
Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Beth sy’n fwy rhamantus na phriodi eich gwir gariad gyda chastell canoloesol yn gefndir? Mae'r Orendy yng ngardd Castell Powis yn lleoliad perffaith ar gyfer cyplau sydd newydd ddyweddïo ac yn chwilio am leoliad priodas agos-atoch a chwaethus.
Mae’r Orendy sy’n swatio mewn gardd fyd-enwog yng Nghastell Powis wedi’i thrwyddedu i gynnal priodasau.
Lleoliad awyr agored yw’r Orendy yn bennaf, ac felly dim ond o fis Mai i fis Medi y gallwn ni gynnal priodasau yno. Rydym wedi ein cyfyngu i gynnal llond llaw o briodasau y flwyddyn, felly holwch yn gynnar i osgoi siom. Er bod y safle cyfan yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ar ddiwrnod eich priodas, bydd Teras yr Orendy yn yno i’ch defnydd chi yn unig drwy gydol eich seremoni.
Gall yr Orendy ddal hyd at 20 o bobl yn eistedd, neu rhwng 20 a 30 o bobl yn sefyll. Os yw nifer eich gwesteion priodas yn fwy na hynny, gallwn ddefnyddio’r teras y tu allan i’r Orendy a chynnig seddi cyfforddus i 80 o westeion ychwanegol.
Mae croeso i ffotograffydd o’ch dewis ymuno â chi drwy gydol eich seremoni, o’r daith arbennig yn y car i’r gusan gyntaf – gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio pob eiliad. Yr Orendy yw'r unig ardal seremoni drwyddedig ar y safle, ond unwaith y byddwch wedi adrodd eich addunedau priodas gallwch fwynhau tynnu lluniau arbennig o amgylch yr ardd, ac yng nghwrt y castell. Yn anffodus, ni chaniateir fideo na drôn.
Wrth ddewis Castell Powys fel lleoliad ar gyfer eich priodas, byddwch yn falch bod pob ceiniog o’r arian yn mynd yn ôl i'r gwaith pwysig rydyn ni'n ei wneud i ofalu am y lle arbennig hwn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau. Mae prisiau'r seremoni fel a ganlyn:
Priodas yng nghanol yr wythnos: £1500 +TAW
Priodas ar y penwythnos: £1750 +TAW
Mae'r ardd yng Nghastell Powis yn adnabyddus am ei therasau Eidalaidd sydd wedi goroesi o'r 17eg ganrif. Mae'r Orendy wedi'i guddio yn un o'r terasau hynny, islaw'r Aviary Terrace ac uwchben y Teras Isaf. Gyda pherthi wedi’u tocio, cerfluniau a blodau tymhorol, mae'r Orendy yn lleoliad perffaith ar gyfer seremoni briodas agos-atoch a chwaethus.
Os ydych chi’n cynllunio dyweddïad, wedi dyweddïo’n ddiweddar neu’n chwilio am leoliad ar gyfer lluniau ar ddiwrnod eich priodas, gallwch archebu sesiwn ffotograffiaeth yng Nghastell a Gardd Powis. Rhaid archebu ymlaen llaw a chodir tâl o £175 +TAW.
Bydd gennych ddwy awr i grwydro'r ardd a chwrt y castell i dynnu’r lluniau holl bwysig y byddwch yn eu trysori am byth. Yn anffodus, ni chaniateir fideo a drôn.
I archebu lle, ffoniwch 01938 551944 neu e-bostiwch powiscastle@nationaltrust.org.uk.
Rydym yn ffodus ein bod yn gallu mwynhau gardd hynod amrywiol a hardd yng Nghastell Powis. Gyda therasau, coetir, lawntiau ffurfiol a gerddi rhosod, rydym yn hyderus y byddwch yn dod o hyd i'r union leoliad sy'n addas i chi.
Roedd y terasau Eidalaidd yn ychwanegiad cynnar at yr ardd a grëwyd gan y pensaer William Winde yn y 1680au. Roedd Winde, a gyflogwyd gan William Herbert, Marcwis Cyntaf Powis, wedi creu gardd debyg yn Cliveden, Swydd Buckingham.
Mae'r Orendy wedi swatio yn y teras a byddai wedi cael ei ddefnyddio fel lle difyr i ymddiddan, ciniawa a mwynhau golygfa a distawrwydd yr ardd islaw. Daethpwyd â’r drws carreg mawreddog, clasurol o ben gorllewinol y Castell ei hun gan y Fonesig Violet pan oedd hi a’i gŵr yn ceisio efelychu golwg ganoloesol y Castell.
Erbyn heddiw, mae coed oren mewn potiau y tu mewn a thu allan i’r adeilad, ac fe welwch chi clivias trwmped oren a melyn. Mae rhosod yn dringo o amgylch Yr Orendy, ac mae gwrychoedd taclus ar hyd y lawntiau.
Rydym wrth ein bodd bod yn rhan o ddiwrnod arbennig pobl. Os ydych yn cynllunio priodas ac yn awyddus i gael golwg o’r hyn sydd gennym i’w gynnig, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.
Bydd ein tîm Profiad Ymwelwyr ymroddedig wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gennych, ac yn fwy na pharod i’ch tywys o gwmpas y safle cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau.
I ymholi, e-bostiwch powiscastle@nationaltrust.org.uk. Edrychwn ymlaen at eich ymholiad.
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Castell Cymreig yw Powis a adeiladwyd gan dywysog Cymreig, Gruffudd ap Gwenwynwyn (tua 1252). Goroesodd ryfeloedd a’i rannu i ddod yn un o gestyll amlycaf Cymru.
Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Os ydych yn ymweld gyda’ch plant neu wyrion, fe gewch chi ddigon i ddifyrru’r teulu cyfan yng Nghastell Powis a’r Ardd.