Castell Penrhyn yn gartref i’r teulu Guinness yn nrama cyfnod newydd Netflix

National Trust Cymru can share that Penrhyn Castle, the neo-Norman castle situated on the outskirts of Bangor, Gwynedd was a filming location for a brand-new Netflix production ‘House of Guinness’.
Mae’r gyfres yn cyfleu stori epig wedi’i hysbrydoli gan un o’r teuluoedd mwyaf enwog ac hirhoedlog yn Ewrop – y Teulu Guinness. Wedi’i lleoli yn Nulyn ac Efrog Newydd yn y 19eg ganrif, mae’r stori’n dechrau yn syth ar ôl marwolaeth Syr Benjamin Guinness. Dyn a oedd yn gyfrifol am lwyddiant rhyfeddol bragdy Guinness, dilynir yr effaith eang a gafodd ei ewyllys ar dynged ei bedwar o blant – Arthur, Edward, Anne, a Ben – yn ogystal ag ar gymeriadau o Ddulyn sy’n gweithio ac yn ymwneud â ffenomena Guinness.
Er bod y gyfres wedi’i lleoli’n bennaf yn Iwerddon, cafodd ei ffilmio yng Ngogledd-orllewin Lloegr ac yng Ngogledd Cymru, gan fod ychydig iawn o Ddulyn heddiw yn debyg i’w ymddangosiad yn 1868.
Dywedodd Karen Wilson, Cynhyrchydd Gweithredol ar gyfer ‘House of Guinness’:
“Fe wnaethon ni sylweddoli’n gyflym y byddai’n rhaid ffilmio yn rhywle arall. Fe wnaethom deithio ar hyd a lled Iwerddon a’r DU, gan orffen yng Ngogledd-orllewin Lloegr, lle’r oedd tai bonedd a strydoedd tebyg i Ddulyn. Hyd yn oed o fewn y Gogledd-orllewin, roedd yn rhaid i ni symud o gwmpas yn fwy nag y byddai cynhyrchiad teledu arferol. Ond fe wnaeth llefydd fel Manceinion, Lerpwl, Gogledd Cymru, a Swydd Efrog roi popeth roedden ni ei angen. Rwy’n gobeithio’n fawr ein bod wedi gwneud cyfiawnder â Dulyn.”
Bu Castell Penrhyn yn lleoliad ar gyfer Castell Ashford, cartref y teulu Guinness. Adeiladwyd Castell Penrhyn ar gyfer teulu Pennant, a’i gwblhau yn 1840, ac mae llawer o debygrwydd rhyngddo a Chastell Ashford, gan fod y ddau wedi’u hadeiladu i ymddangos yn hŷn nag ydyn nhw mewn gwirionedd, ar gyfer diwydianwyr a wnaeth ffortiwn yn ystod oes Fictoria.
Dywedodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn, National Trust Cymru:
“Mae wedi bod yn wych croesawu cynhyrchiad House of Guinness i Gastell Penrhyn. Mae’r gyfres yn archwilio cyfoeth, anghydraddoldeb cymdeithasol a gwrthdaro – themâu tebyg i’r rhai rydym yn eu harchwilio yma ym Mhenrhyn. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at wylio’r rhaglen a gweld Castell Penrhyn yn y cefndir.”
Mae ‘House of Guinness’, gyda James Norton yn serennu, yn ddrama newydd gan Steven Knight, crëwr Peaky Blinders, sy’n portreadu etifeddiaeth y teulu Guinness yn y 1860au. Bydd yn gyfres wyth pennod y gellir ei ffrydio ar Netflix o 25 Medi ymlaen.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Ymweld â Chastell Penrhyn
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

Lleoliadau ffilm a theledu yng Nghymru
Dysgwch am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau a sioeau teledu, gan gynnwys Harry Potter, Robin Hood, a Snow White and the Huntsman.
