Pethau i'w gwneud o Borth y Swnt

Mae digon i'w weld a'i wneud o amgylch pentref pysgota Aberdaron. Archwiliwch yr arfordir unigryw hwn dros eich hun.
Porth y Swnt yw’r man cychwyn delfrydol i grwydro Pen Llŷn. Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru, crwydrwch drwy’r twyni, a gweld bywyd gwyllt lleol ar hyd y ffordd. Am rywbeth mwy anturus, ewch i'r dŵr gyda sesiwn caiacio, yna ymlacio yn y sawna ar ôl nofio yn y môr.

Cerdded o gwmpas Aberdaron
Rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen ac ewch am dro ar hyd yr arfordir o amgylch Aberdaron. Gyda’i dwyni tywod ysgubol, clogwyni garw, a thraethau euraidd, mae’r dirwedd syfrdanol hon yn addo profiad bythgofiadwy. Crwydrwch ar hyd y tywod, gan fwynhau golygfeydd godidog Mor Iwerddon. Mae'r arfordir yn gwahodd archwiliad pellach, gydag ogofeydd môr cudd, pyllau glan môr, a llwybr arfordirol golygfaol yn arwain at draethau tawel, diarffordd i'r ddau gyfeiriad - paradwys anturiaethwr go iawn.
Caiacio yn Aberdaron
Bob haf, mae Porth y Swnt yn cynnig cyfleoedd i roi cynnig ar gaiacio ar hyd yr arfordir godidog hwn. Gan ddefnyddio caiacau eistedd ar ben sefydlog, mae’r sesiynau hyn yn cael eu haddasu i’r grŵp ac amodau’r môr, gan gynnig rhywbeth i bawb. Mae dyddiau tawelach yn caniatáu padlo gyda chyfle i ddysgu am hanes cyfoethog, bywyd gwyllt a thirwedd dramatig yr ardal. Ar ddiwrnodau gyda thonnau mwy bywiog, gall cyfranogwyr brofi gwefr syrffio caiac. Yn aml, mae amodau'n caniatáu cymysgedd o'r ddau.

Profiad Sawna
Mwynhewch brofiad sawna ger y môr ar draeth Aberdaron. Mae'r sawna Ffindir traddodiadol hwn sy'n cael ei danio â choed yn cynnig cyfle i fwynhau machlud euraidd, boreau braf, awyr las glir, neu stormydd dramatig, i gyd tra'n eistedd yng nghynhesrwydd adferol y sawna. Am fwy o wybodaeth ac i archebu eich profiad, ewch i wefan Sauna Môr.
You might also be interested in

Pethau i'w gwneud ym Mhorth y Swnt
Yn swatio yng nghanol Aberdaron, mae Porth y Swnt yn ganolfan ymwelwyr unigryw. Mae'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.

Arfordiroedd a thraethau Pen Llŷn
Dysgwch fwy am bethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhen Llŷn yng Ngogledd Cymru, o chwilota ym mhyllau glan môr Porthor i ddarganfod diwylliant a hanes ym Mhorth y Swnt.

Pethau i’w gweld a’u gwneud ym Mhlas yn Rhiw
Dewch i Blas yn Rhiw yng Ngwynedd i ddysgu sut y gwnaeth tenantiaid y gorffennol y tŷ yn gartref cysurus.