Skip to content

Achub pili-palod prin yng Nghwm Soden

Britheg berlog fach ar flodyn gwyllt mewn dôl
Britheg berlog fach | © National Trust Images/Rob Coleman

Mae poblogaeth anghysbell o’r fritheg berlog, pili-pala cynyddol brin, yn parhau i oroesi yng Ngheredigion ar lechweddau arfordirol Cwm Soden. Mae prosiect adfer a chreu cynefin bellach ar waith mewn ymgais i achub cartref naturiol y pili-pala hwn.

Pam fod y pili-pala mewn perygl

Mae Cwm Soden, cwm anghysbell ar arfordir Ceredigion, yn un o’r llefydd olaf yng Nghymru lle mae’r fritheg berlog yn dal i ffynnu. Maen nhw’n adnabyddus am y ddwy berlen arian fawr a’r rhes o saith perlen allanol ar ochr isaf eu hadain ôl. Gan hedfan yn agos at y ddaear, maen nhw’n stopio’n rheolaidd i fwydo ar flodau’r gwanwyn.

Mae Cwm Soden yn ddyffryn serth â choetir hynafol ar ei lawr. Mae’n dirwedd amrywiol, gymhleth sydd â hanes hir o gael ei choedlannu, neu ei rheoli, fel ffynhonnell gynaliadwy o danwydd a deunyddiau. Byddai’r gwaith coedlannu hefyd wedi cynnig cynefinoedd i amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn arbennig y fritheg berlog, pili-pala gwanwynol sy’n fwyaf cartrefol mewn llecynnau agored mewn coedwigoedd, llennyrch coediog ac ardaloedd sy’n cael eu coedlannu.

Mae’r gwaith coedlannu wedi dod i ben, yn anffodus, ac mae’r coed wedi aeddfedu, gan gysgodi llawr y cwm a lleihau’r cynefin sydd ar gael i’r pili-pala. Heddiw mae’r boblogaeth sy’n weddill o’r fritheg berlog yn dibynnu ar bonciau rhedyn, ac mae mewn perygl o ddiflannu o Gwm Soden yn gyfan gwbl.

Dechrau’r prosiect

Dechreuodd gwaith i achub y boblogaeth hon o bili-pala yn 2017 gyda chyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chefnogaeth gan y Butterfly Conservation Trust a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Ceredigion.

Nod y prosiect yw ail-greu rhai o dechnegau coedlannu’r gorffennol er mwyn diogelu bywyd gwyllt y cwm ar gyfer y dyfodol. Bydd llawr y dyffryn yn cael ei ffensio, bydd pori’n cael ei gyflwyno ar y dolydd, bydd nifer y reidiau merlod sy’n cael eu cynnal yn y coetir yn cael eu cyfyngu, a bydd newidiadau’n cael eu gwneud i’r ffordd y mae’r fferm sy’n eistedd uwchben Cwm Soden yn cael ei rheoli.

Grŵp o frithegion perlog bach gwrywaidd yn torheulo
Grŵp o frithegion perlog bach gwrywaidd | © National Trust Images/Matthew Oates

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar dorri coed a rhedyn ar hyd y gefnen goediog a’r llennyrch, gyda’r merlod yn paratoi’r ddaear ar gyfer twf blodau. Mae arwyddion cadarnhaol i’w gweld yn barod, gyda chynnydd sylweddol mewn planhigion blodeuol fel fioled y cŵn, rhywogaeth allweddol i’r fritheg berlog.

Ehangu cynefin y pili-palod

Megis dechrau y mae’r newidiadau i’r gwaith o reoli’r coetir yng Nghwm Soden. I roi’r cyfle gorau i’r boblogaeth hon o bili-pala oroesi, mae angen i’w chynefin gael ei ehangu y tu hwnt i Gwm Soden.

Yn eistedd uwchben y dyffryn mae fferm yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Caerllan, enghraifft berffaith o fferm draddodiadol o orllewin Cymru gyda’i chaeau bach a ffiniau hanesyddol anhrefnus. Mae’r cloddiau sy’n gwau drwy’r caeau yn gweithredu fel priffyrdd i helpu bywyd gwyllt i symud ar draws y tir. Mae hyn o bwysigrwydd penodol yng Nghaerllan oherwydd mae cynefin y fritheg berlog o dan bwysau enfawr yn y cwm cyfagos.

Unwaith y bydd ffawd y rhywogaeth yn dechrau gwella, bydd y cloddiau hyn yn ffynhonnell hanfodol o neithdar i’r pili-palod, gan greu cyswllt rhwng Cwm Soden a’r dyffryn cyfagos yng Nghwmtydu ac ehangu’r cynefin sydd ar gael yn sylweddol.

Golygfa ar draws tir amaeth yn Llanerchaeron, Cymru. Ar ochr chwith y llun mae coeden yn ei dail gyda chaeau gwyrdd yn ymestyn tua bryniau coediog yn y cefndir ar ddiwrnod heulog gydag awyr las.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Blodau’r ddôl ar lan y nant yn Llanerchaeron yng Ngheredigion, Cymru
Erthygl
Erthygl

Gwaith cadwraeth yn Llanerchaeron 

Mae gwaith cadwraeth wedi bod yn cael ei wneud yn Llanerchaeron i adfer y tiroedd hamdden i’w gwir ogoniant ac adfywio’r dolydd a’r glaswelltir.

Clychau’r gog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Rangers and HSBC volunteers planting Sphagnum moss at High Peak Estate, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Working towards a green recovery 

With support from the Government’s Green Recovery Challenge Fund, we're looking for ways to protect our environment and combat climate change. Find out more about the work we're doing.

Clear evidence how the erosion of the cliffs due to climate change threatens the archeological site of the hillfort at Dinas Dinlle, Gwynedd
Erthygl
Erthygl

How we're tackling climate change 

Climate change is the single biggest threat to the places we care for. Take a look at our environmental pledges as we adapt, reduce carbon emissions and address the damage already done.