Skip to content

Lleoliadau ffilm a theledu yng Nghymru

Llun yn dangos y TARDIS a ddefnyddiwyd ar gyfer ffilmio Doctor Who ar set yn Rhosili. Saif y TARDIS ar ben y clogwyn, yn edrych allan dros Rhosili yn y cefndir.
Y TARDIS yn Rhosili, Gŵyr | © BBC Photo Library

Mae gan Gymru dai crand, arfordiroedd anhygoel a chefn gwlad trawiadol sydd i gyd wedi serennu’n gefnlenni i ffilmiau Hollywood a sioeau teledu. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am lawer o leoliadau sydd wedi ymddangos yn Harry Potter, Robin Hood, Lara Croft: Tomb Raider, The Last Kingdom, a Snow White and the Huntsman. Darganfyddwch y straeon y tu ôl i bob un o’r lleoliadau arbennig hyn, a sut i ymweld â nhw.

Cymru – lleoliad ffilmio pwysig

O’i gerddi a’i thraethau i’w phlastai a’i mynyddoedd, mae Cymru’n cynnig popeth sydd ei angen i greu’r gefnlen berffaith i ffilmiau a sioeau teledu. Dysgwch fwy am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd wedi’u defnyddio gan gynyrchiadau mawr i ddod â’u straeon yn fyw.

Doctor Who ar hyd a lled Cymru

Dros y blynyddoedd, rydym wedi chwarae ein rhan yn anturiaethau teithio mewn amser Doctor Who, o ffilmio The Abominable Snowmen yn Nant Ffrancon, Eryri yn 1967, i’r TARDIS yn glanio yn Rhosili, ar Benrhyn Gŵyr yn y blynyddoedd mwy diweddar.

Bydd Gerddi Dyffryn a Thŷ Tredegar yn gyfarwydd i ffannau Doctor Who, gan eu bod yn aml yn gefnlenni i anturiaethau’r Doctor.

Gyda’i harddwch a’i mawredd, roedd Gardd Bompeiaidd Gerddi Dyffryn yn ymddangos dro ar ôl tro fel fersiwn o’r Nefoedd, ac mae’r gerddi hefyd yn eilydd i Balas Versailles yn The Girl in the Fireplace.

Tŷ Tredegar yw’r lleoliad ffilmio dan ein gofal sydd wedi cael y mwyaf o ddefnydd, ac mae pob Doctor wedi ymweld â’r lleoliad ers David Tennant.

Dysgwch fwy

Carry on Up the Khyber, Llwybr Watkin

Ym 1968, cafodd Llwybr Watkin yn Eryri ei ddefnyddio fel Bwlch Khyber - tybiwyd ei fod yn edrych fel y lleoliad go iawn yn Affganistan. Chwaraeodd hyd at 40 o Gymry lleol ran yn y ffilm, a bu’r cast a’r criw yn aros mewn llety yn yr ardal am 10 diwrnod.

Mae’r ffilm yn cynnwys wynebau cyfarwydd y gyfres Carry On – Sid James, Kenneth Williams, Charles Hawtrey, Joan Sims a Peter Butterworth. Gall ymwelwyr ddilyn olion traed yr actorion trwy ddilyn Llwybr Watkin yr holl ffordd i gopa’r Wyddfa.

Mwy o wybodaeth am Lwybr Watkin.

Die Another Day, Traeth Penbryn

Cafodd Traeth Penbryn yng Ngheredigion ei ddefnyddio fel Gogledd Corea yn yr 20fed ffilm Bond gyda Pierce Brosnan, a gyfarwyddwyd gan Lee Tamahori. Treuliodd tîm o wyth dridiau yn adeiladu caban ar y bryn ar gyfer golygfeydd ‘awyr agored’ yr olygfa gariadus derfynol rhwng Halle Berry a Pierce Brosnan.

I ddathlu 50 mlwyddiant 007, rhoddwyd disgen aur goffaol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn anrhydeddu rôl Penbryn yn hanes Bond.

Mwy o wybodaeth am Draeth Penbryn.

Harry Potter and the Deathly Hallows, Freshwater West

Daeth Freshwater West yn Sir Benfro yn gefnlen i’r ffilm Harry Potter and the Deathly Hallows: Part 2 gyda Daniel Radcliffe yn 2011, ffilm sy’n seiliedig ar lyfr J. K. Rowling.

Roedd Shell Cottage yn lloches ddiogel i’r teulu Weasley a chyfeillion yr Order of the Phoenix. Fe’i hadeiladwyd ar y twyni tywod gyda’r manylion lleiaf yn cael eu hystyried, fel gwymon, a chafodd y tŷ hefyd ei lenwi a chynwysyddion dŵr trwm i’w atal rhag symud yn ystod y ffilmio.

