Mynediad am ddim i Blas Newydd gyda thocynnau sinema Madfabulous sy’n cymryd rhan

I ddathlu rhyddhau Madfabulous mewn sinemâu mis Mehefin, ffilm a ysbrydolwyd gan fywyd rhyfeddol Henry Cyril Paget, 5ed Ardalydd Môn, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gwahodd cynulleidfaoedd lleol i ddarganfod y stori y tu ôl i'r ffilm yn ei gartref teuluol, Plas Newydd.
I helpu i ddod â'i stori'n fyw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cynnig mynediad am ddim i Dŷ a Gardd Plas Newydd i ymwelwyr sydd wedi gweld Madfabulous mewn sinemâu sy'n cymryd rhan gan gynnwys Neuadd Bentref Llangoed, Pontio a Galeri Caernarfon.
Y cynnig
Gall ymwelwyr â Phlas Newydd ddangos eu tocyn sinema (wedi'i argraffu neu'n ddigidol) wrth gyrraedd i gael mynediad am ddim i Blas Newydd.
- Bydd un tocyn sinema yn caniatáu un tocyn mynediad am ddim i Dŷ a Gardd Plas Newydd sy'n cynnwys mynediad i weld ystafell arddangos ‘Gwisgo’n Ffansi’ sy'n arddangos pum gwisg o'r ffilm Madfabulous.
- Mae'r cynnig ar gael tan ddydd Gwener 17 Gorffennaf 2026.
- Sylwch nad yw'r tocyn yn drosglwyddadwy ac nad oes modd cyfnewid am arian
- Nid yw'r tocyn yn ddilys mewn digwyddiadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle mae tâl ar wahân yn berthnasol.
- Dim ond mewn sinemâu sy'n cymryd rhan y mae'r cynnig yn ddilys - Neuadd Bentref Llangoed, Pontio a Galeri Caernarfon.
- Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu'r cynnig hwn yn ôl ar unrhyw adeg.
Cynlluniwch eich ymweliad
Ewch i weld Plas Newydd i ddatgelu stori ddiddorol y 5ed Ardalydd a phrofi arddangosfa arbennig o bum gwisg drawiadol o'r ffilm, yn arddangos drama a moethusrwydd ei fywyd.
You might also be interested in
Y 5ed Ardalydd a Phlas Newydd
Darganfyddwch stori hudol y 5ed Ardalydd Môn, Henry Cyril Paget, a oedd wrth ei fodd yn perfformio ac yn dawnsio, cyn nid oedd modd iddo fo gynnal ei ffordd o fyw yn bellach.

Plas Newydd yn arddangos gwisgoedd Madfabulous
Pleser i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yw cyhoeddi y bydd ystafell arddangos newydd yn agor ym Mhlas Newydd, Ynys Môn yn ystod mis Mai, gan osod ffilm, ffasiwn a hanes ochr yn ochr â’i gilydd er mwyn ailgyflwyno’r ymwelwyr i un o gyn-breswylwyr mwyaf rhyfeddol y tŷ, sef ‘Ardalydd y Ddawns’.

Plas Newydd a’r Ardd
Ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd restredig Gradd 1 wedi'i leoli ar lannau’r Fenai.
