Skip to content

Natur a bywyd gwyllt i’w gweld yng Nghymru

Llo bach morlo llwyd ar draeth cerigos yn Treginnis, Sir Benfro
Llo bach morlo llwyd yn Sir Benfro, Cymru | © National Trust Images/John Miller

Mae Cymru’n hafan i natur, gydag amrywiaeth anhygoel o gynefinoedd lle gall bywyd gwyllt ffynnu. O’r arfordir a chefn gwlad i fynyddoedd uchel, fe ddarganfyddwch ystlumod ac adar prin, dyfrgwn, gwiwerod coch neu forlo bach, os ydych chi’n lwcus. Dysgwch am y bywyd gwyllt y gallwch ei weld ar ymweliad â Chymru a lle i fynd am antur natur i’w chofio.

Ble mae’r bywyd gwyllt yng Nghymru 

Mae amrywiaeth eang o fywyd gwyllt i’w weld drwy gydol y tymhorau yng Nghymru. Mae misoedd yr haf yn arbennig o dda i fynd ar drywydd fflora a ffawna’r wlad, tra bod yr hydref yn gyfnod prysur ar gyfer gwylio bywyd gwyllt, gyda llawer o rywogaethau’n rhuthro yma ac acw cyn i’r oerfel gyrraedd. Dyma rai o’n llefydd gorau i wylio bywyd gwyllt. 