Mwy o wybodaeth am Freshwater West.

Yr actor Stephen Graham ar y set yn Nhŷ Tredegar, yng Nghasnewydd, Cymru, ar gyfer y ffilm Journey’s End.
Yr actor Stephen Graham yn Nhŷ Tredegar tra’n ffilmio Journey’s End | © Nick Wall

Journey’s End, Tŷ Tredegar

Tŷ Tredegar oedd gorsaf Byddin Prydain yn y Rhyfel Mawr yng ngogledd Ffrainc yn y ffilm Journey’s End gyda Sam Claflin, Paul Bettany a Stephen Graham yn 2016.

Am ddeuddydd ym mis Tachwedd, roedd y parcdir a’r stablau’n fwrlwm o weithgarwch, gyda phebyll, cerbydau milwrol, ceffylau a thua 100 o actorion cefnogol yn heidio yno. Gyda 90 erw o barcdir yn amgylchynu’r tŷ crand o’r 17eg ganrif, roedd yr holl wyrddni’n ddelfrydol ar gyfer golygfeydd y garsiwn. 

Talwch sylw ac mae’n bosibl y gwelwch Neuadd y Stablau yn Nhŷ Tredegar wedi’i thrawsnewid yn Swyddfa’r Cadfridog. Er mwyn cael blas go iawn ar fywyd y milwyr, gwnaeth yr ecstras, yr oedd llawer ohonynt yn ail-grewyr lleol, wersylla yno dros nos. 

Mwy o wybodaeth am Dŷ Tredegar.

King Arthur: Legend of the Sword, Eryri

Cafodd y ffilm King Arthur: Legend of the Sword ei ffilmio’n bennaf ar dir yr Ymddiriedolaeth yn Nant Gwynant ger Beddgelert a Chapel Curig, yng Nghonwy, yn 2015. Wedi’i chyfarwyddo gan Guy Ritchie, mae’r ffilm o 2017 yn serennu Charlie Hunnam, Eric Bana a Jude Law, ac yn dilyn chwedl Arthur wrth iddo dyfu ac ymladd dros ei deyrnas.

Eryri’n serennu

Cafodd rhai o geidwaid yr Ymddiriedolaeth yn y Carneddau a’r Glyderau eu recriwtio i helpu i osod pethau, a chafodd pobl leol eu defnyddio fel ecstras.

Eryri sy’n serennu – cafodd tref ganoloesol Camlad ei harosod ar gopa dramatig Tryfan. Mae cyfarfyddiad Arthur â Morwyn y Llyn wedi’i leoli yn un o hoff lecynnau’r ffotograffydd hefyd, Llynnau Mymbyr.

Yn ôl arbenigwyr Arthuraidd, Eryri yw lle brwydrodd Arthur y Sacsoniaid ac, yn ôl y chwedl, Llyn Ogwen yw man gorffwys Caledfwlch – casglwch fap o ganolfan y ceidwaid ym Mwthyn Ogwen a chrwydrwch lan y llyn ar drywydd y cleddyf coll.

Mwy o wybodaeth am y Carneddau a’r Glyderau.

Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life, Llyn Gwynant

Serennodd yr eicon Hollywood, Angelina Jolie, yn y brif rôl am yr eildro yn y ffilm o 2003, Lara Croft Tomb Raider: The Cradle of Life. Er bod y ffilm antur-cyffro wedi’i lleoli yn Tsieina, gwrthodwyd yr hawl i ffilmio yno, felly crëwyd pentref Tsieineaidd ar lannau Llyn Gwynant yn Eryri.

Roedd y cynhyrchiad yn cynnwys 30 aelod o’r gymuned Tsieineaidd yng Nghaernarfon a recriwtiwyd fel ecstras, a ffermwr lleol a gyflenwodd ieir, gwyddau a mul.

Mwy o wybodaeth am Graflwyn a Beddgelert.

Robin Hood, Freshwater West

Ym mis Mehefin 2009, ymwelodd criw ffilmio â Freshwater West i recordio brwydr epig ar gyfer Robin Hood Ridley Scott, lle gwelwyd marchogion â phenynau’n carlamu ar hyd y glannau.

Defnyddiwyd dros 600 o ecstras a 150 o geffylau yn ystod y ffilmio ar y traeth. Cwympodd Russell Crowe mewn cariad â’r lleoliad – yn lle neidio ar hofrennydd yn ôl i’w westy yn Llundain ar ôl ffilmio, dewisodd wersylla ar y tywod am sawl noson.

Mwy o wybodaeth am Freshwater West.

