sir Benfro i wiwerod coch Plas Newydd yng Ngogledd Cymru.

Prosiect
Prosiect

Ffermio ar gyfer dyfodol Llŷn 

Darllenwch am y prawf Talu am Ganlyniadau (TaG), dull fferm-gyfan arloesol sy’n dod o hyd i ffyrdd o wneud ffermio’n fwy amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy ym Mhen Llŷn.

Golygfa o bentref arfordirol Porthdinllaen gyda’r môr a thonnau yn y blaendir yng Ngwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith i fynd i’r afael â newid arfordirol yng Nghymru 

Dysgwch sut rydym yn gofalu am 157 milltir o arfordir Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, o ddiogelu cynefin bywyd gwyllt i addasu i heriau newid hinsawdd.