Skip to content
Prosiect

Ffermio ar gyfer dyfodol Llŷn

Defaid yn pori yn Ninas Fawr, i’r de o Borth Oer, Pen Llŷn, Gwynedd, Gogledd Cymru.
Defaid yn pori ym Mhen Llŷn | © National Trust Images/Joe Cornish

Mae ein hamgylchedd naturiol o dan bwysau cynyddol, felly rydym yn gweithio’n agos gyda’n tenantiaid i roi cynnig ar ddull newydd sy’n helpu i unioni’r fantol. Darllenwch am y prawf Talu am Ganlyniadau (TaG), dull fferm-gyfan arloesol sy’n edrych ar ffyrdd o wneud ffermio’n fwy amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy ym Mhen Llŷn.

Beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol?

Fel gweddill ein gwlad, mae harddwch a llonyddwch Llŷn yn gorchuddio heriau i hyfywedd hirdymor yr amgylchedd naturiol - llygredd, newid yn yr hinsawdd, a dwysáu gwaith ffermio.

Un dull cyffredin a ddefnyddir i annog ffermwyr a rheolwyr tir i gynnal a chynyddu bywyd gwyllt yw trwy gynlluniau amaeth-amgylcheddol a ariennir gan y llywodraeth. Mae'r cynlluniau hyn yn talu ffermwyr i gymryd camau penodol ar gyfer cynefinoedd a nodweddion hanesyddol ar eu ffermydd. Gallant fod yn eithaf argymhellol ac anhyblyg ac maent wedi cael llwyddiant cymysg.

Ar y cyfan, nid yw'r cynlluniau amaeth-amgylcheddol Cymreig wedi gwrthdroi'r dirywiad yn ein bywyd gwyllt. Y teimlad cyffredinol yn y gymuned ffermio yw nad ydyn nhw'n gallu defnyddio eu gwybodaeth am y tir yn effeithiol iawn ac nad ydyn nhw wedi'u grymuso i gymryd camau tuag at helpu natur.

Dull Gwahanol

Gwelwyd mwy o lwyddiant yn rhai o'n gwledydd cyfagos yn Ewrop sydd wedi mabwysiadu dull talu ar sail canlyniadau.

Mae cynllun o’r fath yn cynnig taliadau ar sail y canlyniadau a ddymunir ar gyfer cynefinoedd neu rywogaethau, yn hytrach na chamau gweithredu penodol, ac yn gosod y penderfyniadau yn nwylo'r ffermwr.

Rydym am roi cynnig ar y ffordd newydd hon o annog, cefnogi a grymuso ein tenantiaid i fynd ati i ffermio er lles natur. Byddwn yn cydweithio’n agos â nhw i helpu i gyfoethogi byd natur ar eu ffermydd heb ddisbyddu na niweidio adnoddau naturiol.

Golygfa o gaeau a rhostir yn edrych i’r dwyrain o Fraich-y-Pwll ym Mhen Llŷn, Gwynedd, Gogledd Cymru.
Yr olygfa’n edrych i’r dwyrain o Fraich-y-Pwll, Pen Llŷn | © National Trust Images/Joe Cornish

Cynllun prawf Talu am Ganlyniadau (TaG)

Mae’r prawf Talu am Ganlyniadau (TaG) yn brosiect cydweithredol a ariennir ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru fel SMS, gyda chymorth Cyngor Gwynedd. Bydd y prosiect arloesol yn gweithredu ar lefel fferm gyfan sy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd y gall ffermio fod yn fwy cynaliadwy yn Llŷn o ran yr amgylchedd a’r economi.

Credwn fod gan fenter a arweinir gan ffermwyr werth gwirioneddol wrth ein helpu i gyflawni tirweddau iachach a mwy gwydn sy'n llawn bywyd gwyllt. Beth sy’n hollbwysig i nodi yw mai'r ffermwyr sydd yn penderfynu pa gamau y maent am gymryd, dysgu o brofiad, a chael mwy o reolaeth dros gyflwr eu tir a'r taliad o ganlyniad.

Mae ardal Llŷn, yng Ngogledd Orllewin Cymru yn un o ddau le (y llall yw Malham yn Swydd Efrog) i dreialu'r dull hwn. Trwy weithio gyda'n tenantiaid i ddatblygu model talu am ganlyniadau, ein nod yw cyfrannu at bolisïau’r dyfodol o ran cefnogaeth ffermio yn llywodraeth Cymru a'r DU.