Actorion yn marchogaeth ar Draeth Marloes, yn Sir Benfro, ar gyfer y ffilm Snow White and the Huntsman.
Actorion yn marchogaeth ar Draeth Marloes ar gyfer Snow White and the Huntsman. | © Universal Pictures

Snow White and the Huntsman, Traeth Marloes

Daeth y sêr Hollywood Kristen Stewart a Chris Hemsworth ynghyd i ffilmio golygfeydd dramatig ar Draeth Marloes yn Sir Benfro yn 2021 ar gyfer y ffantasi epig Snow White and the Huntsman.

Yn y ffilm, gwelwn Kristen a’i gosgordd arfog yn carlamu tuag at gastell y frenhines ddieflig – castell a gafodd ei arosod yn ddigidol ar Ynys Gateholm. Oherwydd maint y criw, yr holl offer a’r 150 o geffylau a oedd yn rhan o’r olygfa, bu’n rhaid i gontractwr lleol adeiladu ramp mynediad i lawr i’r traeth.

Mwy o wybodaeth am Draeth a Chors Marloes.

The Last Kingdom, Porthor

Cafodd y gyfres deledu Brydeinig, The Last Kingdom, ei hail-greu’n bennaf yng nghefn gwlad Budapest, Hwngari, ond cafodd rhai o’r golygfeydd arfordirol ar gyfer y gyfres gyntaf eu ffilmio ar Draeth Porthor ym Mhen Llŷn, Gogledd Cymru.

Yn seiliedig ar nofelau hanesyddol Bernard Cornwell, The Saxon Stories, dechreuodd y gyfres yn 2015 ac mae’n dilyn hanes mab amddifad bonheddwr Sacsonaidd. Cludwyd y cast, y criw, y ceffylau a’r offer i gyd i lawr i’r traeth ym Mhorthor, a chafodd pobl ar eu gwyliau yn yr ardal olygfa wych o’r ffilmio.

Mwy o wybodaeth am Draeth Porthor.

The Dark Knight Rises, Rhaeadr Henrhyd

Mae Cymru’n gartref i lawer o gynefinoedd ystlumod prin, ond does yr un yn brinnach nac enwocach na chartref Batman ei hun. Pan ddaeth y ffilm Hollywood The Dark Knight Rises i’r sinemâu yn 2012, byddai ffau chwedlonol y Crwsadwr Clogynnog wedi edrych yn gyfarwydd iawn i lawer yng Nghymru. Mae hynny gan taw Rhaeadr Henrhyd ym Mannau Brycheiniog, rhaeadr dalaf De Cymru ar 88 troedfedd, yw’r Bat Cave yn y ffilm ddrudfawr gyda Christian Bale.

Mwy o wybodaeth am Fannau Brycheiniog.

The Secret Garden, Gardd Bodnant

Gardd Bodnant oedd un o bum gardd a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad ffilm o’r llyfr plant clasurol, The Secret Garden. Dros bythefnos ym mis Gorffennaf 2018, cafodd ei thrawsnewid yn set ffilm gyda chamerâu, dronau, tyrbinau gwynt a threlars.

Wedi’i rhyddhau ar Sky Cinema yn 2020, daeth Gardd Bodnant yn seren yn ei rhinwedd ei hun, gan ddarparu’r gefnlen berffaith i’r ardd hudol.

Mwy o wybodaeth am Ardd Bodnant.

Third Star, Bae Barafundle

Wedi’i enwi fel un o draethau gorau’r byd, does ryfedd i Fae Barafundle, yn Stagbwll, Sir Benfro, gael ei ddewis ar gyfer Third Star, drama Brydeinig o 2010.

Mae’r ffilm yn adrodd stori cyfeillion yn eu hugeiniau hwyr sy’n dychwelyd i’r bae am un ymweliad olaf cyn i James, cymeriad Benedict Cumberbatch, farw o ganser terfynol.

Mae ffilmiau blaenorol yn Sir Benfro wedi arosod cestyll a'r cast mewn gwahanol leoliadau, ond mae’r ffilm hon wir yn brolio prydferthwch Barafundle. Roedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn bartner yn y cynhyrchiad, gan ddarparu llety, trafnidiaeth a chyngor ar y tywydd ac amodau lleol drwy gydol y ffilmio.

Mwy o wybodaeth am Fae Barafundle.

Trysorau Cymru: Tai, Tir a Chyfrinachau ar S4C

Gwnaeth cyfres deledu chwe rhan ar S4C yn 2022 roi’r cyfle i wylwyr ddarganfod y straeon sy’n cuddio o fewn waliau chwe o dai a chestyll mwyaf hanesyddol Cymru, gan ofyn cwestiynau pwysig am eu gorffennol – y da a’r drwg.

