
Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Teimlwch gynhesrwydd dyddiau teuluol cyfnod y Nadolig yn Llanerchaeron y Nadolig hwn. Crwydrwch y parcdir ar daith gerdded aeafol, ymunwch â gweithdy creu torch, ymunwch â’ch ffrindiau i fwynhau dathliadau'r Nadolig neu rhowch eiliad i chi eich hun ym myd natur i gofio beth sydd o bwys mewn gwirionedd. Edrychwch beth sydd ymlaen yn ystod yr Ŵyl eleni.
Penwythnosau - 5,6,12,13, 19, 20 Rhagfyr
Daw tymor y Nadolig a'r hyd i Lanerchaeron gyda'r fila yn edrych ar ei gorau. Camwch drwy'r drws i fwynhau Nadolig traddodiadol yn Llanerchaeron, mae'r addurniadau yn werth ei gweld pob blwyddyn.
Bydd cynhyrchwyr lleol yn ymweld a Llanerchaeron i rannu danteithion melys a chrefftau bendigedig.
Heb anghofio'r gweithdai creu torch yn defnyddio deunyddiau o Lanerchaeron, a ninnau'n gobeithio am ymweliad gan Sion Corn hefyd!
Cadwch olwg ar y dudalen hon i gael gwybod mwy wrth i'r dathliadau agosau.
Bydd Llanerchaeron yn cynnal ‘Llan-y- Dolig’ dros dri phenwythnos ym mis Rhagfyr (5–20 Rhagfyr), gan gynnig profiad tymhorol, arddull marchnad o fewn tiroedd yr ystâd. Bydd pob penwythnos yn cynnwys detholiad o stondinau wedi’u curadu’n ofalus, gan greu awyrgylch siopa croesawgar a chartrefol, ochr yn ochr â rhaglen o weithgareddau Nadoligaidd.
Gwahoddwn geisiadau gan fasnachwyr sy’n dychwelyd a masnachwyr newydd. Rydym yn chwilio am gynhyrchion o safon uchel, a wnaed yn lleol, â llaw neu a gynhyrchwyd-gartref, gan ganolbwyntio’n gryf ar gynaliadwyedd a chyrchu o ffynonellau moesegol. Mae hyn yn cynnwys bwyd a diod, crefftau, rhoddion a cholur.
Os oes gennych ddiddordeb mewn masnachu yn ystod un o’r penwythnosau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Bydd pob cais yn cael ei adolygu gan y tîm, a bydd stondinwyr llwyddiannus yn cael eu cadarnhau erbyn 1 Awst.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Mehefin. Anfonwch e-bost at olivia.jones3@nationaltrust.org.uk i gofrestru eich diddordeb.

Pob Dydd Sadwrn & Dydd Sul (Tachwedd & Rhagfyr)
Chwilio am amser tawelach i ymweld? Neu rhywle i ddianc rhag rhialtwch yr ŵyl?
Mae’r ardd, y fferm, llyn a’r siop lyfrau ail law ar agor pob penwythnos ym mis Tachwedd a Rhagfyr.
Cofiwch y bydd Caffi Conti's yn aros amdanoch i gynhesu wedi mwynhau tro o amgylch yr ardd.
Mae croeso cynnes o Geredigion yn disgwyl amdanoch dros gyfnod y Nadolig.


Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.

Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.
