Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Crwydrwch trwy’r rhannau llai cyfarwydd o dir y castell a gweld bywyd gwyllt ar hyd y ffordd. Am fwy fyth o gyfle i weld bywyd gwyllt yn ei gynefin naturiol chwiliwch am y guddfan bywyd gwyllt yn ei chornel dawel i lawr wrth yr afon. Dewch i weld yr ystâd gyda ffrindiau neu fwynhau chwarae naturiol gyda’r teulu cyfan. Mae gan y Penrhyn rywbeth i’w gynnig i bawb sydd am grwydro trwy natur.
Daw’r haf â dolydd i’r ystâd ym Mhenrhyn felly cadwch olwg am y bywyd gwyllt sy'n cael eu gwarchod yma wrth i’r adar, gwenyn a'r pili pala ddod o hyd i gartref yma. Dewch o hyd i lecyn yng nghanol ein dolydd am bicnic ac ymgollwch ym myd natur.
Wrth edrych allan, cewch olygfa ysblennydd o Eryri a'r 'Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru' anhygoel sydd newydd ei dynodi. Mae’r dirwedd hon yn gartref i’r chwarel lechi a fu unwaith yn eiddo i’r teulu Pennant a safle Streic Fawr y Penrhyn ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Wrth i chi gerdded o’r Ganolfan Groeso ar eich chwith fe welwch chi goed derw aeddfed a bron yn aeddfed. Yn y gwanwyn mae’r ardal hon yn fôr o flodau. Mae’n arwain at goetir cymysg bach a elwir yn Lwyn Pisgwydd. Gwelir derw, pisgwydd a chastanwydd pêr o oedrannau amrywiol yn tyfu yma gyda haen islaw o bren bocs, llawryf a chelyn. Mae rhedyn yn tyfu’n doreithiog yma. Cewch olygfeydd gwych o’r castell o’r fan hon.
Wrth gyrraedd y Llechwedd Grug yn Ardal y Glyn efallai y byddwch yn teimlo’r gwynt yn taro. Gallwch weld nifer o goed derw a ffawydd sydd wedi eu cwympo gan stormydd yma.
Yr Hen Ffordd oedd y fynedfa wreiddiol i’r Castell. Roedd yn cynnig ffordd grandiach at y castell. Ar hyd y ffordd hon y daeth y Frenhines Fictoria pan ymwelodd â’r Castell pan oedd yn ei fri. Gallwch weld rhai o’r cerrig crynion yma o hyd.
Yn agos at y stabl o frics fe welwch weddillion adeilad yn y coetir. Mae ar bob castell angen adfail rhamantus, a dyma i chi un Penrhyn. Ychwanegir at yr awyrgylch gothig gan y cochwydd, pinwydd a chedrwydd o’i gwmpas.
Ar ymyl gorllewinol y parcdir mae’r Meysydd Elysaidd yn cynnig golygfeydd rhyfeddol o’r arfordir a’r mynyddoedd. Wrth i’r tarth godi o’r môr gellir gweld ehangder Afon Menai. Mae’r ardal hon hefyd yn cynnig lle perffaith i weld copa Carnedd Llewelyn tua’r de.
Mae’n syniad da bod yn barod a dod â’ch welis hefo chi - gall fod yn fwdlyd dan draed. Holwch yn y Ganolfan Ymwelwyr am fanylion taith gylchol o gwmpas y tiroedd.
Yn ystod eich taith, chwiliwch am y bwa pren sy’n arwain i’r ardal chwarae naturiol sydd wedi ei chreu gan y tîm Wardeiniaid. Mae hwn yn hwyl fawr i’r teulu cyfan ei fwynhau.
Yn ystod eich taith trwy’r parcdir chwiliwch am arwyddion o ddaear moch daear. Mamaliaid y nos yw moch daear gyda marciau gwyn a du trawiadol ar eu hwynebau. Gellir eu gweld yn y nos yn aml yn yr ardaloedd coediog o gwmpas y castell.
Fel arfer bydd daear moch daear ar fancyn gweiriog, chwiliwch am agoriad llydan a phridd wedi ei symud. Arwydd arall o foch daear yw olion eu hewinedd o gwmpas bonion coed. Bydd moch daear yn defnyddio coeden sy’n agos at eu daear i’w chrafu. Trwy wneud hyn bydd eu hewinedd yn cadw mewn cyflwr da i dyllu.
Yma yn y Penrhyn mae 'na hefyd ddau fath o ystlum sy’n byw yn y tiroedd ac mewn rhannau o’r castell ei hun. Y rhain yw’r ystlumod lleiaf a’r ystlum hirglust. Chwiliwch am flychau ystlumod yn ystod eich ymweliad.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.