Gwnaeth Trysorau Cymru: Tir, Tai a Chyfrinachau roi’r cyfle i’r comedïwr, y cyflwynydd a’r gîc hanes (yn ei eiriau ei hun!) Tudur Owen, a’r cadwriaethwr pensaernïol yng Nghaernarfon, Elinor Gray Williams, ddysgu am leoliadau rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chwrdd â’r bobl sy’n gofalu amdanynt.

Roedd y lleoliadau ffilmio’n cynnwys Castell Penrhyn, Castell Powis, Tŷ Tredegar, Castell y Waun, Plas Newydd ac Erddig.

Llefydd i ymweld â hwy yng Nghymru.

Cefnogi lleoedd arbennig

Yn ogystal â brolio ein lleoliadau ysblennydd, mae ffilmio o fudd uniongyrchol i’r llefydd sy’n serennu yn y cynhyrchiad. Mae’r incwm o ffioedd lleoliad yn mynd yn syth at waith cadwraeth i ofalu am dai a thirweddau hanesyddol fel y gallwn fwynhau eu gweld nhw ar y sgrin a gyda’n llygaid ein hunain am flynyddoedd i ddod.

Filming Mariah Mundi and the Midas Box at St Michael's Mount, Cornwall.

I bawb sy’n caru ffilm a’r teledu

Dysgwch pa rai o’n tai hanesyddol a thirweddau dramatig sydd i’w gweld ar eich sgrîn. Cadwch olwg amdanynt mewn dramâu teledu poblogaidd fel Game of Thrones, ac mewn ffilmiau newydd sbon. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A large metal cauldron in the middle of a room at Lacock Abbey, Wiltshire
Erthygl
Erthygl

Gwyliau mewn lleoliad ffilmio 

Awydd gwyliau bach yn rhywle rydych chi wedi’i weld ar sgrîn? O The Secret Garden i Game of Thrones a Harry Potter, mae llawer o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt wedi’u defnyddio fel lleoliadau ffilmio ar gyfer rhai o’ch hoffi ffilmiau a sioeau teledu. (Saesneg yn unig)

A large metal cauldron in the middle of a room at Lacock Abbey, Wiltshire
Erthygl
Erthygl

Darganfyddwch leoliadau ffilmio Harry Potter 

Darganfyddwch fyd hud Harry Potter yn safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle ffilmiwyd golygfeydd, o Hogwarts i Malfoy Manor.

Kristen Stewart, Snow White, Frensham Ponds, Universal Pictures
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â lleoliad Snow White and the Huntsman 

Ymwelwch â Frensham Ponds yn Surrey, cefnlen Snow White and the Huntsman. Dysgwch sut y cafodd ei ffilmio ac am y profiad o weithio gyda chriw ffilmio mewn Ardal Cadwraeth Arbennig.

Dixie Egerickx as orphan Mary Lennox filming at Fountains Abbey for The Secret Garden
Erthygl
Erthygl

The Secret Garden yn cael ei ffilmio yng Ngardd Bodnant 

Dysgwch bopeth am y broses o ffilmio The Secret Garden yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys Gardd Bodnant yng Nghymru a Fountains Abbey yn Swydd Efrog, drwy brofiadau’r sawl oedd ar y set.

A view of the front of the red mansion house
Lle
Lle

Tŷ Tredegar 

Mae Tŷ Tredegar a’i erddi a’i barcdir amgylchynol, lleoliad sydd wedi’i siapio gan y gymuned leol, yn sefyll yn falch wrth galon treftadaeth Casnewydd.

Newport

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o’r awyr o Freshwater West, Sir Benfro.
Lle
Lle

Freshwater West a Fferm Gupton 

Bae gwyllt a thywodlyd sy’n agos at galonnau’r sawl sy’n caru antur a natur.

Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw
Y gors gyda bancyn glaswelltog uwchben a phedair alarch ifanc yn mwynhau yn y dŵr
Lle
Lle

Traeth a Chors Marloes 

Dihangwch i Benrhyn Marloes, trysor cudd sy’n swatio ar ymyl orllewinol Sir Benfro. Mae morluniau godidog a chyfoeth o fywyd gwyllt yn aros amdanoch.

Pembrokeshire

Yn hollol agored heddiw
A large camera on the shoulder of a person during the filming of Wolf Hall at Montacute House in Somerset
Erthygl
Erthygl

Lleoliadau ffilmio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Erioed wedi meddwl sut mae eich hoff lefydd yn dod i ymddangos mewn ffilmiau a dramâu teledu? Ymunwch â’n rheolwyr ffilmio a lleoliadau wrth iddynt rannu straeon rhyfedd a rhyfeddol o’r tu ôl i’r llenni gan ddatgelu rhai o’n lleoliadau mwyaf poblogaidd. (Saesneg yn unig)