Skip to content

Gwirfoddoli yn Llanerchaeron

Gwirfoddolwr yn dyfrio llysiau gyda pheipen ddŵr yn yr ardd gegin ym mis Mai yn Llanerchaeron
Gwirfoddolwr yn dyfrio’r ardd yn Llanerchaeron | © National Trust Images/Ian Shaw

Mae gwirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn chwarae rôl bwysig yn gofalu am y fila a’r gerddi ac yn cynnig profiad i’w gofio i ymwelwyr. Dysgwch am ffyrdd gwerth chweil o dreulio’ch amser sbâr drwy ymuno â’r tîm.

Beth mae gwirfoddolwyr yn ei wneud

Mae’r tîm ymroddedig a brwdfrydig o wirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn gwneud cyfraniad enfawr at weithrediad esmwyth y safle. Maen nhw’n helpu i gynnal yr ardd, paratoi’r Fila ar gyfer ymwelwyr a helpu i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau.

Yn ogystal â shifftiau, mae cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg ar gael, gan gynnwys gyda’r tîm tocynnau raffl.

Cyfleoedd i grwpiau gwirfoddoli

Mae rhywbeth bob amser yn mynd ‘mlaen yn Llanerchaeron, ac yn aml mae angen sawl pâr o ddwylo ar gyfer rhai o’r jobsys mwy o faint. Cysylltwch â ni os ydych chi’n rhan o grŵp a hoffai helpu.

Pam ymuno â ni?

Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.

  • Dod yn rhan o dîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Cwrdd â phobl o bob cefndir a gwneud ffrindiau newydd
  • Defnyddio eich sgiliau presennol a dysgu rhai newydd
  • Gwella eich CV a datblygu eich gyrfa
  • Mwynhau’r awyr iach
  • Dysgu am hanes y lle arbennig hwn

Cysylltwch â ni am wirfoddoli yn Llanerchaeron

Mae llawer o wahanol rolau ar gael yn Llanerchaeron, ac mae’r cyfleoedd yn newid byth a hefyd. Gallwch ddod o hyd i’r rolau sydd ar gael a gwneud cais ar-lein.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Blodau’r ddôl ar lan y nant yn Llanerchaeron yng Ngheredigion, Cymru
Erthygl
Erthygl

Gwaith cadwraeth yn Llanerchaeron 

Mae gwaith cadwraeth wedi bod yn cael ei wneud yn Llanerchaeron i adfer y tiroedd hamdden i’w gwir ogoniant ac adfywio’r dolydd a’r glaswelltir.

Golygfa o furiau allanol melyn y tŷ yn Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Hanes Llanerchaeron 

Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.

Gardd y gwanwyn, Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r Ardd Furiog yn Llanerchaeron 

Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.

Y fila a ddyluniwyd gan John Nash yn yr 1790au yn Llanerchaeron
Erthygl
Erthygl

Ymweld â fila John Nash yn Llanerchaeron 

Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.