Skip to content

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn

A close up of a scone covered in cream and jam
Dewch am damaid yng Nghaffi'r Castell | © National Trust Images / William Shaw

Ar ôl bod am dro o gwmpas y castell, yr ardd a’r ystâd, mae’n debyg y bydd arnoch awydd bwyd. Mae digonedd o gynnyrch ffres i’ch bodloni yn y caffi. Os byddwch chi’n brin o amser pam na brynwch chi un o’r danteithion o’r siop i fynd adref. Neu arhoswch am ychydig i fwynhau cyfle haeddiannol i siopa.

Caffi’r Castell

Mae’n gwerthu dewis gwych o ddiodydd poeth ac oer, cawl, brechdanau a dewis helaeth o gacennau, y cyfan wedi eu gwneud gan ein cogydd ar y safle. Mae’r caffi’n ymestyn i’r tu allan gyda seddi ychwanegol yng nghefn y cwrt.

Gwybodaeth am alergenau

Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.

Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.

Cadarnhewch cyn eich ymweliad

Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

A cushion with a floral decoration and colourful pastel throws
Mae addurniadau'r Gwanwyn yn Siop y Castell | © National Trust Images/James Dobson

Siop y Castell

Gellir dod o hyd i siop y castell yn y tŷ, yn agos at y ceginau Fictoraidd. Mae gennym ddigonedd o anrhegion ar gyfer y cartref, gan gynnwys sgarffiau a charthenni o wlân wedi ei ailgylchu. Rydym hefyd yn gwerthu jamiau, picls a bisgedi blasus.

Diolch

Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.

Second-hand bookshop at Stowe, Buckinghamshire
Porwch trwy’r silffoedd yn y siop lyfrau ail-law yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Emily Roe

Siop lyfrau ail-law

Rydym yn lwcus yn y Penrhyn bod gennym siop lyfrau ail-law wych yn yr hen stablau. Dewch i bori yn eu plith a chwilio am fargen. Mae’r holl lyfrau wedi cael eu rhoi gan ein cefnogwyr.

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

Rhododendron pinc yn blodeuo o flaen Castell Penrhyn.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn 

Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.

Dau ymwelydd y tu mewn i injan stêm yn edrych ar yr injan yng Nghastell Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant 

Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.