Skip to content

Murlun Rex Whistler ym Mhlas Newydd

Ymwelydd aneglur yn y blaendir yn edrych ar furlun Rex Whistler yn Yr Ystafell Fwyta, ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru.
Ymwelwyr yn edrych ar furlun Rex Whistler yn Yr Ystafell Fwyta, ym Mhlas Newydd. | © National Trust Images/John Millar

Mae Plas Newydd, Ynys Môn, yn gartref i un o’r murluniau mwyaf a mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Unedig, wedi ei beintio gan yr arlunydd Rex Whistler. Dyluniwyd y murlun uchelgeisiol a dychmygol hwn, sydd dros 17.5 metr o hyd, fel golygfa ddychmygol o ffenestri Plas Newydd yng Nghymru.

Myfyriwr yn Ysgol Gelf Slade

Creodd Rex Whistler ei furlun cyntaf trwy gomisiwn tra’r oedd yn dal yn fyfyriwr yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain. Ar ôl i’r murlun gael ei ddatguddio yn oriel gelf enwog y Tate Britain yn 1927, daeth yn boblogaidd iawn. Ymwelodd Whistler â Phlas Newydd am y tro cyntaf yn ystod y Pasg yn 1936, a chytunwyd ar y comisiwn y mis Ebrill hwnnw.

Paent ac offer Rex Whistler ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru
Paent ac offer Rex Whistler ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Paentiad Rex Whistler ym Mhlas Newydd

Cynllunio'r murlun

Erbyn Gorffennaf y flwyddyn honno, creodd Rex ddyfrlliw llai, manwl o’r cyfansoddiad cyfan i gynllunio’r murlun. Credir mai syniad yr Arglwyddes Marjorie, gwraig y 6ed Ardalydd oedd y comisiwn.

Cyfansoddiadau cymhleth

Roedd Rex Whistler yn feistr ar gyfansoddiadau cymhleth a allai dwyllo’r llygad. Mae’r dirwedd ffansïol Ewropeaidd hon yn ein hannog i feddwl ein bod yn sefyll ar lan y môr ar bromenâd wedi ei balmantu gan edrych ar gei carreg. Yn y pellter mae tref arfordirol sy’n cynnwys pensaernïaeth Rufeinig, ynghyd ag adeiladau Prydeinig y gellir eu hadnabod, gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol
Rex Whistler yn tynnu amlinell y murlun | © National Trust Images/Nick Meers

Yr olygfa chwareus hon oedd un o brif weithiau Whistler, ac fe wnaeth hyd yn oed gynnwys portread ohono ei hun fel garddwr ag ysgub yn ei law.

Gwestai'r teulu

Yn ogystal â bod yn artist dan gomisiwn yn ystod ei amser ym Mhlas Newydd, roedd hefyd yn westai a groesawyd yn fawr gan deulu’r 6ed Ardalydd.

Ystafell Fwyta Whistler ym Mhlas Newydd

Roedd ystafell Whistler ym Mhlas Newydd yn arfer bod yn ystafell fwyta weithredol - a dweud y gwir, roedd unwaith yn gyfres o ystafelloedd llai a gyfunwyd i greu un ystafell fwy. Heblaw golygfa wych ar draws Afon Menai, nid oedd dim i’w gwneud yn arbennig, heb sôn am fod yn destun siarad. Daeth wal yr ystafell fwyta yn fyw gyda’r olygfa fawr wedi ei phaentio sy’n 17.5 metr o hyd.

Trychineb trist

Roedd Rex Whistler yn bwriadu dychwelyd i Blas Newydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd i gwblhau rhai o’r manylion oedd heb eu gorffen ar y murlun. Y trychineb oedd iddo gael ei ladd ar ei ddiwrnod cyntaf yn y lluoedd arfog yn Ffrainc ar 18 Gorffennaf 1944.

Heddiw gallwch ymweld â murlun Whistler fel rhan o’ch ymweliad â’r tŷ. Mae’r tŷ ar gau yn ystod y gaeaf.

Tu mewn i stydi’r 7fed Ardalydd, gyda wal o silffoedd llyfrau a nifer o fyrddau ac arwynebau wedi eu gorchuddio â llyfrau a phapurau ym Mhlas Newydd, Ynys Môn

Casgliadau Tŷ a Gardd Plas Newydd

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol
Erthygl
Erthygl

Hanes Plas Newydd 

Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.

Golygfa o Blas Newydd yn Ynys Môn, Gogledd Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

Cacennau cri, crwn, fflat yn llawn o gyrens yn y bwyty ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd 

Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

Coeden blodau ceirios gyda'r Tŷ yn y cefndir
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.