
Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae'r Ardd Furiog Llanerchaeron, a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif, wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 mlynedd. Erbyn hyn, mae i’r gerddi ymdeimlad mwy rhamantus a heddychlon, ond ‘slawer dydd roedden nhw’n fwrlwm o ddiwydiant Sioraidd. Ewch i’r ardd i weld amrywiaeth eang o gynnyrch yn tyfu – gallwch brynu rhywfaint ohono i’w fwynhau gartref.
O fewn y muriau fe welwch erddi cegin cynhyrchiol, coed ffrwythau hynafol, gweddillion technoleg arddwriaethol sy’n rhychwantu oes gyfan yr ardd, borderi blodau a gardd berlysiau hyfryd.
Pan gawsant eu hadeiladu, roedd y waliau deheuol yn cael eu gwresogi gan byllau tân, a gallwch weld olion y rhain o hyd, yn ogystal â dau wely a wresogwyd gan hypocawstiau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu ffrwythau. Yn yr iard fframiau fe welwch bwll tân a ddefnyddiwyd i wresogi fframiau oer.
Ar hyd y waliau deheuol mae tŷ gwydr Fictoraidd a wresogwyd gan systemau dŵr poeth cylchredol, sydd i’w gweld o hyd (ond nid ydynt wedi’u gwresogi bellach) a thŷ gwydr concrit o’r 1950au, sy’n araf ddadfeilio. Dros 200 mlynedd o hanes garddwriaethol ar hyd 100 metr o wal!
Mae coed afalau hynafol, a oedd wedi’u gwyntyllu’n wreiddiol, wedi ffurfio eu siapiau unigryw eu hunain – maen nhw wir yn edrych fel eu bod wedi profi pob tymor ers i’r gerddi muriog gael eu hadeiladu. Yn ddiweddarach, mae mwy o goed afalau wedi’u plannu yn yr ardd furiog ac erbyn hyn mae dros 60 o wahanol fathau o afal yma.
Mae’r ardd berlysiau o dan wal ddeheuol yr ardd furiog ddwyreiniol. Mae 25 o welyau petryal, sydd wedi’u trefnu ar ffurf ‘cynllun nodau piano’, wedi’u llenwi ag amrywiaeth o berlysiau coginio a meddygol.
Mewn cornel arbrofol o’r ardd, fe welwch lysiau sydd fel rheol yn tyfu mewn hinsoddau cynhesach – o wsberen y Penrhyn i buprau coch. Wrth grwydro’r ardd, edrychwch yn ofalus ac mae’n bosib y gwelwch fafon euraidd neu ffeuen streipiog anarferol.
Mae cynnyrch ar werth yn nerbynfa’r ymwelwyr ac mae’r hyn sydd ar gael yn amrywio o ddydd i ddydd. Mae popeth yng ngardd y gegin yn cael ei dyfu’n ofalus ac yn dymhorol, sy’n golygu bod y cynnyrch yn llawn sudd a blas. Mae tîm o staff a gwirfoddolwyr yn trin y planhigion, pigo’r ffrwythau a’r llysiau a’u paratoi i’w gwerthu.
Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau lluosflwydd a epiliwyd ar yr ystâd. Drwy brynu cynnyrch Llanerchaeron rydych yn ein helpu i ofalu am yr ardd hon a pharhau i’w hadfer. Diolch.
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.