Skip to content

Sêr-syllu yng Nghymru

People with telescopes stargazing at Cragside, Northumberland, North East
Mae ardaloedd awyr dywyll Cymru’n berffaith ar gyfer sêr-syllu | © National Trust Images/John Millar

Mae Cymru’n gartref i rai o safleoedd sêr-syllu gorau’r byd, gyda nifer o safleoedd Dark Sky Discovery a Gwarchodfeydd Awyr Dywyll Rhyngwladol. Gwnewch y gorau o wybren glir, rewllyd y gaeaf neu nosweithiau cynnes yr haf i fwynhau’r sioe arallfydol hon.

Y safleoedd sêr-syllu gorau

Bannau Brycheiniog
Yn 2012, daeth Bannau Brycheiniog yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol gyntaf y wlad. Gallwch hyd yn oed fwynhau cysgu o dan y sêr yn safle carafannau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nolaucothi.
Eryri
Eryri oedd yr ail le i ennill Statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, yn 2015. Gyda mwy na 800 milltir sgwâr o fynyddoedd a dyffrynnoedd, mae’n teimlo fel bod y ddaear i gyd oddi tanoch wrth i chi sefyll ar ei chopaon – ac yn y nos, yr wybren uwch eich pennau chi hefyd. Mae clogwyni a thraethau Pen Llŷn hefyd yn cynnig awyr glir gampus gyda’r nos gydag Ynys Enlli yn cael ei ddynodi yn ddiweddar fel y safle cyntaf yn Ewrop i dderbyn Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.
Ceredigion
Mae Ceredigion hefyd yn gartref safleoedd sêr-syllu syfrdanol. Mae ein fferm weithiol hanesyddol yn Llanerchaeron nid yn unig yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar gyfer bywyd gwyllt ond hefyd yn cynnig Awyr Dywyll arbennig ynghanol cefn gwlad. Mae’r traeth milltir o hyd ym Mhenbryn hefyd yn llecyn poblogaidd (ac, yn goron ar y cyfan, fe allech weld morloi a dolffiniaid trwynbwl yn chwarae yn y dyfroedd wrth iddi nosi).
The night sky from Durgan beach at Glendurgan Gardens, Cornwall
Sêr-syllu ar yr arfordir | © National Trust Images/James Dobson

Safleoedd sêr-syllu gorau Sir Benfro

Mae arfordir a chefn gwlad Sir Benfro, gyda’u lefelau isel o lygredd golau, yn gartref i safleoedd Awyr Dywyll gwych, hygyrch, sy’n cynnig golygfeydd ysgubol.

Rydym wedi bod yn gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ennill cydnabyddiaeth i’n safleoedd arbennig gan DSD fel llecynnau gwych a hygyrch i fwynhau golygfeydd clir o awyr y nos.

Safleoedd sêr-syllu i ymweld â nhw

  • Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol De Aber Llydan (SA71 5DZ)
  • Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Garn Fawr (SA64 OJJ)
  • Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Kete (SA62 3RR)
  • Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Martin’s Haven (SA62 3BJ)
  • Maes parcio’r Parc Cenedlaethol Traeth Niwgwl (SA62 6BD)
  • Maes parcio’r Parc Cenedlaethol Traeth Poppit (SA43 3LN)
  • Maes parcio’r Parc Cenedlaethol Skrinkle Haven (SA70 7SD)
  • Safle picnic y Parc Cenedlaethol Sychpant (SA65 9UA)
Visitors enjoying one of Bristol Astronomical Society's stargazing evenings at Tyntesfield, North Somerset
Gwisgwch yn gynnes ar gyfer eich antur sêr-syllu | © National Trust Images/Steve Sayers

Help llaw gan yr arbenigwyr

Rydym yn cynnal digwyddiadau sêr-syllu yng Ngerddi Dyffryn ger Caerdydd, lle mae gan Gymdeithas Astronomegol Caerdydd arsyllfa. Mae’n gyfle gwych i archwilio’r awyr gyda chymorth arsyllwyr mwy profiadol a defnyddio rhai o delesgopau arbenigol y gymdeithas.

Dysgwch fwy

Does dim angen i chi fod yn seryddwr i fwynhau awyr y nos – gwisgwch yn gynnes ac edrychwch i fyny, mae’n syml! Mae’n well gwneud hyn fel rhan o grŵp – mae’n fwy diogel ac yn fwy o hwyl. I weld gwybodaeth am fynediad ac awgrymiadau ar sêr-syllu’n ddiogel, ewch i wefan Dark Sky Discovery (Saesneg yn unig).

Small girl running between conical topiary hedges in the Cherry Garden at Ham House

Ble fydd eich ymweliad nesaf?

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

The Gribin, a steep sided ridge overlooking Solva Harbour, Pembrokeshire
Erthygl
Erthygl

Sir Benfro 

Mae tirwedd Sir Benfro yn gyfuniad lliwgar o arfordir a chefn gwlad, gyda thraethau eang, gwlyptiroedd toreithiog ac ynysoedd creigiog i chi eu darganfod.

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Eryri 

Darganfyddwch gopaon trawiadol, llynnoedd rhewlifol a choetiroedd hynafol Eryri, tirwedd ysbrydoledig sy’n drysorfa o chwedlau.

Golygfa tuag at Borthdinllaen, pentref pysgota bach gydag ychydig o fythynnod gwyngalchog dan glogwyn glaswelltog ym Mhenrhyn Llŷn, Cymru. Mae ychydig o longau pysgota yn y dŵr a phobl yn cerdded ar y clogwyn uwchben y pentref.
Erthygl
Erthygl

Llŷn 

Dysgwch am bethau i’w gweld a’u gwneud yn Llŷn, penrhyn o draethau mawr eang a diwylliant cyfoethog. Darganfyddwch y lleoedd gorau i gael cip ar eich hoff anifeiliaid glan môr a ble i aros yn ystod eich ymweliad.

A hiker sitting looking at the view from the Brecon Beacons
Lle
Lle

Bannau Brycheiniog 

Rhyfeddwch at gopaon dramatig Pen y Fan a Chorn Du, darganfyddwch ddyffrynnoedd gwyrddion, llynnoedd cudd a choetiroedd hynafol, ac ymwelwch â Rhaeadr Henrhyd.

Libanus, Powys

Yn hollol agored heddiw
Y tu allan i Lanerchaeron gyda chennin Pedr yn blodeuo.
Lle
Lle

Llanerchaeron 

Darganfyddwch fila Sioraidd o’r 18fed ganrif yn nyffryn coediog Aeron, gyda gardd furiog hardd, fferm weithiol a llyn.

near Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Magnolia blossoms on the Great Lawn with the house in the background, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Lle
Lle

Gerddi Dyffryn 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

St Nicholas, Vale of Glamorgan

Yn rhannol agored heddiw