Skip to content

Diwrnodau allan i'r teulu yn Llanerchaeron

Visitors enjoying a walk at Llanerchaeron, Wales
Visitors enjoying a walk at Llanerchaeron | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mwynhewch ddiwrnod yn crwydro gerddi, stablau traddodiadol, iard fferm, llyn a llwybrau yn y goedwig. Gweld pa anifeiliaid sydd ar fuarth y fferm ac ymweld â’r certi hynafol, y tractorau a’r rholer stêm yn yr ysguboriau. Gadewch i’r plant archwilio byd natur, gweld bywyd gwyllt lleol a chymryd rhan yn ein gweithgareddau tymhorol.

Y gaeaf yn Llanerchaeron

Yn agor ar benwythnosau dros y gaeaf am ddiwrnodau o gerdded yn yr awyr iach o amgylch yr ardd a'r llyn. Efallai i chi ddod ar draws rhai o'r anifeiliaid ar y fferm - neu cuddio yng nghynhesrwydd y cytiau fydden nhw? Gwyliwch mas am foch, ieir a hwyaid.

Dewch a phicnic neu fflasg i fwynhau yn ystod eich ymweliad.

Mae'r cynllunio ar y gweill ar gyfer Ffair Nadolig Llanerchaeron (6-8 Rhagfyr) bydd dros 70 o stondinwyr yn gwerthu bwyd a chrefftau lleol yn y digwyddiad, ynghyd ac ymwelydd arbennig ar y Dydd Sadwrn a Dydd Sul, bydd Sion Corn yn Bothi'r Garddwyr (dim angen rhag-archebu).

Bydd y tŷ ar agor ar gyfer penwythnos y Ffair Nadolig yn unig - dewch i ymweld i weld os bydd Eira, ein cath yn y tŷ wedi gallu perswadio Mwg, cath y cwrt, i fwynhau hud y Nadolig.

Dysgwch mwy am ein digwyddiadau yma (cynnwys Saesneg yn unig i ddilyn).

Archwilio’r Fila

Yn y fila (tŷ) Sioraidd, gallwch ddysgu llawer o bethau am y teulu Lewes a arferai fyw yn Llanerchaeron. Cofiwch fynd i weld cwrt y gwasanaethau, yn cynnwys y llaethdy, y becws a’r tŷ mwg. Efallai i chi hyd yn oed ddod ar draws un o dair cath enwog Llanerchaeron, Eira, mae hi'n aml i'w gweld yn crwydro o amgylch y tŷ.

Buarth y fferm a Casgliad Geler Jones

Wrth ymweld a’r buarth traddodiadol dychmygwch be fyddai defnydd gwreiddiol yr adeiladau a’r anifeiliaid. Efallai y gwelwch y moch, lloi, y dofednod neu’r merlod Cymreig.

Ym mhen pellaf y buarth cewch hyd i Gasgliad Geler Jones, arddangosfa o offer gwledig traddodiadol, yn amaethyddol a domestig, gan gynnwys hen dractorau a stêm-roler.

Ystafell chwarae’r Hen Stablau

Beth am ymryson gyda’ch teulu a’ch cyfeillion trwy gymryd rhan mewn gornest ping-pong neu bêl-droed bwrdd, neu eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch trwy wneud rhywfaint o liwio neu chwarae dominos.

Yr ardd a’r llyn

Sylwch ar y tymhorau yn yr ardd furiog gan weld beth sy'n tyfu wrth i chi ymweld; neu ddilyn y llwybr coed tymhorol sydd ar gael.

Ymgollwch ym myd natur a mwynhau harddwch y gerddi, y llyn a’r coetiroedd. Mae tiroedd Llanerchaeron yn cynnig digon o gyfleoedd i archwilio llwybrau gwastad, hygyrch. Mae’r daith fer, gylchol o amgylch y llyn, y stablau a’r iard fferm, i’r tŷ a’r gerddi muriog yn hygyrch i gadeiriau olwyn neu bramiau. Mae’r tiroedd pleser a’r llyn yn cynnig cysgod braf gyda meinciau, a chewch gyfle i fwynhau’r bywyd gwyllt.

Cynllunio eich ymweliad gyda’r teulu

I’ch helpu i gynllunio’ch diwrnod allan ymlaen llaw, dyma ychydig o wybodaeth allweddol:

· Gallwch ddod o hyd i'n holl oriau agor yma ar gyfer gwahanol rannau'r ystâd. Cynghorwn eich bod yn cael golwg ar ein horiau agor cyn i chi deithio oherwydd gall amseroedd agor newid yn dibynnu ar y tymor.

· Cymerwch ran yn ein digwyddiadau hwyliog trwy gydol y flwyddyn. Gallwch bori drwy’r cyfan yma.

· Mae croeso i gŵn ar dennyn o gwmpas y rhan fwyaf o’r ystâd ac yn y caffi. Darllenwch fwy am ymweld â’ch ffrind pedair coes yma.

· Mae toiledau anabl a chyfleusterau newid ar gyfer babanod yn yr adeilad ymwelwyr wrth y maes parcio, a gyferbyn â’r stablau.

· Gellir gweld prisiau mynediad ar ein tudalen we yma (Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael mynediad am ddim).

· Os ydych chi’n ymweld â chadair olwyn neu bram, mae mynediad gwastad o’r maes parcio i’r tŷ, yr ardd furiog, o amgylch y llyn ac iard y fferm. Sylwch y gallai rhai llwybrau coetir fod yn anaddas. Os oes angen cymorth neu ragor o wybodaeth arnoch chi, gofynnwch i aelod o’n tîm cyfeillgar.