Y ‘Canlyniad’ ym Mhen Llŷn

Rydym yn canolbwyntio ar sut y gallwn wella cyflwr y llethrau arfordirol a chynefinoedd rhostir yn Ardal Cadwraeth Arbennig Llŷn. Mae mwy o flodau’n ymddangos yn y caeau cyfagos ac yn denu mwy o bryfed ac adar, gyda thrawsnewidiad meddalach at dir ffrwythlon a reolir yn gynaliadwy sy’n helpu i gefnogi’r system ffermio

Yng Nghwrt ger Aberdaron, mae mynwent gyfagos Eglwys Sant Hywyn yn gyfoethog o ran rhywogaethau fel arian y côr a gwellt gwyrdd. Defnyddir yr ardal hon fel safle rhodd er mwyn datblygu'r dolwair sy'n bodoli’n barod.

Mae llethr arfordirol Muriau ger Abersoch wedi dirywio yn y blynyddoedd diwethaf oherwydd diffyg pori. Ychydig o wahanol blanhigion sydd yno heblaw am redyn, eithin a gorchudd trwchus o laswellt sydd yn dominyddu. Mae gweithredoedd syml fel cyflwyno ffensys a chyflenwad dŵr wedi galluogi gwartheg i ddychwelyd er mwyn pori llethr yr arfordir. Gwelwyd gwelliannau sylweddol i'r cynefin yn barod.

The sun rising over Knoll Beach with grasses in the foreground at Studland Bay, Dorset

I bawb, am byth

Rydym yn diogelu a gofalu am lefydd fel y gall pobl a natur ffynnu. Dysgwch amdanom ni a'r hyn rydym yn ei gefnogi.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Daffodils in the park at Penrhyn Castle and Garden on a sunny day in Gwynedd, Wales
Ardal
Ardal

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Cloddiau a chaeau bach yn arwain at Fynydd Rhiw ym Mhen Llŷn, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes Pen Llŷn 

Teithiwch yn ôl drwy amser a dysgu mwy am y bobl a’r llefydd sydd wedi siapio Pen Llŷn.

Bottlenose dolphin (Tursiops truncatus) adult in August, rolling over backwards in Moray Firth, Inverness-shire, Scotland, UK
Erthygl
Erthygl

Bywyd gwyllt Pen Llŷn 

Darganfyddwch y llefydd gorau yn Llŷn i wylio adar, darganfod bywyd gwyllt y gwlyptir neu weld eich hoff greaduriaid glan môr, o forloi i ddolffiniaid.

Tŷ a gardd ym Mhlas yn Rhiw ar ddiwrnod braf gyda’r bae yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Lleoliadau Llŷn 

Dysgwch fwy am yr ecoamgueddfa ym Mhen Llŷn. Yn gweithredu mewn partneriaeth â saith o sefydliadau treftadaeth Pen Llŷn, ei nod yw rhoi hwb i dwristiaeth ddiwylliannol.

Bustach yr Ucheldir ar dirwedd amaeth ym Mryn Bras, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yng Nghymru 

Dysgwch sut mae ein harferion ffermio ecogyfeillgar yn diogelu cynefinoedd a rhywogaethau prin, yn atal llifogydd, ac yn helpu bywyd gwyllt i ffynnu yng Nghymru.

Y bugail Trefor Jones ar lechwedd serth gyda Defaid Mynydd Cymreig ar fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru 
Erthygl
Erthygl

Ffermio yn Eryri 

Dysgwch am fugeilio er lles cadwraeth, adfer cynefin llygoden y dŵr a sut mae gorgorsydd yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli llifogydd ar ffermydd yn Eryri.

Defaid yn pori yn Gwm Penmachno ar ddiwrnod heulog, Ystâd Ysbyty Ifan, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ffermio a natur yn Ysbyty Ifan 

Mae Blaen Eidda Isaf yn fferm ucheldirol 54-hectar ar Ystâd Ysbyty Ifan. Drwy newid i dechnegau ffermio mwy cynaliadwy, mae’r ffermwyr tenant wedi gallu helpu bywyd gwyllt ac anifeiliaid pori i gyd-fyw’n hapus.

Bugail a chŵn defaid yn gyrru defaid i lawr Llwybr Watkin yng Nghwm Llan ar fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ein gwaith yn Hafod y Llan 

Dysgwch sut mae Hafod y Llan ar flaen y gad fel fferm gynaliadwy i’r dyfodol.