Morloi Marloes
Ar ddiwedd yr haf, fe welwch forloi llwyd yr Iwerydd a’u lloi bach ar draethau anghysbell Marloes yn Sir Benfro. Mae tua 150 o loi yn cael eu geni bob blwyddyn – fe welwch yr olygfa orau ohonynt o ben clogwyn y Parc Ceirw. Mae’r arfordir o gwmpas y penrhyn yn Barth Cadwraeth Morol dynodedig ac mae’r amrywiaeth anhygoel o gynefinoedd yn golygu y gwelwch bob math o greaduriaid, yn y dŵr ac ar y lan.Darganfyddwch Draeth Marloes, Sir Benfro
Ymlid yr ystlumod yng Nghoedwig Colby
Yng Ngardd Goedwig Colby mae ystlumod pedol lleiaf yn byw yn yr hen adeiladau o gwmpas ystafell de’r Caban. Mae llawer o ystlumod hefyd yn defnyddio’r hen siafftiau a’r tyllau coed. Yn wir, gwelwyd ystlum Bechstein prin yma un tro. Mae coetir, nentydd a dolydd yr ystâd hefyd yn baradwys i adar, dyfrgwn, ymlusgiaid ac amffibiaid.Darganfyddwch Goedwig Colby, Sir Benfro
Gwartheg Parc Gwyn Dinefwr
Mae’r Gwartheg Parc Gwyn, sy’n frîd prin a hynafol, yn rhan hollol unigryw o’r parcdir helaeth yn Ninefwr, a ddyluniwyd gan Capability Brown. Mae’r ystâd hefyd yn gartref i barc ceirw canoloesol sy’n atseinio â bloeddiadau’r hyddod brith yn ystod y tymor rhidio ym mis Hydref.Darganfyddwch Barc Dinefwr, Sir Gâr
Am dro gyda merlod gwyllt Eryri
Mae cwmni’r merlod gwyllt yn goron hudolus ar unrhyw daith gerdded ym mryniau’r Carneddau. Yn ôl y sôn, mae merlod mynydd Eryri yn yr ardal ers tua 500CC ac mae tua 200 ohonynt ar ôl, yn dal i grwydro’r dirwedd ucheldirol arw. Yn yr hydref, fe allech eu gweld yn pori yn barod ar gyfer y misoedd oerach sydd i ddod.Darganfyddwch y Carneddau, Eryri
Gwiwer goch ar flwch bwydo yn y coetir yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd yn Ynys Môn, Cymru
Gwiwer goch ar flwch bwydo ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/James Dobson
Gwylio’r gwiwerod coch ym Mhlas Newydd
Daethpwyd â chwe gwiwer goch i Blas Newydd yn 2008 a’u rhyddhau i mewn i’r coetir collddail. Gwnaethant fridio’n llwyddiannus, ac erbyn hyn mae dros gant yn gwibio drwy’r gerddi a pharcdir yr ystâd. Er eu bod nhw’n greaduriaid bach swil, gallwch eu gweld yn casglu cnau ac yn bwyta wrth y gorsafoedd bwydo, ond bydd angen llygaid craff arnoch chi.Darganfyddwch Blas Newydd, Ynys Môn
Pip ar y pryfed a’r gweilch yng Nghwm Ivy
Mae’r forfa heli yng Nghwm Ivy yn fwrlwm o bili-palod a gweision y neidr yn yr haf. Cadwch olwg am y fritheg arian, gweirlöyn y glaw a gweirlöyn y perthi (sef pili-palod), ynghyd â’r wäell gyffredin a gwas neidr y de, sy’n arbennig o chwilfrydig ac yn hoff o gwmni pobl. Mae Cwm Ivy hefyd yn gartref i amrywiaeth o adar. Cadwch olwg am weilch ifanc ar eu taith yn ôl i Affrica.Darganfyddwch Gwm Ivy, Penrhyn Gŵyr
Golwg ar y gwenyn du yng Nghastell Penrhyn
Mae chwe chwch o wenyn mêl brodorol yn peillio’r Ardd Furiog a’r Ardd Ddŵr yng Nghastell Penrhyn. Mae’r rhain yn wenyn du brodorol sy’n gallu ymdopi’n dda â thywydd newidiol Gogledd Cymru. O lilis bach gwynion i’r bwa ffiwsia hyfryd, mae’r blodau yma’n wledd i’r llygaid. Mae hefyd ddigon o fywyd gwyllt i’w ddarganfod ym Mhenrhyn, o ystlumod i foch daear.Darganfyddwch Ystâd Penrhyn, Gwynedd
Ar drywydd dyfrgi yn Stagbwll
Mae Stagbwll yn fwrlwm o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn, o’i dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf. Mae’r dyfrgwn yn agos iawn at galonnau staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr ac yn byw yn Llynnoedd Bosherston (sy’n cael eu bwydo gan nant) gan wledda ar lysywod, penhwyaid, draenogiaid a chochiaid. Mae Stagbwll heb ei hail ar gyfer gwylio bywyd gwyllt, ac ar draws yr ystâd fe ddowch o hyd i greaduriaid mawr a bach.Darganfyddwch Stagbwll, Sir Benfro
Dyfrgi â’i ben uwch yr wyneb ymysg y lilis dŵr
Dyfrgi ymysg y lilis dŵr | © National Trust Images / Jim Bebbington
Morgrug prin y Cymin
Mae'r Cymin yn gartref i un o rywogaethau prinnaf a mwyaf Prydain o forgrugyn – y morgrugyn coch. Mae eu nythod trawiadol wedi'u dotio ar draws y tir, ac mae eu gwylio nhw’n brofiad diddorol dros ben. Efallai bod y Cymin yn enwog am foneddigeiddrwydd Sioraidd a phicnics, ond mae hefyd yn hafan i fywyd gwyllt. Gyda chymysgedd o fannau agored a choetir lled-hynafol, mae adar, ystlumod, moch daear a baeddod gwyllt hyd yn oed wedi ymgartrefu yn y llecyn arbennig hwn.Darganfyddwch y Cymin, Sir Fynwy
Antur gyda’r adar ym Mhen Llŷn
Pen Llŷn yw’r lle delfrydol i wylio adar, gyda chlogwyni arfordirol dramatig sy’n gartref i aderyn drycin y graig, y pâl a’r frân goesgoch, ynghyd ag ysglyfaethwyr nodedig fel y frân, y bwncath (neu’r boda) a’r hebog tramor. Mae miloedd o adar drycin Manaw yn bridio ar Ynys Enlli gerllaw, lle gwelwch yr unig wylfa adar achrededig yng Nghymru. Os ydych chi’n lwcus, fe allech weld dolffiniaid trwynbwl a llamidyddion ar eich anturiaethau gwyllt hefyd.Darganfyddwch Ben Llŷn, Gwynedd
Cip ar gapiau cwyr Llanerchaeron
Mae dolydd, coetir a dyfroedd fferm weithiol ac ystâd Llanerchaeron yn hafan i adar, ystlumod, dyfrgwn a bywyd gwyllt arall, yn ogystal ag arddangosfa drawiadol o ffyngau, gan gynnwys capiau cwyr yn yr hydref. Mae dulliau ffermio traddodiadol, dwyster isel ar y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol hwn yn galluogi’r ffwng prin i ffynnu.Darganfyddwch Lanerchaeron, Ceredigion
Cerddwch ymysg coed hynafol Bannau Brycheiniog
Yn gynefin gwerthfawr a chynyddol brin, mae ein coetiroedd lled-hynafol yn cynnig cartref pwysig i bob math o fywyd gwyllt. Yn swatio wrth odre Bannau Brycheiniog, mae coed hynafol Glyn Tarell yma ers canrifoedd ac yn gartref i ffwng a chreaduriaid di-asgwrn-cefn prin, sy’n dibynnu arnynt i oroesi. Mae modd adnabod yr hen goed hyn o’u boncyffion ceinciog a chlymog.Darganfyddwch Fannau Brycheiniog, Powys
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

View of a river running through a valley of mountains

Cefn gwlad a choetir yng Nghymru 

Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.

Golygfan y Canmlwyddiant, Dinas Oleu, Cymru

Arfordiroedd a thraethau yng Nghymru 

Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon

The walled garden at Penrhyn Castle and garden is covered in frost.

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

A little girl decorating a wooden snowman at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Diwrnodau allan i'r teulu yng Nghymru 

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.