Skip to content

Garddio yng Nghastell Powis

Diwrnod heulog gyda golygfa o Ardd Castell Powis yng Nghymru yn dangos y garddwr yn tocio’r gwrychoedd ywen a’r gwrychoedd pren bocs a’r bryniau yn y pellter
Garddwr ar beiriant codi yn tocio’r gwrychoedd yng Nghastell Powis, Cymru | © National Trust Images / Arnhel de Serra

Mae’r ‘twmpathau’ mawr ywen a’r milltiroedd o wrychoedd pren bocs yn olygfa enwog yng Nghastell Powis. O arddio eithafol i hanes o docio gwrychoedd, dysgwch ragor am ein gwaith yn cadw’r tirlun hardd hwn mewn trefn.

Garddio eithafol yng Nghastell Powis

Mae bron i 8,500 metr sgwâr o wrychoedd ffurfiol yng ngerddi Castell Powis. Mae’r 14 o ‘dwmpathau’ ywen a gwrych y teras uchaf yn ychwanegu 7,000 metr sgwâr arall at hyn. Ond sut mae ein garddwyr yn cadw’r llwyni 14 metr o uchder yma yn edrych mor wych?

‘Mae tocio’r coed tocwaith uchel yn dasg anferth. Mae’n cymryd tua 10 wythnos i un garddwr ar beiriant codi hydrolig i wneud y gwaith.’

– David Swanton, Prif Arddwr

‘Twmpathau’ ywen

Mae’r yw wedi eu tocio ar hyd y terasau yn aros ar y meddwl ymhell ar ôl ymweliad, nid yn unig oherwydd eu maint anferth, ond oherwydd eu bod yn elfen mor bwysig o’r ardd.

Mae cadw’r ‘twmpathau’ yw yn y cyflwr gorau un yn her, ond mae ein garddwyr yn gwneud i’r dasg ymddangos yn hawdd. Yn hwyr yn yr haf a’r hydref cynnar maent yn codi i’r awyr mewn peiriant codi ac yn treulio sawl wythnos yn tocio coed tocwaith uchel yr ardd. Bydd hyn yn gwarantu y bydd y gwrychoedd yn edrych yn wych am y 12 mis nesaf.

Golygfa o’r borderi blodau a’r gwrychoedd pren bocs ar deras yr orendy yng ngardd Castell Powis ar ddiwrnod heulog ym mis Gorffennaf
Lliw haf yng Nghastell Powis | © National Trust Images / Mark Bolton

Tocio’r gwrychoedd

Mae’n dasg anferth gwneud yr holl waith tocio yng Ngardd Castell Powis. Bydd dau arddwr yn treulio chwe wythnos yn tocio’r gwrych pren bocs a dau arall yn treulio 12 wythnos yn gweithio ar yr yw. Bydd un garddwr yn treulio tua 10 wythnos yn yr awyr ar y peiriant codi hydrolig, yn gwneud yr holl waith tocio.

Garddio hen ffasiwn

Efallai ei bod yn swnio’n dasg anferth, ond mae ein tîm yn y gerddi’n eithaf lwcus. Hyd yn gymharol ddiweddar, roedd yn cymryd pedwar mis llawn i 10 o ddynion docio’r holl wrychoedd bocs ac ywen. Byddent yn defnyddio offer llaw ac yn sefyll ar ysgolion hir iawn. Byddent yn cael eu clymu hefo’i gilydd pan oedd angen, i gyrraedd blaen yr yw talaf. Mae peiriannau trydan yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn lleihau’r dasg yn sylweddol.

Teulu yn cerdded ar hyd llwybr a gwrychoedd hyd ei ochrau, tuag at dwnnel mewn gwrychoedd tal, yng Nghastell Powis, Cymru
Ymwelwyr yn yr ardd yn y gwanwyn yng Nghastell Powis, Cymru | © National Trust Images/John Millar
Wyneb Castell Powis yn dangos dilyniant y terasau oddi tano gyda’r yw anferth yng Nghastell Powis, Cymru.

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Spring apple blossom with a lawn and the red stone medieval Powis Castle behind, Welshpool, Wales
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Powis 

Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.

Golygfa o’r ardd ym mis Gorffennaf tua chefn gwlad yr ardal o gwmpas Castell Powis, Powys, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes yr ardd yng Nghastell Powis 

Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.

Golygfa ar Flaen Dwyreiniol Castell a Gardd Powis, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Powis 

Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.

Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yng Nghastell Powis 

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.

A small white dog sat at a café table
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell a Gardd Powis gyda'ch ci 

Mae gan Gastell a Gardd Powis sgôr o un bawen. Dysgwch ragor am ddod â’ch ci i Gastell a Gardd Powis. Gallwch aros yn y Cwrt i weld y castell a chael diod a thamaid i’w fwyta hefo’ch ci wrth eich ochr. Dysgwch yr ardd 1 Tachwedd - 28 Chwefror.

Portread o Robert Clive, Y Barwn 1af Clive o Plassey ‘Clive o’r India’ gan Syr Nathaniel Dance-Holland RA (Llundain 1735)
Erthygl
Erthygl

Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis 

Mae Amgueddfa’r Teulu Clive yn cynnwys mwy na 300 o eitemau o India a’r Dwyrain Pell yn y casgliad preifat mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch ragor am ei hanes.